Llinell twyll eiddo yn llwyddiant yn ei chwe mis cyntaf
Chwe mis oddi ar lansio llinell twyll eiddo y Gofrestrfa Tir, derbyniwyd 505 o alwadau a negeseuon ebost gan roi mynediad i gymorth amhrisiadwy i'r cyhoedd.
Mae'r llinell twyll eiddo yn un o amrywiaeth o fesurau sydd gan y Gofrestrfa Tir i helpu atal neu ganfod twyll eiddo a gwarchod yr ased mwyaf gwerthfawr sydd gan bobl. Rhwng mis Medi 2009 a mis Ebrill 2013 ataliwyd 136 o geisiadau twyllodrus mewn perthynas ag eiddo gwerth tua £60 miliwn.
Gall twyll eiddo ddigwydd mewn llawer o ffyrdd. Gall twyllwyr geisio cael gafael ar berchnogaeth eiddo naill ai trwy ddefnyddio dogfen wedi'i ffugio i'w drosglwyddo i'w henwau, neu trwy ddynwared y perchennog cofrestredig. Unwaith y byddant wedi codi arian trwy forgeisio'r eiddo yn ddiarwybod i'r perchennog, maent yn diflannu heb wneud ad-daliadau gan adael y perchennog i ddelio'r â'r goblygiadau.
Astudiaeth achos:
Mae Mr a Mrs P yn berchnogion bwthyn gwyliau sy'n cael ei rhentu trwy asiantaeth rhentu. Wrth ymweld â'r bwthyn sylwyd ar ohebiaeth yn ymwneud â chardiau credyd a materion ariannol eraill wedi'u cyfeirio at rywun arall gan ddefnyddio cyfeiriad y bwthyn. Rhentodd yr unigolyn hwn y bwthyn rhai wythnosau ynghynt. Yn ogystal, roedd allweddi'r bwthyn ar goll o'r coffr allweddi yn yr eiddo.
Cysylltodd Mr a Mrs P â'r heddlu a llinell twyll eiddo y Gofrestrfa Tir. Er nad oedd unrhyw weithgaredd amheus arall, hyd hynny, yn ymwneud â'u gwybodaeth gan y Gofrestrfa Tir, tynnodd y llinell twyll sylw Mr a Mrs P at y ffaith nad oedd eu cyfeiriad gohebu wedi'i ddiweddaru. Byddai hyn yn golygu na fyddent yn derbyn llythyr y Gofrestrfa Tir be bai'r Gofrestrfa Tir yn cysylltu â nhw – er mwyn dweud wrthynt fod morgais yn y broses o gael ei weithredu ar eu heiddo efallai. Dywedwyd wrth Mr a Mrs P y gallent ddiweddaru eu cyfeiriad gohebu, a gwnaethant hynny.
O dan yr amgylchiadau, soniwyd wrth Mr a Mrs P am ddewis diogelwch rhag twyll arall y Gofrestrfa Tir: cyfyngiad ffurflen RQ. Gall unrhyw berchennog nad yw'n byw ac nad yw'n bwriadu byw mewn eiddo penodol wneud cais am gyfyngiad am ddim. Cynlluniwyd cyfyngiad RQ i atal ffugiad trwy ei wneud yn ofynnol i drawsgludwr ardystio ei fod yn fodlon mai'r person sy'n trosglwyddo morgais yr eiddo yw'r un person â'r perchennog. Mae'n rhoi diogelwch ychwanegol yn erbyn twyll trwy weithredu fel ataliad. Gwnaeth Mr a Mrs P gais am gyfyngiad RQ a nawr mae gan eu heiddo'r warchodaeth ychwanegol hon mewn grym.
Dywedodd llefarydd ar ran Uned Twyll y Gofrestrfa Tir, Alasdair Lewis: “Mae'r twyll rydym wedi'u hatal wedi arbed llawer o loes ac, o bosibl, llawer o arian i'r unigolion dan sylw. Rydym yn falch o weld bod y llinell twyll eiddo wedi bod yn llwyddiant wrth atal sefyllfaoedd gwael rhag gwaethygu.”
Lansiwyd y llinell twyll eiddo ar 5 Chwefror 2013 er mwyn galluogi perchnogion i hysbysu'r Gofrestrfa Tir os ydynt yn poeni y gallai eu heiddo fod yn destun gwerthiant neu forgais twyllodrus. Mae'n rhan o dechnegau atal a gwarchod rhag twyll parhaus y Gofrestrfa Tir i ddiogelu eiddo cofrestredig unigolion a chywirdeb y gofrestr teitl.
Gall galwyr siarad â staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig am gyfarwyddyd ymarferol o ran beth i'w wneud nesaf. Y rhif ffôn yw 0300 006 7030 ac mae'r llinell ar agor rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae'r eiddo sydd fwyaf mewn perygl o dwyll fel arfer yn wag, gyda thenantiaid neu'n ddi-forgais. Ymhlith yr unigolion sydd fwyaf agored i risg o dwyll mae perchnogion nad ydynt yn byw yn yr eiddo gan eu bod yn byw tramor, landlordiaid prynu i osod, unigolion sydd mewn gofal ysbyty neu ofal preswyl hirdymor neu lle y chwalodd perthynas.
Awgrymiadau'r Gofrestrfa Tir i helpu perchnogion warchod eu heiddo rhag twyllwyr
- Sicrhewch bod eich eiddo'n gofrestredig. Os byddwch yn ddioddefwr diniwed o dwyll ac yn dioddef colledion ariannol o ganlyniad, efallai y cewch iawndal.
- Unwaith y byddwch wedi cofrestru, sicrhewch fod gennym eich manylion cysylltu cyfredol fel y gallwn gysylltu â chi'n hawdd.
- Gallwch gael hyd at dri chyfeiriad yn y gofrestr – gall o leiaf un fod yn gyfeiriad ebost (argymhellir hyn) neu gellir defnyddio cyfeiriad dramor. Po fwyaf y wybodaeth a roddir i ni, mwyaf fydd y siawns fydd gennym o gysylltu â chi os oes angen.
Ceir rhagor o gyngor am dwyll eiddo yn www.cofrestrfatir.gov.uk/propertyfraud.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
1. Yn ogystal, mae ffurflen cofnodi ar-lein ar gael i gwsmeriaid y mae’n well ganddynt anfon ebost neu gysylltu â'r Gofrestrfa Tir y tu allan i oriau busnes yn www.landregistry.gov.uk/contact-us/report-fraud.
2. Nid yw'r llinell yn cymryd lle cofnodi honiadau o dwyll gydag Action Fraud ar 0300 123 2040 (a fydd yn trosglwyddo eich adroddiad i'r heddlu) na chymryd cyngor cyfreithiol annibynnol.
3. Mae dau gyhoeddiad ar gael am ddim gan y Gofrestrfa Tir – Cyfarwyddyd Cyhoeddus17 – Sut i ddiogelu yn erbyn twyll eiddo a Chyfarwyddyd Cyhoeddus2 – Cadw'ch cyfeiriad ar gyfer gohebu yn gyfoes.
4. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23.5 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
5. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
6. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk.
Cysylltu
- Jessica Prasad 0300 006 7037
- Jessica.prasad@landregistry.gsi.gov.uk