Gwylwyr Gwancus: Datgelu arferion Teledu ac ar-lein y DU

03 Awst 2017

  • Cenedl sy'n hoffi gwylio gwancus: mae 40 miliwn ohonom bellach yn gwylio penodau niferus un ar ôl y llall 
  • Ond gwahaniaethau sylweddol rhwng arferion gwylio pobl ifanc a'r henoed  
  • Mae pobl yng Nghymru yn gwylio hanner awr yn fwy o deledu bob dydd na gweddill y DU

Mae'r DU yn genedl sy'n hoffi gwylio gwancus, yn ôl ymchwil Ofcom gydag wyth ymhob deg o oedolion bellach yn gwylio penodau niferus o'u hoff rhaglenni un ar ôl y llall.

Mae'r darganfyddiadau yn rhan o Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu 2017, adroddiad blynyddol gan Ofcom, sy'n datgelu newidiadau sylweddol yn y ffordd mae pobl ifanc a'r henoed yn gwylio teledu.

Mae wyth ymhob deg o oedolion yn y DU (79%) -neu 40 miliwn o bobl-yn defnyddio technoleg dal-i-fyny fel BBC iplayer neu wasanaethau tanysgrifio sy'n cynnwys Netflix, i wylio nifer o raglenni ar ôl ei gilydd, heb aros wythos i weld beth sy'n digwydd yn y bennod nesaf. Mae treian (35%) yn gwneud hyn yn wythnosol a mwy na hanner (55%) yn fisol.

Yn ôl ymchwil Ofcom mae pobl yng Nghymru yn gwylio tua phedair awr o deledu bob dydd, 28 munud yn fwy na gweddill y DU a gwledydd eraill gyda 74% yn wylwyr gwancus brwd (binge watchers).

Mae'r mwyafrif o'r gwylwyr gwancus yn y DU (70%) yn mwynhau'r math hyn o wylio ac yn dweud ei fod yn eu hymlacio ac i eraill mae'n gyfle i drafod gyda ffrindiau (24%). Ond mae treian o oedolion (32%) yn cyfaddef fod y demtasiwn i wylio pennod arall yn cyfrannu at golli cwsg a blinder.

Efallai, o ganlyniad i hyn mae dros dreian (35%) o'r gwylwyr gwancus a dros hanner (47%) o oedolion ifanc rhwng 16-24 yn ceisio peidio gwylio cymaint o raglenni. Mae hyn yn cynnwys gwtogi eu hamser gwylio,(19%), dod o hyd i ddiddordeb allgyrsiol arall (10%), neu ganslo tanysgrifiad Teledu hyd yn oed (4%).

Cymaint yw'r atyniad, mae nifer o wylwyr yn dweud bod atyniad y bennod nesaf yn rhy bwerus i'w wrthod. Mae dros saith mewn deg  (74%) yn dweud eu bod weithiau'n gwylio mwy nag oedden nhw wedi bwriadu gwneud, gyda 18% yn dweud fod hyn bob amser yn digwydd.

Mae gwylio gwancus yn fwy poblogaidd ymhlith yr ifanc: mae dros hanner (53%) o'r sawl sydd rhwng 12-15 yn mwynhau sesiynau gwylio gwancus yn wythnosol, o gymharu â 16% yn unig ymhlith y rhai sydd dros 65. Ymhlith y garfan hŷn, mae'n well gan dros hanner (59%) wylio'r un bennod draddodiadol wythnosol.

Dim difethu!

I lawer o wylwyr gwancus, mae'r awch i wylio rhaglenni yn cael ei annog gan yr ofn y bydd eraill yn difethu diwedd y rhaglen (25%). Gall hyn feddwl fod rhai (16%) yn teimlo o dan bwysau i wylio cymaint â theulu a ffrindiau.

I rai, mae'r dyddiau o orfod dilyn amserlen Deledu yn dod i ben, wrth i wylwyr y DU gymryd mantais o wylio rhaglenni pa bryd bynnag y mynnent, ymhle bynnag a fynnent. Mae dros dreian o bobl y gwylio Teledu wrth deithio -ar eu gwyliau (24%), ar y ffordd i'r gwaith (16%) neu yn y dafarn hyd yn oed (7%).

Mae dros hanner (51%) yn gwylio Teledu yn eu hystafell wely, gydag eraill yn gwylio yn y gegin (16%), yr ardd, (9%) neu yn yr ystafell ymolchi (9%).

Fodd bynnag, BBC iPlayer yw'r gwasanaeth ar-alwad mwyaf polbogaidd gyda 63% o oedolion yn ei ddefnyddio, 40% yn defnyddio ITV Hub ac yna 38% ar gyfer YouTube a 31% ar gyfer Netflix.

Mae gwasanaethau ar-alwad yr holl ddarlledwyr fel All 4 ac ITV Hub yn boblogaidd gyda phob ystod oed. Mae 75% o oedolion ifanc rhwng 16-24 a 59% o'r garfan dros 65 yn defnyddio'r gwasanaethau hyn.

Mae'n well gan 59% o'r garfan dros 65 oed wylio cyfresi deledu yn y ffordd draddodiadol, yn wythnosol, o gymharu gyda 40% a 36% o bobl ifanc rhwng 12-15 a 16-24 oed.

Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: “Mae pobl yng Nghymru yn manteisio ar dechnoleg teledu, ac yn mwynhau'r rhyddid i wylio beth bynnag a phryd bynnag yr hoffent. I rai, mae hyn yn golygu mwynhau sawl pennod o gyfres deledu yn rheolaidd o gwmpas y tŷ neu wrth symud o le i le.

“Ond mae teledu byw yn dal i ddenu pobl ac mae’n rhan annatod o hyd o fywyd teulu, gyda theuluoedd yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i gyd-wylio rhaglenni neu ffilmiau.”

Darllenwch ragor am y Farchnad Gyfathrebu yng Nghymru a llwythwch i lawr yr Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebu yn Gymraeg.