logo_w

Rhyngwladolvector-world-map-v2-2_04

Mae gennym dros 150 o flynyddoedd o brofiad a gwybodaeth o ddatblygu systemau cofrestru tir o'r radd flaenaf.

Trwy ein Huned Ryngwladol gallwn rannu'r arbenigedd hwn gyda gwledydd eraill i'w helpu i ddatblygu systemau a phrosesau cofrestru a gweinyddu tir effeithiol. Mae ein Huned Ryngwladol wedi bodoli ers dros ddeng mlynedd. Ei diben yw rhoi cyngor a gwybodaeth dechnegol i wledydd sy'n ceisio:

  • sefydlu a datblygu perchnogaeth tir preifat
  • diogelu daliadaeth tir
  • datblygu marchnadoedd tir a morgais effeithiol.

Manteision

  • Rydym ar flaen y gad yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cofrestru tir – gan ategu sefydlogrwydd a thwf economaidd byd-eang.
  • Rydym yn rhannu gwybodaeth ac arbenigedd gyda gwledydd eraill er mwyn datblygu systemau a phrosesau gweinyddu tir effeithiol. Mae sicrwydd perchnogaeth a hawliau tir yn ategu sefydlogrwydd economaidd ac mae'n cynyddu hyder mewn buddsoddi.
  • Mae ein gwasanaethau dibynadwy o safon wedi'u teilwra i ddiwallu eich anghenion unigol.

Ein gwasanaethau 

Cyngor a chefnogaeth  
Gwybodaeth ac arbenigedd gweinyddu tir perthnasol am ystod eang o feysydd gweinyddu a pholisi tir. Sut y gallwn helpu >> 

Ymweliadau addysgol 
Trefnu ymweliad â'n swyddfeydd yn y DU. Mae rhaglenni wedi'u teilwra i ddiwallu'ch anghenion penodol. Ymweld â ni >>

Hyfforddiant 
Hyfforddiant gyda'n datrysiadau hyfforddi arbennig, p'un ai ydych ar lefel mynediad neu broffesiynol. Hyfforddi gyda ni >>

Partneriaethau busnes 
Gweithiwch gyda ni ar brosiectau rhyngwladol, p'un ai ydych yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat. Gweithio gyda ni >>

Cwrdd â'r tîm

Dod i adnabod yr Uned Ryngwladol. Cwrdd â'r tîm >>

Mynegai Prisiau Tai

Mehefin 2014: 276.6

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £172,011 Newid:
Misol 0.0%
Blynyddol 6.4%
Mynegai nesaf: 9.30 y bore ar 29 Awst 2014

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
Back to Top
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix