Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Awst gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau tai mis Awst wedi codi 0.1 y cant oddi ar fis Gorffennaf: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £164,654.
- 1,131 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Mehefin 2013.
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Awst gyda 283,919 o geisiadau.
- Cyflwynwyd dros 72,800 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Awst yn amrywio o £10,500 i £12.5 miliwn.
- Cofnodion prisiau tai ar gael fel data cysylltiedig gyda'r datganiad hwn .
Mae data mis Awst o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir shows yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 1.3 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £164,654. Mae'r newid misol o fis Gorffennaf i fis Awst yn dangos cynnydd o 0.1 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 21 y cant ym mis Mehefin 2013 i 1,131 o gymharu â 1,423 ym mis Mehefin 2012.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 7.1 y cant.
- Yng Ngogledd Orllewin Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.3 y cant.
- Gogledd Ddwyrain Lloegr yw’r rhanbarth a welodd y gostyngiad pris blynyddol mwyaf gyda symudiad o 2.2 y cant.
- Cymru welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 2.1 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2013 gynyddu 1.0 y cant i 60,168 o gymharu â 59,854 ym mis Mehefin 2012.
- Bu cynnydd o 16 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2013 i 788 o 679 ym mis Mehefin 2012.
- Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Cymru gyda gostyngiad o 37 y cant (71 ym mis Mehefin 2013 o gymharu â 113 ym mis Mehefin 2012).
Llwytho adroddiad llawn mis Awst 2013 i lawr (PDF, 448KB)
Mynediad i'r set lawn o ddata
Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
Y Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Gorffennaf 2013) | Newid blynyddol(oddi ar fis Awst 2012) | Pris cyfartalog (Awst 2013) |
---|---|---|---|
Gogledd Orllewin Lloegr |
1.3% |
-1.5% |
£109,210 |
Llundain |
1.2% |
7.1% |
£389,066 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
1.1% |
-0.7% |
£117,154 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
0.4% |
0.7% |
£124,638 |
De Ddwyrain Lloegr |
0.3% |
1.8% |
£214,518 |
Cymru a Lloegr |
0.1% |
1.3% |
£164,654 |
De Orllewin Lloegr |
0.1% |
1.3% |
£174,751 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
0.1% |
1.8% |
£131,096 |
Dwyrain Lloegr |
-1.2% |
0.9% |
£175,601 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
-1.4% |
-2.2% |
£98,469 |
Cymru |
-2.1% |
-1.8% |
£113,357 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo(Cymru a Lloegr) | Awst 2013 | Awst 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl |
£258,502 |
£255,321 |
1.2% |
Tŷ pâr |
£155,800 |
£154,127 |
1.1% |
Tŷ teras |
£124,580 |
£123,770 |
0.7% |
Fflat/Fflat deulawr |
£155,982 |
£152,677 |
2.2% |
Holl |
£164,654 |
£162,602 |
1.3% |
Nifer y gwerthiannau 2011-2012
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth | |
---|---|---|---|---|
Ionawr |
43,764 |
37,651 |
16% | |
Chwefror |
44,845 |
39,708 |
13% | |
Mawrth |
61,347 |
46,783 |
31% | |
Ebrill |
43,260 |
50,805 |
-15% | |
Mai |
52,522 |
49,019 |
7% |
|
Mehefin |
59,854 |
57,774 |
4% | |
Gorffennaf |
59,133 |
62,352 |
-5% | |
Awst |
64,997 |
64,464 |
1% | |
Medi |
52,830 |
63,600 |
-17% | |
Hydref |
59,164 |
58,042 |
2% | |
Tachwedd |
63,855 |
60,415 |
6% | |
Rhagfyr |
56,521 |
63,639 |
-11% | |
Total |
662,092 |
654,252 |
1% |
Nifer y gwerthiannau 2012-2013
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr |
43,180 |
43,764 |
-1% |
Chwefror |
44,951 |
44,845 |
0% |
Mawrth |
54,115 |
61,347 |
-12% |
Ebrill |
50,198 |
43,260 |
16% |
Mai |
64,338 |
52,522 |
22% |
Mehefin |
60,168 |
59,854 |
1% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Mehefin 2013 | Mehefin 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr |
100 |
130 |
-23% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
115 |
115 |
0% |
Llundain |
95 |
131 |
-27% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
36 |
47 |
-23% |
Gogledd Orllewin Lloegr |
262 |
325 |
-19% |
De Ddwyrain Lloegr |
138 |
162 |
-15% |
De Orllewin Lloegr |
69 |
94 |
-27% |
Cymru |
71 |
113 |
-37% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
87 |
107 |
-19% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
158 |
199 |
-21% |
Cymru a Lloegr |
1,131 |
1,423 |
-21% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,224,530 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Awst. Mae hyn yn cynnwys 1,173,917 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 303,564 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 517,432 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 174,128 yn chwiliadau a 75,003 yn drafodion am werth.
Trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited |
1,509 |
O'Neill Patient |
950 |
Countrywide Property Lawyers |
774 |
Chwiliadau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact |
7,583 |
Optima Legal Services |
4,975 |
O'Neill Patient |
3,866 |
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr |
283,919 |
Llundain Fwyaf |
221,933 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
127,764 |
De Orllewin Lloegr |
125,128 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
115,602 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber |
95,572 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
87,495 |
Gogledd Lloegr |
59,433 |
Cymru |
58,588 |
Dwyrain Anglia |
49,000 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) |
68 |
Ynysoedd Sili |
35 |
Cyfanswm |
1,224,537 |
Mae'r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 72,800 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Awst 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Awst 2013 wedi'i leoli yng ngogledd Llundain, a werthwyd am £9.8. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Awst 2013 wedi'i leoli yn Burnley, swydd Gaerhirfryn, a werthwyd am £11,000.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data Pris a Dalwyd mis Medi am 11 y bore ar ddydd Llun 28 Hydref.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA) a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006.
- Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig #opendata
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler esboniad o'r termau a ddefnyddir yn y data Trafodiad.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- Nawr gellir llwytho Data Pris a Dalwyd hanesyddol rhwng mis Ionawr 2009 a mis Ionawr 2012 i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol rhwng 1995 a 2008, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn er y byddant ar gael i'w llwytho i lawr am ddim erbyn mis Tachwedd 2013.
Cysylltu
- Marion Shelley 0300 006 7543, 07790 690297, marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
- Dewch o hyd i ni ar LinkedIn and Facebook a'n blog