Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mawrth gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau Tai mis Mawrth wedi gostwng 0.4 y cant oddi ar fis Chwefror 2014
- Prisiau Tai mis Mawrth wedi codi 5.6 y cant oddi ar fis Mawrth 2013
- Prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £169,124 o gymharu â'r brig o £181,618 ym mis Tachwedd 2007
- 979 o adfeddiannau yng Nghymru Lloegr yn ystod mis Ionawr 2014
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mawrth gyda 312,038 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 72,300 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mawrth yn amrywio o £10,000 i £19.5 miliwn
Mae data mis Mawrth o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 5.6 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £169,124. Mae'r newid misol o fis Chwefror i fis Mawrth yn ostyngiad o 0.4 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 31 y cant ym mis Ionawr 2014 i 979 o gymharu â 1,420 ym mis Ionawr 2013.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 12.4 y cant.
- Dwyrain Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr oedd y rhanbarthau welodd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.1 y cant.
- Cymru welodd yr unig ostyngiad prisiau blynyddol o 1.6 y cant.
- Cymru welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol hefyd gyda symudiad o -4.2 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2014 gynyddu 46 y cant i 63,123 o gymharu â 43,373 ym mis Ionawr 2013.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ionawr 2014 wedi cynyddu 61 y cant i 1,011 o 628 ym mis Ionawr 2013.
- Y rhanbarth gyda'r gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau ym mis Ionawr 2014 oedd Gogledd Ddwyrain Lloegr.
Mynediad i'r set lawn o ddata
Mynediad i adroddiad llawn mis Mawrth y Mynegai Prisiau Tai (PDF)
Rhanbarth | Newid misol oddi ar fis Chwefror 2014) | Newid blynyddol oddi ar fis Mawrth 2013) | Pris cyfartalog Mawrth 2014) |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 1.1% | 7.1% | £184,980 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 1.1% | 3.3% | £99,313 |
De Orllewin Lloegr | 0.7% | 4.7% | £179,066 |
Llundain | 0.6% | 12.4% | £414,490 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 0.6% | 3.7% | £133,532 |
Cymru a Lloegr | -0.4% | 5.6% | £169,124 |
De Ddwyrain Lloegr | -0.7% | 6.1% | £221,189 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | -0.9% | 1.8% | £116,993 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | -1.0% | 4.6% | £127,384 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -1.8% | 2.3% | £109,042 |
Cymru | -4.2% | -1.6% | £113,275 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Mawrth 2014 | Mawrth 2013 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £265,753 | £254,107 | 4.6% |
Tŷ pâr | £159,684 | £152,197 | 4.9% |
Tŷ teras | £126,859 | £120,600 | 5.2% |
Fflat/Fflat deulawr | £163,437 | £151,167 | 8.1% |
Holl | £169,124 | £160,182 | 5.6% |
Nifer y gwerthiannau 2013-2012
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,373 | 43,784 | -1% |
Chwefror | 45,228 | 44,870 | 1% |
Mawrth | 54,659 | 61,377 | -11% |
Ebrill | 50,968 | 43,276 | 18% |
Mai | 66,246 | 52,555 | 26% |
Mehefin | 65,958 | 59,891 | 10% |
Gorffennaf | 73,536 | 59,169 | 24% |
Awst | 79,224 | 65,039 | 22% |
Medi | 69,561 | 52,889 | 32% |
Hydref | 76,579 | 59,236 | 29% |
Tachwedd | 82,217 | 63,979 | 29% |
Rhagfyr | 77,843 | 56,707 | 37% |
Cyfanswm | 785,392 | 662,772 | 19% |
Nifer y gwerthiannau 2014-2013
Mis | Gwerthiannau 2014 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 63,123 | 43,373 | 46% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Ionawr 2014 | Ionawr 2013 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 66 | 101 | -35% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 93 | 127 | -27% |
Llundain | 117 | 194 | -40% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 25 | 43 | -42% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 237 | 297 | -20% |
De Ddwyrain Lloegr | 108 | 170 | -36% |
De Orllewin Lloegr | 57 | 88 | -35% |
Cymru | 78 | 115 | -32% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 61 | 93 | -34% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 137 | 192 | -29% |
Holl | 979 | 1,420 | -31% |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 72,300 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mawrth 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mawrth 2014 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £10.3 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Mawrth 2014 wedi'i leoli yn Burnley, swydd Gaerhirfryn, a werthwyd am £10,000.
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau 1,365,223 o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid ym mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys 1,316,674 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 307,615 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 618,365 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 180,684 yn chwiliadau a 72,982 yn drafodion am werth.
Trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited LLP | 1,668 |
Countrywide Property Lawyers | 843 |
O'Neill Patient | 652 |
Chwiliadau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 7,462 |
Optima Legal Services | 5,373 |
Breeze & Wyles | 3,813 |
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 312,038 |
Llundain Fwyaf | 263,580 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 147,442 |
De Orllewin Lloegr | 132,922 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 116,624 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 108,816 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 97,445 |
Gogledd Lloegr | 66,655 |
Cymru | 64,539 |
Dwyrain Anglia | 55,044 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 74 |
Ynysoedd Sili | 44 |
Cyfanswm | 1,365,223 |
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a set ddata pris a dalwyd mis Ebrill am 9.30 y bore ar ddydd Mercher 30 Mai 2014. Cyhoeddir calendr rhyddhau'r Mynegai hyd at fis Chwefror 2015.
- Mae dyddiad cyhoeddi'r Data Trafodiad yn cael ei symud ymlaen fel y bydd ar gael ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis o fis Mai ymlaen. Mae hyn yn golygu y caiff set ddata mis Ebrill ei chyhoeddi ar 22 Mai 2014 am 11 y bore.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am fwy na 18 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006.
- Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr am ddim ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig yn data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler esboniad o'r termau a ddefnyddir yn y data Trafodiad.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys .
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r gwahanol fathau o chwiliad.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion bron i 24 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
Cysylltu
Marion Shelley, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus 0300 006 7543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk