logo_w
28 Gorffennaf 2014
PR 15/14

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mehefin gan y Gofrestrfa Tir

  • Pris tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £172,011 o gymharu â'r uchafbwynt o£181,466 ym mis Tachwedd 2007
  • Twf blynyddol o 6.4 y cant ym mis Mehefin
  • Mae data mis Mehefin yn dangos nad oes newid misol mean prisiau 
  • 898 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Ebrill 2014
  • Cyflwynwyd dros 78,530 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mehefin yn amrywio o £11,500 i £20,150,000

Mae data mis Mehefin o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn tangos cynnydd prisiau blynyddol o 6.4 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £172,011. Nid ors unrhyw newid misol rhwng mis Mai a mis Mehefin. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 30 y cant ym mis Ebrill 2014 i 898 o gymharu â 1,285 ym mis Ebrill 2013.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei worth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 16.4 y cant.
  • Yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr Midlwelodd y twf prisiau blynyddol mwyaf gyda symudiad o 1.9 y cant.
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y twf prisiau blynyddol isaf gyda symudiad o 0.8 y cant.
  • Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol o 1.3 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i infer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2014 gynyddu 31 y cant i 66,659 o gymharu â 51,022 ym mis Ebrill 2013.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ebrill 2014 wedi cynyddu 39 y cant i 1,028 o 740 ym mis Ebrill 2013.
  • Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mean gwerthiannau adfeddiannau ym mis Ebrill 2014 oedd Gorllewin Canolbarth Lloegr.

 Mynediad i'r set lawn o data
 Llwytho'r adroddiad llawn mis Mehefin 2014 y Mynegai Prisiau Tai (PDF)

Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Mai 2014) Newid blynyddol (iddi ar fis Mehefin 2013) Pris cyfartalog (Mehefin 2014)

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 1.9%

 4.7%

£135,228

De Ddwyrain Lloegr

 0.6%

 7.8%

£228,109

Llundain

 0.1%

16.4%

£437,608

Cymru a Lloegr

 0.0%

 6.4%

£172,011

Cymru

-0.3%

 2.7%

£117,440

Gogledd Orllewin Lloegr

-0.4%

 2.2%

£109,905

Dwyrain Lloegr

-0.4%

 7.9%

£187,820

De Orllewin Lloegr

-0.9%

 5.4%

£180,880

Dwyrain Canolbarth Lloegr

-1.0%

 6.4%

£129,030

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-1.0%

 0.8%

  £98,555

Swydd Gaerefrog a'r Humber

-1.3%

 3.4%

£118,699


Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Mehefin 2014 Mehefin 2013 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£270,496

 £256,225

5.6%

Tŷ pâr

£162,545

 £153,092

6.2%

Tŷ teras

£129,486

 £121,822

6.3%

Fflat/Fflat deulawr

£164,967

 £153,289

7.6%

Holl

£172,011

 £161,716

6.4%


Nifer y gwerthiannau 2013-2012 

Mis Gwerthiannau 2013
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

  43,389

  43,785

  -1%

Chwefror

  45,252

  44,874

   1%

Mawrth

  54,724

  61,379

-11%

Ebrill

  51,022

  43,281

 18%

Mai

  66,312

  52,560

 26%

Mehefin

  66,089

  59,901

 10%

Gorffennaf

  73,694

  59,181

 25%

Awst

  79,482

  65,055

 22%

Medi

  69,884

  52,896

 32%

Hydref

  77,120

  59,251

 30%

Tachwedd

  83,304

  63,997

 30%

Rhagfyr

  79,820

  56,728

 41%

Cyfanswm

790,092

662,888

 19%


  

Nifer y gwerthiannau 2014-2013 

 
MisGwerthiannau 2014
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2013
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

  65,480

  43,389

  51%

Chwefror

  64,739

  45,252

  43%

Mawrth

  65,837

  54,724

  20%

Ebrill  66,659  51,022  31%

  

Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth  Ebrill 2014 Ebrill 2013 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

   76

   103

-26%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

   74

   123

-40%

Llundain

   72

   106

-32%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

   23

     39

-41%

Gogledd Orllewin Lloegr

 238

   277

-14%

De Ddwyrain Lloegr

   85

   142

-40%

De Orllewin Lloegr

   65

     89

-27%

Cymru

   74

     86

-14%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

   86

   151

-43%

Swydd Gaerefrog a'r Humber

 105

   169

-38%

Holl

898

1,285

-30%

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 78,530 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mehefin 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mehefin 2014 wedi'i leoli yn Knightsbridge, Llundain SW1 a werthwyd am £11.75 miliwn. Mae'r gwerthiant rhataf a werthwyd ym mis Mehefin 2014 wedi'i leoli ger Choppington yn Northumberland a werthwyd am £11,500. 

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o data pris a dalwyd

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a set data Pris a Dalwyd mis Gorffennaf ar ddydd Gwener 29 Awst 2014 am 9.30 y bore. Cyhoeddir calendr rhyddhau'r Mynegai hyd at fis Mai 2015.
  2. Symudwyd dyddiad cyhoeddi'r Data Trafodiad fel ei fod belch ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis. Mae hyn yn golygu y cyhoeddir set data trafodiad mis Gorffennaf ar 21 Awst 2014 am 11 y bore.
  3. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sample sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set data'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  4. Mae set ddata's Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion dros 19 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechneg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  5. Mae'r prig ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  6. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar infer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  7. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim one iddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. 
  8. Mae tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen gan beiriant fel data cysylltiedig.
  9. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
  10. Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr ar ffurf csv ac mean ffurf y gellir ei darllen ar beiriant del data cysylltiedig yn price paid data. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio jeu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  11. Fel adran o'r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy'n atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestrfa Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Gofrestrfa Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  12. Gyda'r gronfa data o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion tua 24 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  13. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.

    Cysylltu

    Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus 0300 006 7543, 07790 690297
    marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix