Data Tueddiadau'r Farchnad mis Gorffennaf gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau tai mis Gorffennaf yn codi 1.0 y cant oddi ar fis Mehefin: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £164,098.
- 1,365 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Mai 2013.
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Gorffennaf gyda 308,448 o geisiadau.
- Cyflwynwyd dros 75,000 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Gorffennaf yn amrywio o £15,000 i £23.3 miliwn.
- Mae cofnodion prisiau tai ar gael fel data cysylltiedig.
Mae data mis Gorffennaf o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.8 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £164,098. Mae'r newid misol o fis Mehefin i fis Gorffennaf yn dangos cynnydd o 1.0 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 23 y cant ym mis Mai 2013 i 1,365 o gymharu â 1,765 ym mis Mai 2012.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 6.3 y cant.
- Gwelodd Llundain a Dwyrain Canolbarth Lloegr y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 2.1 y cant.
- Y rhanbarth gyda'r gostyngiad pris blynyddol mwyaf yw Cymru gyda gostyngiad o 2.2 y cant.
- Cymru welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol hefyd gyda gostyngiad o 0.5 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mai 2013 gynyddu 19 y cant i 62,651 o gymharu â 52,516 ym mis Mai 2012.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Mai 2013 wedi cynyddu 28 y cant i 740 o 576 ym mis Mai 2012.
- Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Swydd Gaerefrog a’r Humber gyda gostyngiad o 32 y cant (185 ym mis Mai 2013 o gymharu â 272 ym mis Mai 2012).
Llwytho adroddiad llawn mis Gorffennaf i lawr (PDF, 448KB)
Mynediad i'r set lawn o ddata
Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
Y Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Mehefin 2013) | Newid blynyddol(oddi ar fis Gorffennaf 2012) | Pris cyfartalog(Gorffennaf 2013) |
---|---|---|---|
Llundain | 2.1% | 6.3% | £385,799 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 2.1% | 0.5% | £124,395 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 2.0% | -0.1% | £99,718 |
Dwyrain Lloegr | 1.0 % | 1.3% | £176,762 |
Cymru a Lloegr | 1.0% | 0.8% | £164,098 |
De Orllewin Lloegr | 0.9% | 1.0% | £173,371 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 0.8% | -1.8% | £116,665 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 0.5% | 0.6% | £130,404 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.4% | 1.5% | £212,934 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -0.1% | -1.6% | £108,008 |
Cymru | -0.5% | -2.2% | £115,149 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Gorffennaf 2013 | Gwahaniaeth | |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £257,413 | £256,581 | 0.3% |
Tŷ pâr | £155,244 | £153,522 | 1.1% |
Tŷ teras | £124,620 | £123,172 | 1.2% |
Fflat/Fflat deulawr | £155,174 | £154,494 | 0.4% |
Holl | £164,098 | £162,746 | 0.8% |
Nifer y gwerthiannau 2011-2012
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth | |
---|---|---|---|---|
Ionawr | 43,764 | 37,653 | 16% | |
Chwefror | 44,844 | 39,706 | 13% | |
Mawrth | 61,348 | 46,783 | 31% | |
Ebrill | 43,258 | 50,803 | -15% | |
Mai | 52,516 | 49,018 | 7% | |
Mehefin | 59,844 | 57,767 | 4% | |
Gorffennaf | 59,125 | 62,350 | -5% | |
Awst | 64,981 | 64,458 | 1% | |
Medi | 52,815 | 63,595 | -17% | |
Hydref | 59,143 | 58,035 | 2% | |
Tachwedd | 63,811 | 60,410 | 6% | |
Rhagfyr | 56,463 | 63,637 | -11% | |
Cyfanswm | 661,912 | 654,215 | 1% |
Nifer y gwerthiannau 2012-2013
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,125 | 43,764 | -1% |
Chwefror | 44,841 | 44,844 | 0% |
Mawrth | 53,858 | 61,348 | -12% |
Ebrill | 49,700 | 43,258 | 15% |
Mai | 62,651 | 52,516 | 19% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Mai 2013 | Mai 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 97 | 124 | -22% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 120 | 143 | -16% |
Llundain | 139 | 170 | -18% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 42 | 48 | -13% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 297 | 413 | -28% |
De Ddwyrain Lloegr | 173 | 213 | -19% |
De Orllewin Lloegr | 87 | 119 | -27% |
Cymru | 105 | 118 | -11% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 120 | 145 | -17% |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 185 | 272 | -32% |
Cymru a Lloegr | 1,365 | 1,765 | -23% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,335,860 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys 1,286,531 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 311,667 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 582,441 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 189,111 yn chwiliadau a 67,179 yn drafodion am werth.
Trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited | 1,331 |
O'Neill Patient | 814 |
Countrywide Property Lawyers | 758 |
Chwiliadau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 8,071 |
Optima Legal Services | 6,070 |
O'Neill Patient | 3,689 |
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloeg | 308,448 |
Llundain Fwyaf | 247,400 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 144,001 |
De Orllewin Lloegr | 134,134 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 112,473 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 106,067 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 95,079 |
Gogledd Lloegr | 66,832 |
Cymru | 65,532 |
Dwyrain Anglia | 55,763 |
Ynysoedd Sili | 89 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 50 |
Cyfanswm | 1,335,865 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 75,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Gorffennaf 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Gorffennaf 2013 wedi'i leoli yng ngorllewin Llundain, a werthwyd am £23,305,000. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Gorffennaf 2013 wedi'i leoli ym Mlaenau Gwent, a werthwyd am £15,000.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Awst am 11 y bore ar ddydd Gwener 27 Medi.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006.
- Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler esboniad o'r termau a ddefnyddir.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
- Mae'r Data Pris a Dalwydyn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- Nawr gellir llwytho Data pris a dalwyd hanesyddol rhwng mis Ionawr 2009 a mis Ionawr 2012 i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol rhwng 1995 a 2008, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn er y byddant ar gael i'w llwytho i lawr am ddim erbyn mis Tachwedd 2013.
Cysylltu
- Marion Shelley 0300 006 7543, 07790 690297, marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
- Dewch o hyd i ni ar LinkedIn a Facebook a'n blog