logo_w

Moderneiddio systemau Alderney

Bu Gwladwriaeth Alderney (Ynysoedd y Sianel) yn defnyddio system ar bapur i brosesu ceisiadau, cynlluniau a mapiau oddi ar 1949.

Roedd y system yn dibynnu'n helaeth ar arbenigedd ei staff profiadol, yn hytrach na systemau greddfol.

Ym 1998, cawsom wahoddiad gan swyddogion Alderney i adolygu a moderneiddio'r system. Ail-archwiliodd ein tîm prosiect amlddisgyblaeth bob teitl tir ar wahân, gan greu a chyflwyno cofrestri cyfrifiadurol newydd ar ffurf fodern gyda chynlluniau teitl a mapiau mynegai digidol ar gyfer yr ynys gyfan.

O ganlyniad i'n gwaith, crëwyd gweithdrefnau, rheolau a chyfarwyddiadau gweithdrefnol ategol newydd. Yn ogystal, cyflwynwyd taflenni a ffurflenni cwsmer, strwythur ffïoedd a systemau newydd i ddefnyddwyr.

Fel rhan o'n cefnogaeth barhaol, yn 2011 gofynnodd Gwladwriaeth Alderney i ni helpu i wella a diweddaru ei system cofrestru tir gyda gwelliannau newydd i alluogi Llys Alderney i anfon detholiad o'r gofrestr, map mynegai a dogfennau pwysig eraill yn uniongyrchol i'w cwsmeriaid trwy ebost.

Mynegai Prisiau Tai

Chewfror 2014: 273.2

(Ionawr 1995 = 100)

Pris cyfartalog £170,000 Newid:
Misol 0.7%
Blynyddol 5.3%
Mynegai nesaf: 9.30 y bore ar 30 Ebrill 2014

Cysylltu â ni

Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.

Cysylltu...
Back to Top
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix