logo_w
30 Ebrill 2014
 
PR 08/14

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mawrth gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau Tai mis Mawrth wedi gostwng 0.4 y cant oddi ar fis Chwefror 2014
  • Prisiau Tai mis Mawrth wedi codi 5.6 y cant oddi ar fis Mawrth 2013
  • Prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £169,124 o gymharu â'r brig o £181,618 ym mis Tachwedd 2007
  • 979 o adfeddiannau yng Nghymru  Lloegr yn ystod mis Ionawr 2014
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mawrth gyda 312,038 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 72,300 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mawrth yn amrywio o £10,000 i £19.5 miliwn

Mae data mis Mawrth o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 5.6 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £169,124. Mae'r newid misol o fis Chwefror i fis Mawrth yn ostyngiad o 0.4 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 31 y cant ym mis Ionawr 2014 i 979 o gymharu â 1,420 ym mis Ionawr 2013.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 12.4 y cant.
  • Dwyrain Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarthau welodd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.1 y cant.
  • Cymru welodd yr unig ostyngiad prisiau blynyddol o 1.6 y cant.
  • Cymru welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol hefyd gyda symudiad o -4.2 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2014 gynyddu 46 y cant i 63,123 o gymharu â 43,373 ym mis Ionawr 2013.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ionawr 2014 wedi cynyddu 61 y cant i 1,011 o 628 ym mis Ionawr 2013.
  • Y rhanbarth gyda'r gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau ym mis Ionawr 2014 oedd Gogledd Ddwyrain Lloegr.

 Mynediad i'r set lawn o ddata
 Mynediad i adroddiad llawn mis Mawrth y Mynegai Prisiau Tai (PDF)

Rhanbarth Newid misol oddi ar fis Chwefror 2014) Newid blynyddol oddi ar fis Mawrth 2013) Pris cyfartalog Mawrth 2014)

Dwyrain Lloegr

 1.1%

 7.1%

£184,980

Gogledd Ddwyrain Lloegr

 1.1%

 3.3%

  £99,313

De Orllewin Lloegr

 0.7%

 4.7%

£179,066

Llundain

 0.6%

12.4%

£414,490

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 0.6%

 3.7%

£133,532

Cymru a Lloegr

-0.4%

 5.6%

£169,124

De Ddwyrain Lloegr  

-0.7%

 6.1%

£221,189

Swydd Gaerefrog a’r Humber

-0.9%

 1.8%

£116,993

Dwyrain Canolbarth Lloegr

-1.0%

 4.6%

£127,384

Gogledd Orllewin Lloegr

-1.8%

 2.3%

£109,042

Cymru

-4.2%

-1.6%

£113,275


Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Mawrth 2014 Mawrth 2013 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£265,753

 £254,107

4.6%

Tŷ pâr

£159,684

 £152,197

4.9%

Tŷ teras

£126,859

 £120,600

5.2%

Fflat/Fflat deulawr

£163,437

 £151,167

8.1%

Holl

£169,124

 £160,182

5.6%


Nifer y gwerthiannau 2013-2012 

Mis Gwerthiannau 2013
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

  43,373

  43,784

  -1%

Chwefror

  45,228

  44,870

   1%

Mawrth

  54,659

  61,377

-11%

Ebrill

  50,968

  43,276

 18%

Mai

  66,246

  52,555

 26%

Mehefin

  65,958

  59,891

 10%

Gorffennaf

  73,536

  59,169

 24%

Awst

  79,224

  65,039

 22%

Medi

  69,561

  52,889

 32%

Hydref

  76,579

  59,236

 29%

Tachwedd

  82,217

  63,979

 29%

Rhagfyr

  77,843

  56,707

 37%

Cyfanswm

785,392

662,772

 19%


Nifer y gwerthiannau 2014-2013 

Mis Gwerthiannau  2014
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau  2013
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

  63,123

  43,373

  46%


Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth Ionawr  2014 Ionawr  2013 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

   66

   101

-35%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

   93

   127

-27%

Llundain

 117

   194

-40%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

   25

     43

-42%

Gogledd Orllewin Lloegr

 237

   297

-20%

De Ddwyrain Lloegr

 108

   170

-36%

De Orllewin Lloegr

   57

     88

-35%

Cymru

   78

   115

-32%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

   61

     93

-34%

Swydd Gaerefrog a’r Humber

 137

   192

-29%

Holl

 979

1,420

-31%

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 72,300 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mawrth 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mawrth 2014 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £10.3 miliwn.  Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Mawrth 2014 wedi'i leoli yn Burnley, swydd Gaerhirfryn, a werthwyd am £10,000.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau 1,365,223 o geisiadau  gan ei holl gwsmeriaid ym mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys 1,316,674 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 307,615 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 618,365 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 180,684 yn chwiliadau a 72,982 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata


Trafodion am werth

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth

My Home Move Limited LLP

1,668

Countrywide Property Lawyers

843

O'Neill Patient

652


Chwiliadau

Tri phrif gwsmer Chwiliadau

Enact

7,462

Optima Legal Services

5,373

Breeze & Wyles

3,813


Ceisiadau fesul rhanbarth

Rhanbarth Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

 312,038

Llundain Fwyaf

 263,580

Gogledd Orllewin Lloegr

 147,442

De Orllewin Lloegr

 132,922

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 116,624

Swydd Gaerefrog a'r Humber

 108,816

Dwyrain Canolbarth Lloegr

   97,445

Gogledd Lloegr

   66,655

Cymru

   64,539

Dwyrain Anglia

   55,044

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

         74

Ynysoedd Sili

         44

Cyfanswm

1,365,223

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a set ddata pris a dalwyd mis Ebrill am 9.30 y bore ar ddydd Mercher 30 Mai 2014. Cyhoeddir calendr rhyddhau'r Mynegai hyd at fis Chwefror 2015. 
  2. Mae dyddiad cyhoeddi'r Data Trafodiad yn cael ei symud ymlaen fel y bydd ar gael ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis o fis Mai ymlaen. Mae hyn yn golygu y caiff set ddata mis Ebrill ei chyhoeddi ar 22 Mai 2014 am 11 y bore.
  3. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  4. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am fwy na 18 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  5. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  6. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  7. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. 
  8. Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
  9. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
  10. Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig yn data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  11. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler esboniad o'r termau a ddefnyddir yn y data Trafodiad
  12. Mae trafodion am werth yn cynnwys .
  13. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r gwahanol fathau o chwiliad.
  14. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr.  Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  15. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion bron i 24 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  16. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.  

    Cysylltu

    Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus 0300 006 7543, 07790 690297
    marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix