Yn ôl ymchwil Ofcom, mae pobl yng Nghymru yn gwylio tua phedair awr o deledu bob dydd, 28 munud yn fwy na gweddill y DU a gwledydd eraill. .
Mae Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu 2017, a gyhoeddir heddiw, yn datgelu'r gwahaniaethau rhwng arferion gwylio a gwrando pobl Cymru o’u cymharu â phobl yn y DU.
Er bod y nifer sy’n gwylio’r teledu yn gostwng yn araf, mae pobl yng Nghymru yn dal yn gwylio pedair awr ar gyfartaledd bob dydd, o'i gymharu â 3 awr 32 munud yng ngweddill y DU.
Gellir defnyddio proffil cynulleidfa Cymru i esbonio'r gyfran uwch o wylio yng Nghymru; gwelwyd yn gyson bod y gyfran uchaf o’r gwylwyr (53% yn 2016) yn 55 oed a hŷn, sef grŵp oedran sydd fel arfer yn gwylio mwy o deledu na phobl ifanc.
Munudau o deledu sy'n cael eu gwylio bob dydd ar gyfartaledd, fesul gwlad: 2011-2016
Mae ymchwil Ofcom yn dangos bod pobl yng Nghymru yn manteisio ar y ffaith eu bod yn gallu gwylio rhaglenni lle bynnag yr hoffent.
Dywedodd mwy na wyth o bob deg (84%) eu bod yn mwynhau'r ffaith eu bod yn gallu gwylio’r hyn a fynnent, pa bryd bynnag y mynnent, a dywedodd dwy ran o dair (67%) eu bod yn mwynhau gwylio rhaglenni ar-alwad er mwyn osgoi hysbysebion.
Gwasanaethau dal-i-fyny gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yw’r gwasanaethau dal-i-fyny mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae chwech o bob deg person (62%) yn defnyddio BBC iPlayer, ac mae mwy na phedwar o bob deg (44%) yn defnyddio ITV Hub.
Mae technoleg ar-alwad a thechnoleg ffrydio wedi creu’r gallu i wylio mwy nag un bennod un ar ôl y llall, ac mae hyn yn golygu nad oes raid aros wythnos i weld beth sy’n digwydd ar ddiwedd pennod.
Mae mwy na saith o bob deg (74%) person yng Nghymru yn gwylio nifer o benodau un ar ôl y llall sef 'gwylio gwancus'. Mae bron tri o bob deg (28%) yn gwylio rhaglenni am gyfnodau hir bob wythnos ac mae bron hanner (46%) yn gwylio nifer o benodau un ar ôl y llall yn fisol.
Mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy’n gwylio nifer o benodau un ar ôl y llall (76%) yng Nghymru yn teimlo eu bod yn ymlacio neu’n cael pleser wrth wylio teledu fel hyn, ond mae mwy na thri o bob deg (33%) wedi dweud bod gwylio nifer o benodau un ar ôl y llall wedi gwneud iddynt golli cwsg.
I lawer, mae gwylio'r teledu yn rhywbeth maent yn ei wneud ar eu pen eu hunain. Dywedodd oddeutu hanner (49%) y bobl yng Nghymru eu bod yn gwylio rhaglenni teledu a ffilmiau ar eu pen eu hunain bob dydd, a dywedodd tri o bob deg (30%) eu bod yn gwneud hyn sawl gwaith yr wythnos.
Ond mae dros hanner (55%) y bobl yn dweud eu bod yn treulio gormod o amser yn gwylio’r teledu ar eu pen eu hunain ar eu ffonau clyfar a dyfeisiau tabled. Yn wir, dywedodd tri o bob deg (30%) o oedolion yng Nghymru fod aelodau eu teulu yn eistedd yn yr un ystafell ac yn gwylio gwahanol raglenni ar wahanol sgriniau o leiaf unwaith yr wythnos.
Ac nid dim ond yn y lolfa mae pobl yn gwylio’r teledu, gan fod hanner y gwylio yn digwydd yn yr ystafell wely, ar wyliau (17%), wrth gymudo (16%) neu hyd yn oed yn yr ystafell ymolchi (9%).
Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: “Mae pobl yng Nghymru yn manteisio ar dechnoleg teledu, ac yn mwynhau'r rhyddid i wylio beth bynnag a phryd bynnag yr hoffent. I rai, mae hyn yn golygu mwynhau sawl pennod o gyfres deledu yn rheolaidd o gwmpas y tŷ neu wrth symud o le i le.
“Ond mae teledu byw yn dal i ddenu pobl ac mae’n rhan annatod o hyd o fywyd teulu, gyda theuluoedd yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i gyd-wylio rhaglenni neu ffilmiau.”
Er bod y dechnoleg ffrydio yn mynd yn fwy a mwy poblogaidd, teledu byw yw dewis cyntaf y bobl yng Nghymru o hyd ar gyfer gwylio newyddion. Mae mwy na chwech o bob deg (62%) yn dweud eu bod yn ei wylio i gael y newyddion diweddaraf a'r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas.
Ac mae gwylio fel teulu yn dal yn rhan annatod o fywyd Cymreig. Mae dwy ran o dair (66%) o bobl yng Nghymru yn cytuno bod gwylio'r teledu yn helpu i ddod â’r teulu ynghyd i rannu profiad.
Dywedodd saith o bob deg (70%) fod aelodau o’u teulu yn dod ynghyd bob wythnos i wylio rhywbeth gyda’i gilydd, a dywedodd ychydig dros dri o bob deg (31%) fod eu teulu yn dod ynghyd bob dydd.
Gwyliodd 37.6% o boblogaeth Cymru y gêm bêl-droed rhwng Cymru a Gwlad Belg yn nhwrnamaint pêl-droed Ewro 2016, gyda chynulleidfa o ychydig dros filiwn. Y rhaglen ddadansoddi ar ôl y gêm hon oedd rhaglen fwyaf poblogaidd y flwyddyn, gyda chynulleidfa o 1.2 miliwn.
Yn ogystal â gwylio mwy o deledu na gweddill y DU, mae pobl yng Nghymru yn gwrando ar fwy o radio hefyd nag un man arall. Mae mwy na naw o bob deg (91.6%) oedolyn yng Nghymru yn gwrando ar y radio, ac mae pobl yn treulio mwy o amser yn gwrando hefyd, dros filiwn o oriau yn fwy gyda’i gilydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae gwrandawyr yng Nghymru yn gwrando am gyfnod hwy hefyd na gwrandawyr yng ngweddill y DU drwyddi draw – gan wrando am 22.7 awr mewn wythnos gyffredin, o’i gymharu â 21.4 awr ar draws y DU gyfan.
Mae pum deg wyth y cant o oedolion yng Nghymru yn berchen ar set radio digidol (DAB), mwy nag yn yr Alban a mwy nag yng Ngogledd Iwerddon. Roedd y twf yn y nifer sy’n berchen ar radio digidol yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU, a chynyddodd 8 pwynt canran rhwng 2015 a 2016.
Mae gwasanaethau DAB gan y BBC ar gael i 92% o gartrefi yng Nghymru gyda darpariaeth gan Digital One, un o’r amlblecsau masnachol sy’n gwasanaethu'r DU gyfan yn cyrraedd 67% o gartrefi yng Nghymru. Mae’r ddarpariaeth DAB leol yng Nghymru yn 86% o gartrefi.
DIWEDD
CYSWLLT
Elinor Williams
elinor.williams@ofcom.org.uk
07881 987 188