Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mehefin gan y Gofrestrfa Tir
- Pris tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £172,011 o gymharu â'r uchafbwynt o£181,466 ym mis Tachwedd 2007
- Twf blynyddol o 6.4 y cant ym mis Mehefin
- Mae data mis Mehefin yn dangos nad oes newid misol mean prisiau
- 898 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Ebrill 2014
- Cyflwynwyd dros 78,530 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mehefin yn amrywio o £11,500 i £20,150,000
Mae data mis Mehefin o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn tangos cynnydd prisiau blynyddol o 6.4 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £172,011. Nid ors unrhyw newid misol rhwng mis Mai a mis Mehefin. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 30 y cant ym mis Ebrill 2014 i 898 o gymharu â 1,285 ym mis Ebrill 2013.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei worth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 16.4 y cant.
- Yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr Midlwelodd y twf prisiau blynyddol mwyaf gyda symudiad o 1.9 y cant.
- Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y twf prisiau blynyddol isaf gyda symudiad o 0.8 y cant.
- Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol o 1.3 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i infer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2014 gynyddu 31 y cant i 66,659 o gymharu â 51,022 ym mis Ebrill 2013.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ebrill 2014 wedi cynyddu 39 y cant i 1,028 o 740 ym mis Ebrill 2013.
- Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mean gwerthiannau adfeddiannau ym mis Ebrill 2014 oedd Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Mynediad i'r set lawn o data
Llwytho'r adroddiad llawn mis Mehefin 2014 y Mynegai Prisiau Tai (PDF)
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Mai 2014) | Newid blynyddol (iddi ar fis Mehefin 2013) | Pris cyfartalog (Mehefin 2014) |
---|---|---|---|
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 1.9% | 4.7% | £135,228 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.6% | 7.8% | £228,109 |
Llundain | 0.1% | 16.4% | £437,608 |
Cymru a Lloegr | 0.0% | 6.4% | £172,011 |
Cymru | -0.3% | 2.7% | £117,440 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -0.4% | 2.2% | £109,905 |
Dwyrain Lloegr | -0.4% | 7.9% | £187,820 |
De Orllewin Lloegr | -0.9% | 5.4% | £180,880 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | -1.0% | 6.4% | £129,030 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -1.0% | 0.8% | £98,555 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | -1.3% | 3.4% | £118,699 |
Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Mehefin 2014 | Mehefin 2013 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £270,496 | £256,225 | 5.6% |
Tŷ pâr | £162,545 | £153,092 | 6.2% |
Tŷ teras | £129,486 | £121,822 | 6.3% |
Fflat/Fflat deulawr | £164,967 | £153,289 | 7.6% |
Holl | £172,011 | £161,716 | 6.4% |
Nifer y gwerthiannau 2013-2012
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,389 | 43,785 | -1% |
Chwefror | 45,252 | 44,874 | 1% |
Mawrth | 54,724 | 61,379 | -11% |
Ebrill | 51,022 | 43,281 | 18% |
Mai | 66,312 | 52,560 | 26% |
Mehefin | 66,089 | 59,901 | 10% |
Gorffennaf | 73,694 | 59,181 | 25% |
Awst | 79,482 | 65,055 | 22% |
Medi | 69,884 | 52,896 | 32% |
Hydref | 77,120 | 59,251 | 30% |
Tachwedd | 83,304 | 63,997 | 30% |
Rhagfyr | 79,820 | 56,728 | 41% |
Cyfanswm | 790,092 | 662,888 | 19% |
Nifer y gwerthiannau 2014-2013
Mis | Gwerthiannau 2014 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 65,480 | 43,389 | 51% |
Chwefror | 64,739 | 45,252 | 43% |
Mawrth | 65,837 | 54,724 | 20% |
Ebrill | 66,659 | 51,022 | 31% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Ebrill 2014 | Ebrill 2013 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 76 | 103 | -26% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 74 | 123 | -40% |
Llundain | 72 | 106 | -32% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 23 | 39 | -41% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 238 | 277 | -14% |
De Ddwyrain Lloegr | 85 | 142 | -40% |
De Orllewin Lloegr | 65 | 89 | -27% |
Cymru | 74 | 86 | -14% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 86 | 151 | -43% |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 105 | 169 | -38% |
Holl | 898 | 1,285 | -30% |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 78,530 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mehefin 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mehefin 2014 wedi'i leoli yn Knightsbridge, Llundain SW1 a werthwyd am £11.75 miliwn. Mae'r gwerthiant rhataf a werthwyd ym mis Mehefin 2014 wedi'i leoli ger Choppington yn Northumberland a werthwyd am £11,500.
Mynediad i'r set lawn o data pris a dalwyd
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a set data Pris a Dalwyd mis Gorffennaf ar ddydd Gwener 29 Awst 2014 am 9.30 y bore. Cyhoeddir calendr rhyddhau'r Mynegai hyd at fis Mai 2015.
- Symudwyd dyddiad cyhoeddi'r Data Trafodiad fel ei fod belch ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis. Mae hyn yn golygu y cyhoeddir set data trafodiad mis Gorffennaf ar 21 Awst 2014 am 11 y bore.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sample sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set data'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata's Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion dros 19 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechneg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prig ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar infer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim one iddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006.
- Mae tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen gan beiriant fel data cysylltiedig.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr ar ffurf csv ac mean ffurf y gellir ei darllen ar beiriant del data cysylltiedig yn price paid data. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio jeu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- Fel adran o'r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy'n atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestrfa Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Gofrestrfa Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa data o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion tua 24 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
Cysylltu
Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus 0300 006 7543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk