Y Gofrestrfa Tir yn rhyddhau ei data pris a dalwyd hanesyddol
O heddiw ymlaen, 28 Tachwedd 2013, bydd holl ddata pris a dalwyd hanesyddol y Gofrestrfa Tir o dros 18 miliwn o werthiannau ar gael i'w lwytho i lawr am ddim fel rhan o'i rhaglen data agored, gan ddod â hyd yn oed gwell tryloywder i farchnad eiddo preswyl y DU.
Trwy roi mynediad i set ddata sy'n mynd yn ôl i 1995, gan gynnwys dros 400 miliwn o eitemau o ddata, gall datblygwyr a busnesau ddefnyddio un o setiau data eiddo mwyaf y byd o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr at ddibenion masnachol ac anfasnachol. Yn ogystal, caiff ei defnyddio i gyfrifo Mynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir.
Mae'r data a rhyddheir heddiw yn cynnwys cofnodion gwerthiannau am bris llawn y farchnad a gyflwynwyd i'w cofrestru oddi ar fis Ionawr 1995. Gyda'i gilydd, mae'n cynrychioli gwerth bron 18 mlynedd o wybodaeth werthfawr am farchnad dai'r wlad. Oddi ar ryddhau cyfran gyntaf y data ym mis Mehefin eleni, llwythwyd dros 114,000 o ffeiliau i lawr.
Dywedodd Eddie Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth Fasnachol a Chwsmeriaid y Gofrestrfa Tir:
“Mae'r rhyddhad heddiw yn mynd â ni gam yn agosach at ein gweledigaeth o fod yn arweinydd byd-eang ar gyfer rheoli data eiddo a bod yn rhan o dirwedd data agored.
“Mae'r posibiliadau ar gyfer defnyddio ac ail-ddefnyddio'r data hwn yn enfawr a gobeithiwn trwy ei ddarparu mewn nifer o ffurfiau gwahanol y bydd yn fwy hygyrch ac yn haws i’w rannu.”
Mae'r data a ryddhawyd yn dangos i'r eiddo rhataf amrywio o £5,200 yn 1995 i £8,000 yn 2013 a'r drutaf o £3.75 miliwn yn 1995 i £29.35 miliwn yn 2013. Yn 1995 roedd ychydig mwy na 105,000 o werthiannau adeiladau newydd; yn 2013 mae'r ffigur tua 45,700. Yr unig werthiannau ‘math o eiddo’ i gynyddu oddi ar 1995 yw fflatiau a fflatiau deulawr.
Mynediad i'r data pros a dalwyd
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r Gofrestrfa Tir wedi bod yn cyhoeddi setiau data am ddim oddi ar 2012 o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA) ar ffurf Excel, CSV a data cysylltiedig yn http://www.landregistry.gov.uk/market-trend-data a http://data.gov.uk/
- Cyhoeddir setiau data ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Caiff y setiau data nesaf eu rhyddhau ar ddydd Mawrth 31 Rhagfyr #opendata
- Mae set ddata pris a dalwyd y Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion dros 18 miliwn o werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar fis Ionawr 1995. Mae'n gosod y sylfaen ar gyfer y dadansoddiad a ddefnyddir i gwblhau'r Mynegai Prisiau Tai misol ac mae ar gael ar ffurfiau txt, csv a data cysylltiedig y gellir eu darllen ar beiriant.
- Mae'r cofnodion yn cynnwys manylion cyfeiriad llawn yr eiddo, y pris a dalwyd, dyddiad y gwerthiant, y math o eiddo, ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio ac ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni arTwitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
Cysylltu
Marion Shelley
- 0300 006 7543,
- 07790 690297 a thrwy
- ebost marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk