logo_w

29 Ebrill 2013
PR 07/13

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mawrth gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau Tai mis Mawrth wedi codi 0.1 y cant oddi ar fis Chwefror: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,793
  • 1,317 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Ionawr 2013
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mawrth gyda 245,168 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 47,600 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mawrth yn amrywio o £14,000 i £12.5 miliwn.

Mae data mis Mawrth o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.9 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,793. Mae'r newid misol o fis Chwefror i fis Mawrth yn dangos cynnydd o 0.1 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 18 y cant ym mis Ionawr 2013 i 1,317 o gymharu â 1,602 ym mis Ionawr 2012.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 9.6 y cant.
  • Llundain welodd y cynnydd pris misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 2.5 y cant.
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr yw’r rhanbarth a welodd y gostyngiad pris blynyddol mwyaf gyda symudiad o 5.5 y cant.
  • Gogledd Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 2.5 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2013 ostwng 5 y cant i 41,763 o gymharu â 43,752 ym mis Ionawr 2012.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ionawr 2013 wedi cynyddu 28 y cant i 610 o 476 ym mis Ionawr 2012.
  • Llundain a Chymru oedd yr unig ranbarthau i weld cynnydd o ran adfeddiannau o 28 y cant a 24 y cant yn y drefn honno (mis Ionawr 2013 o gymharu â mis Ionawr 2012).

chevron_bullet Llwytho yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai llawn i lawr
chevron_bullet Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
chevron_bullet Am y Mynegai Prisiau Tai

 
Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Chwefror 2013) Newid blynyddol
(oddi ar fis Mawrth 2012)
Pris cyfartalog
(Mawrth 2013)
Llundain 2.5% 9.6% £374,568
Swydd Gaerefrog a’r Humber 1.1% -0.8% £117,192
Dwyrain Lloegr 1.0% 1.1% £174,753
Gorllewin Canolbarth Lloegr 1.0% 0.4% £130,276
Dwyrain Canolbarth Lloegr 0.3% -0.7% £122,795
Cymru a Lloegr 0.1% 0.9%£161,793
De Ddwyrain Lloegr -0.3% 1.2% £208,479
De Orllewin Lloegr -0.5% 0.0% £170,110
Cymru -0.9% 1.2% £116,174
Gogledd Ddwyrain Lloegr -1.8% -5.5% £97,033
Gogledd Orllewin Lloegr -2.5% -4.9% £106,537

 

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
(Cymru a Lloegr)
Mawrth 2013 Mawrth 2012 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£256,145

£251,521

1.8%

Tŷ pâr

£153,270

£153,139

0.1%

Tŷ teras

£121,616

£122,029

-0.3%

Fflat/Fflat deulawr

£153,575

£150,012

2.4%

Holl

£161,793

£160,365

0.9%

 

Nifer y gwerthiannau, 2011-2012

Mis Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2011
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

43,752

37,642

16%

Chwefror

44,821

39,695

13%

Mawrth

61,315

46,778

31%

Ebrill

43,225

50,789

-15%

Mai

52,459

49,008

7%

Mehefin

59,747

57,755

3%

Gorffennaf

59,022

62,339

-5%

Awst

64,847

64,452

1%

Medi

52,612

63,584

-17%

Hydref

58,837

58,021

1%

Tachwedd

63,253

60,391

5%

Rhagfyr

55,385

63,614

-13%

Cyfanswm

659,275

654,068

1%

 

Nifer y gwerthiannau, 2012-2013

Mis Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) Gwahaniaeth

Ionawr

41,763

43,752

-5%

 

Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth Ionawr 2013 Ionawr 2012 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

98

139

-29%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

119

164

-27%

Llundain

171

134

28%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

39

42

-7%

Gogledd Orllewin Lloegr

281

339

-17%

De Ddwyrain Lloegr

161

196

-18%

De Orllewin Lloegr

80

102

-22%

Cymru

110

89

24%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

86

165

-48%

Swydd Gaerefrog a’r Humber

172

232

-26%

Cymru a Lloegr

1,317

1,602

-18%

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,076,873 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys 1,036,522 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda:

  • 229,236 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
  • 485,645 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
  • 149,812 yn chwiliadau
  • 55,686 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

 

Trafodion am werth

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth

My Home Move Limited

1001

Countrywide Property Lawyers

871

O'Neill Patient

605

Chwiliadau

Tri phrif gwsmer Chwiliadau
Enact 4,570
Optima Legal Services 4,029
O’Neill Patient 3,586

Ceisiadau fesul rhanbarth

Rhanbarth Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

245,168

Llundain Fwyaf

200,149

Gogledd Orllewin Lloegr

117,807

De Orllewin Lloegr

106,496

Gorllewin Canolbarth Lloegr

91,840

Swydd Gaerefrog a'r Humber

88,211

Dwyrain Canolbarth Lloegr

76,455

Cymru

53,950

Gogledd Lloegr

51,469

Dwyrain Anglia

44,853

Ynysoedd Sili

167

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

38

Cyfanswm

1,076,873

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 47,600 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mawrth 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mawrth 2013 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington, Llundain, a werthwyd am dros £12 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Mawrth 2013 wedi'i leoli yn Burnley, swydd Gaerhirfryn, a werthwyd am £14,000.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Mawrth am 11 y bore ar ddydd Iau 30 Mai 2013.
  2. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoeddy.
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  9. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  10. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler Am y Mynegai Prisiau Tai i gael rhagor o wybodaeth.
  11. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i .
  12. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  13. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
  14. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
    • Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
    • I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.

    Cysylltu

    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix