logo_w

PR1/11

22/12/2011

Adolygiad y Gofrestrfa Tir o wybodaeth eiddo ar gyfer Cymru a Lloegr 2011

Fel yr unig sefydliad i gofrestru gwerthiannau eiddo yng Nghymru a Lloegr, mae'r Gofrestrfa Tir mewn sefyllfa unigryw i roi cipolwg ar y farchnad eiddo yn 2011.

Wrth i 150fed penblwydd y Gofrestrfa Tir ddynesu yn 2012, mae'n cofnodi canrif a hanner o warchod perchnogaeth gwerth llawer o filiynau o eiddo a rhoi tawelwch meddwl i berchnogion tai am ddibynadwyedd y Gofrestr Eiddo.

Mae'r wybodaeth ganlynol ar gyfer mis Ionawr i fis Tachwedd yn gynhwysol[1] :

  • £161,727 oedd y pris cyfartalog a dalwyd am eiddo yng Nghymru a Lloegr yn 2011 (o gymharu â )£164,916 yn 2010)
  • Gwerthwyd yr eiddo drytaf yng Nghymru a Lloegr yn 2011 am £19.25 million am dy sengl yn Hampstead, gogledd Llundain
  • Gwerthwyd yr eiddo rhataf yng Nghymru a Lloegr yn 2011 am £16,000 am dy teras yn Middlesborough
  • Y rhanbarth welodd ygostyngiad prisiau mwyaf drwy'r flwyddyn oedd Gogledd Ddwyrain Lloegr (-5.4%)
  • Y rhanbarth welodd y cynnydd prisiau mwyaf yn drwy'r flwyddyn oedd Llundain (1.4%)
  • O fis Ionawr i fis Tachwedd yn gynhwysol gwerthwyd 539,577eiddo yng Nghymru a Lloegr
  • Y sir welodd y nifer fwyaf o werthiannauoedd Llundain Fwyaf
  • Y sir welodd y nifer lleiaf o werthiannau oedd Merthyr Tudful
  • Tai teras oedd y math eiddo welodd y nifer fwyaf o werthiannau
  • Fflatiau welodd y nifer lleiaf o werthiannau yn 2011
  • Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo:
    o Tŷ sengl - £255,788
    o Tŷ pâr - £153,158
    o Tŷ teras - £122,867
    o Fflat/Fflat deulawr - £150,949
  • Yn ystod 2011 gwerthwyd 6,275 eiddo am dros £1 filiwn o bunnoedd yng Nghymru a Lloegr
  • Gwerthwyd16 ohonynt am dros £10 miliwn

Mae'r gofrestr teitl (holl eiddo cofrestredig) ar gael i'r cyhoedd i'w weld ar-lein am ffi o £4 y teitl. Gellir ei defnyddio os byddwch:

  • am edrych ar y gofrestr teitl a/neu gynllun teitl eiddo yn eich meddiant
  • am ganfod pwy sy'n berchen ar eiddo
  • â diddordeb mewn prynu eiddo
  • amprydlesu neu rentu eiddo ac mae angen cysylltu â'r landlord.

Ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/e-services/find-a-property i gael rhagor o wybodaeth.

Nodiadau i olygyddion

  1. Casglwyd y wybodaeth ynghyd ar ran y Gofrestrfa Tir gan Calnea Analytics www.calnea.com
  2. Mae'r Gofrestrfa Tir yn cyhoeddi Mynegai Prisiau Tai misolar 20fed diwrnod gwaith y mis. Cyhoeddir mynegai mis Tachwedd ar 30ain Rhagfyr 2011.
  3. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  4. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Jess Prasad 0300 0067037
Jessica.prasad@landregistry.gsi.gov.uk

Duncan Keary 0300 0067522
Duncan.keary@landregistry.gsi.gov.uk



[1] Nid yw ffigurau mis Rhagfyrar gael eto. Yn draddodiadol,mae mis Rhagfyr yn fis arafach o ran trafodion eiddo.

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix