logo_w

09/11 04/07/2011

Y Gofrestrfa Tir yn parhau i ganolbwyntio ar y Rhaglen Trawsnewid er gwaethaf blwyddyn heriol

Heddiw (30 Mehefin 2011) cyhoeddodd y Gofrestrfa Tir, adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am gofrestru tir yng Nghymru a Lloegr, ei Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2010/11. Yn ogystal, cyhoeddodd y sefydliad ei ymateb i’r papur ymgynghori E-Conveyancing Secondary Legislation part 3 oedd yn ceisio barn am gynigion i greu trosglwyddiadau electronig gyda llofnodion electronig ac i ymestyn y defnydd o arwystlon cyfreithiol electronig (math o forgais).

Wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol dywedodd Malcolm Dawson, y Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr:

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r farchnad eiddo wedi parhau i grebachu gan arwain at leihad yn y llwyth gwaith o 13 y cant. Er gwaethaf hyn, rydym wedi cyflawni nifer o dargedau heriol gan gynnwys y rhai ar gyfer cyflymder a chywirdeb, yn ogystal â’n dangosyddion perfformiad allweddol ariannol. Rydym wedi cael rhai llwyddiannau nodedig hefyd, yn eu plith ehangiad cyflym ein rhwydwaith o dimau cwsmeriaid sy’n rhoi gwasanaeth penodol i’n defnyddwyr busnes.

“O dan ein rhaglen trawsnewid cyflymedig, rydym wedi lleihau nifer y staff 18.7 y cant ac rydym ar y trywydd cywir gydag ailstrwythuro’n hystad. Yn anochel mae’r newidiadau wedi bod yn anodd ac yn boenus, ond rydym yn gwneud cynnydd cyn yr amserlen wreiddiol a byddwn yn gwneud arbedion net o dros £500 miliwn. O gymharu â’r llynedd (£30.1 miliwn) a’r flwyddyn gynt (£130 miliwn), gwnaethom golled o dros £2.9 miliwn sy’n dangos bod y penderfyniadau anodd a wnaethom yn dwyn ffrwyth gan roi sefydlogrwydd ariannol.

“Mae’r ganran o drafodion a wnaed trwy sianeli electronig wedi parhau i gynyddu, gyda dros 70 y cant o gymerwyr benthyg yn defnyddio’n gwasanaeth rhyddhau electronig a thros 85 y cant o wasanaethau rhagarweiniol yn cael eu cyflwyno trwy’r porthol. Fodd bynnag, fel y mae’r ymateb i’n papur ymgynghori’n dangos (a gyhoeddwyd heddiw hefyd), mae cwsmeriaid a budd-ddeiliaid yn bryderus o hyd am y defnydd o lofnodion a thrafodion electronig.

“Ar ôl gwrando ar ystod eang o bobl, rydym yn canolbwyntio ar gyflwyno ac anfon electronig. Credwn fod yr ateb hwn lle y gall cwsmeriaid ddefnyddio e-sianelau i anfon dogfennau papur atom yn ymarferol, call ac yn deall eu hanghenion. O ganlyniad, rydym yn dibrisio gwariant datblygu sy’n ymwneud ag arwystlon, llofnodion a throsglwyddiadau electronig ac yn gwneud nifer o addasiadau cyfrifo eraill yn yr adroddiad blynyddol i adlewyrchu statws presennol ein gwasanaethau’n well. Dros gyfnod o chwe blynedd rydym wedi buddsoddi £41 miliwn i gyflwyno cyfres o e-wasanaethau’n llwyddiannus, gan gynnwys y porthol, e-ddiogelwch a’r porth busnes. Fodd bynnag, yn dilyn yr adborth mae’n amlwg yn well atal datblygu e-drosglwyddiadau nawr cyn y caiff symiau sylweddol pellach eu gwario, yn hytrach na pharhau i ddatblygu cynnyrch nad ydym yn ffyddiog y bydd ein cwsmeriaid yn ei ddefnyddio.

“Rydym wedi colli rhai targedau, gan gynnwys y dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid yn gyffredinol a chysylltiad cyflogeion, sef y rheswm pam y byddwn yn canolbwyntio’n arbennig ar eu gwella yn y flwyddyn i ddod. Rwyf am i’n pobl gysylltu’n llawnach wrth gyflwyno’r targedau hyn fel y gall pob un ohonom edrych ymlaen yn hyderus at ddathlu 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir yn 2012.”

Ymhlith uchafbwyntiau’r flwyddyn mae:

  • Timau cwsmeriaid: ar ddiwedd 2009/10 roedd gennym o leiaf un tîm cwsmeriaid ymhob swyddfa. Flwyddyn yn ddiweddarach mae gennym dros 90 a Swyddfa Plymouth oedd y cyntaf i drosglwyddo’n llwyr i weithio mewn timau cwsmeriaid.
  • Ymchwil a mewnwelediad: rydym wedi datblygu a mabwysiadu Sgôr Hyrwyddwr Net fel mesuriad newydd o foddhad cwsmeriaid, fydd yn cael ei ddefnyddio mewn arolygon yn y dyfodol.
  • Amrywiaeth: rydym yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflawni chwiliadau o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol a gwybodaeth arall a gyflenwir ar hyn o bryd gan awdurdodau lleol.
  • Ychwanegu gwerth: un o’n nwyddau mwyaf llwyddiannus yw’r Property Portfolio Consolidator sy’n rhoi gwybodaeth fanwl i landlordiaid sy’n deillio o’r Gofrestr Tir am eu portffolio.
  • E-wasanaethau: erbyn hyn y porthol yw’r prif borth i’n e-wasanaethau busnes ar-lein gyda dros 12,000 o sefydliadau wedi cofrestru. Ym mis Mawrth 2011 cawsom dros 1.1 filiwn o drafodion trwy’r porthol.
  • Cyfathrebu electronig: troswydLandnet,ein cylchgrawn i gwsmeriaid o gyhoeddiad ar bapur i gyhoeddiad electronig ac rydym wedi ymuno â Twitter hefyd, sydd eisoes yn cyflawni rhwydwaith dda o ran maint sy’n denu cysylltiad cyson, yn ôl Klout.com. 
  • Perfformiad ac Arloesiad: cynllun peilot llwyddiannus i wella cynhyrchedd ac effeithlonrwydd gan ddefnyddio egwyddorion Lean yn Nottingham sydd bellach yn cael ei ymestyn i swyddfeydd Caerloyw a Weymouth.
  • Cofrestr Tir Cynhwysfawr: rhagorwyd ar y dangosydd perfformiad allweddol o ychwanegu 250,000 hectar drwy gofrestriad gwirfoddol o bron 45,000 hectar.
  • Mentrau gwyrdd: rhagorwyd ar dargedau i leihau allyriadau carbon (36.5 y cant yn hytrach na 12.5 y cant) a chynyddu faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu (60 y cant yn hytrach na 40 y cant).
  • Indemniad: talwyd£9.4 miliwm am 963 o hawliadau o gymharu â £7.8 miliwn am 1,011 o hawliadau'r llynedd.
  • Mesurau gwrth-dwyll: o fewn cyfanswm cyffredinol, talwyd £7.4 miliwn am 71 o hawliadau twyll o gymharu â £4.9 miliwn am 53 o hawliadau o’r Gronfa Indemniad y llynedd. Fodd bynnag, o ganlyniad i’n gweithgaredd trwyadl a pharhaus i atal twyll, mae llai o achosion o dwyll yn cael eu cofrestru nawr. Eleni rydym wedi ehangu ein tîm arbenigol a chyflwyno gwelliannau TG i helpu i ganfod twyll.
  • Yr uned ryngwladol: drafftiwyd y Mesur Cofrestru Teitl Tir ar gyfer Llywodraeth Bermuda.
  • Amrywiaeth: datblygodd ein grŵp ffocws du a lleiafrifoedd ethnig gwrs ‘Rhyddhau eich Potensial’ sydd wedi’i ymestyn i staff ag anableddau.
  • Gwobrau: enilloddstaff yn swyddfeydd Plymouth a Systemau Gwybodaeth wobr gan bartner cyflwyno lleol, y Shekinah Mission, am eu gwaith gwirfoddol fel hyfforddwyr swyddi. Cydnabuwyd gwaith agos ein tîm Adnoddau Dynol gyda’r Canolfan Byd Gwaith ac arbenigwyr lleoliadau gwaith i roi cyngor am yrfaoedd a chyflogaeth i staff yr effeithiwyd arnynt gan y Rhaglen Trawsnewid Cyflymedig yng Ngwobrau 2010 y Gwasanaeth Sifil lle yr enillwyd y categori Rheoli Adnoddau ganddynt a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr AD cyffredinol.
  • Rhannu gwasanaethau: byddTNT UK Ltd yn gweithredu ein storfeydd ffeiliau rhanbarthol o fis Gorffennaf eleni ar ôl penderfyniad i ymuno â Fframwaith Rheoli Cofnodion Traws-Lywodraethol y Weinyddiaeth Amddiffyn.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifol y Gofrestrfa Tir 2010/11 ar gael, am £20.50, o www.tsoshop.co.uk Mae copïau ar gael i’r cyfryngau o swyddfa’r wasg ar 0300 0067543. Mae’r datganiad i’r wasg ar gael yn Saesneg hefyd. Cysylltwch â swyddfa’r wasg i gael copi neu ewch i www1.landregistry.gov.uk Gellir gweld yr adroddiad yn Gymraeg ar-lein yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/annualreport
  2. Gwnaed addasiadau i’r Cyfrifon i adlewyrchu gwerth y gwariant datblygu e-drawsgludo i’r Gofrestrfa Tir. Mae’r rhan fwyaf o’r gwariant (£41 miliwn dros gyfnod o chwe blynedd) wedi’i ddefnyddio’n llwyddiannus ac mae’n ategu cyfres bresennol o e-wasanaethau’r Gofrestrfa Tir, gan gynnwys y porthol, e-ddiogelwch a’r porth busnes. Fodd bynnag, caiff £6.4 miliwn o gostau datblygu sydd i’w’ priodoli i arwystlon, llofnodion a throsglwyddiadau electronig ei ddibrisio ar ôl derbyn adborth gan gwsmeriaid. Yn ogystal, gwariwyd £4.5 miliwn o wariant e-drawsgludo ar ôl cyflwyno’r meddalwedd i gefnogi’r gyfres o e-wasanaethau yn llwyddiannus. Ceir addasiad hefyd o £1.7 miliwn ar gyfer dibrisiad a ddylai fod wedi’i godi mewn cyfnodau blaenorol. Caiff y symiau hyn eu dibrisio hefyd.
  3. Mae’r adroddiad ymgynghori E-Conveyancing Secondary Legislation – part 3 ar gael yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/info/consultations Byddai’r cynigion newydd wedi’i gwneud yn bosibl cyflawni’r prif gamau trawsgludo wrth werthu a phrynu tŷ yn electronig am y tro cyntaf, yn hytrach na defnyddio dogfennau ar bapur. Cynhaliwyd y broses ymgynghori rhwng 22 Mawrth a 25 Mehefin 2010.
  4. Cafwyd 43 o ymatebion gan drawsgludwyr, rhoddwyr benthyg, sefydliadau ariannol, cyrff rheoleiddiol a chynrychioliadol (fel Cymdeithas y Cyfreithwyr, Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, Cyngor Benthycwyr Morgeisi a Chyngor y Trawsgludwyr Trwyddedig) a gweithwyr eiddo proffesiynol eraill.
  5. Nododd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr nad oeddent wedi’u darbwyllo eto bod e-drosglwyddiadau yn ddymunol nac yn gyflawnadwy mewn cyfnod gyda gwerthiannau eiddo isel a risg uwch o dwyll. Mynegwyd pryder sylweddol hefyd bod y broses ar gyfer creu llofnod electronig yn rhy gymhleth. Cadarnhaodd yr ymgynghoriad nad oedd cwsmeriaid yn teimlo bod e-arwystl yn diwallu eu hanghenion.
  6. Er i’r Gofrestrfa Tir dderbyn ei harwystl electronig cyntaf ym mis Mawrth 2009, roedd yr ymateb yn dilyn hyn yn siomedig gyda dim ond tua 20 o arwystlon yn cael eu creu a’u cofrestru. Oherwydd i’r e-arwystl gael ei anelu ar y farchnad ail-forgeisio, rhwystrwyd ymdrech y Gofrestrfa Tir i annog cwsmeriaid i fabwysiadu’r gwasanaeth gan fethiant y farchnad ar ôl argyfwng y banciau.
  7. Gyda’r gronfa ddata o drafodion fwyaf o’r fath gyda manylion dros 22 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
  8. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd yn 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  9. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.ukCysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Jill Inglis 0300 0067487

jill.inglis@landregistry.gsi.gov.uk

 

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix