29 Ebrill 2013
PR 07/13
Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mawrth gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau Tai mis Mawrth wedi codi 0.1 y cant oddi ar fis Chwefror: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,793
- 1,317 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Ionawr 2013
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mawrth gyda 245,168 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 47,600 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mawrth yn amrywio o £14,000 i £12.5 miliwn.
Mae data mis Mawrth o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.9 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,793. Mae'r newid misol o fis Chwefror i fis Mawrth yn dangos cynnydd o 0.1 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 18 y cant ym mis Ionawr 2013 i 1,317 o gymharu â 1,602 ym mis Ionawr 2012.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 9.6 y cant.
- Llundain welodd y cynnydd pris misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 2.5 y cant.
- Gogledd Ddwyrain Lloegr yw’r rhanbarth a welodd y gostyngiad pris blynyddol mwyaf gyda symudiad o 5.5 y cant.
- Gogledd Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 2.5 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2013 ostwng 5 y cant i 41,763 o gymharu â 43,752 ym mis Ionawr 2012.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ionawr 2013 wedi cynyddu 28 y cant i 610 o 476 ym mis Ionawr 2012.
- Llundain a Chymru oedd yr unig ranbarthau i weld cynnydd o ran adfeddiannau o 28 y cant a 24 y cant yn y drefn honno (mis Ionawr 2013 o gymharu â mis Ionawr 2012).
Llwytho yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai llawn i lawr
Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
Am y Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Chwefror 2013) | Newid blynyddol (oddi ar fis Mawrth 2012) |
Pris cyfartalog (Mawrth 2013) |
---|---|---|---|
Llundain | 2.5% | 9.6% | £374,568 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 1.1% | -0.8% | £117,192 |
Dwyrain Lloegr | 1.0% | 1.1% | £174,753 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 1.0% | 0.4% | £130,276 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.3% | -0.7% | £122,795 |
Cymru a Lloegr | 0.1% | 0.9% | £161,793 |
De Ddwyrain Lloegr | -0.3% | 1.2% | £208,479 |
De Orllewin Lloegr | -0.5% | 0.0% | £170,110 |
Cymru | -0.9% | 1.2% | £116,174 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -1.8% | -5.5% | £97,033 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -2.5% | -4.9% | £106,537 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) |
Mawrth 2013 | Mawrth 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl |
£256,145 |
£251,521 |
1.8% |
Tŷ pâr |
£153,270 |
£153,139 |
0.1% |
Tŷ teras |
£121,616 |
£122,029 |
-0.3% |
Fflat/Fflat deulawr |
£153,575 |
£150,012 |
2.4% |
Holl |
£161,793 |
£160,365 |
0.9% |
Nifer y gwerthiannau, 2011-2012
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
43,752 |
37,642 |
16% |
Chwefror |
44,821 |
39,695 |
13% |
Mawrth |
61,315 |
46,778 |
31% |
Ebrill |
43,225 |
50,789 |
-15% |
Mai |
52,459 |
49,008 |
7% |
Mehefin |
59,747 |
57,755 |
3% |
Gorffennaf |
59,022 |
62,339 |
-5% |
Awst |
64,847 |
64,452 |
1% |
Medi |
52,612 |
63,584 |
-17% |
Hydref |
58,837 |
58,021 |
1% |
Tachwedd |
63,253 |
60,391 |
5% |
Rhagfyr |
55,385 |
63,614 |
-13% |
Cyfanswm |
659,275 |
654,068 |
1% |
Nifer y gwerthiannau, 2012-2013
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
41,763 |
43,752 |
-5% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Ionawr 2013 | Ionawr 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr |
98 |
139 |
-29% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
119 |
164 |
-27% |
Llundain |
171 |
134 |
28% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
39 |
42 |
-7% |
Gogledd Orllewin Lloegr |
281 |
339 |
-17% |
De Ddwyrain Lloegr |
161 |
196 |
-18% |
De Orllewin Lloegr |
80 |
102 |
-22% |
Cymru |
110 |
89 |
24% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
86 |
165 |
-48% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
172 |
232 |
-26% |
Cymru a Lloegr |
1,317 |
1,602 |
-18% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,076,873 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys 1,036,522 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda:
- 229,236 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
- 485,645 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
- 149,812 yn chwiliadau
- 55,686 yn drafodion am werth.
Trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited |
1001 |
Countrywide Property Lawyers |
871 |
O'Neill Patient |
605 |
Chwiliadau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 4,570 |
Optima Legal Services | 4,029 |
O’Neill Patient | 3,586 |
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr |
245,168 |
Llundain Fwyaf |
200,149 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
117,807 |
De Orllewin Lloegr |
106,496 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
91,840 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber |
88,211 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
76,455 |
Cymru |
53,950 |
Gogledd Lloegr |
51,469 |
Dwyrain Anglia |
44,853 |
Ynysoedd Sili |
167 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) |
38 |
Cyfanswm |
1,076,873 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 47,600 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mawrth 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mawrth 2013 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington, Llundain, a werthwyd am dros £12 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Mawrth 2013 wedi'i leoli yn Burnley, swydd Gaerhirfryn, a werthwyd am £14,000.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Mawrth am 11 y bore ar ddydd Iau 30 Mai 2013.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoeddy.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler Am y Mynegai Prisiau Tai i gael rhagor o wybodaeth.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i .
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
Cysylltu
- Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297, marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
- Dewch o hyd i ni ar LinkedIn a Facebook