logo_w

30 Mehefin 2013
PR 09/13

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mai gan y Gofrestrfa Tir

Mae data pris a dalwyd 2009-2013 ar gael nawr i'w lwytho i lawr am ddim fel Data Agored

  • Prisiau tai mis Mai wedi codi 0.1 y cant oddi ar fis Ebrill: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,969
  • 1,448 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Mawrth 2013
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mai gyda 278,186 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 56,800 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mai yn amrywio o £10,000 i £27 miliwn.

Mae data mis Mai o Fynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.5 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,969. Mae'r newid misol o fis Ebrill i fis Mai yn dangos cynnydd o 0.1 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 27 y cant ym mis Mawrth 2013 i 1,448 o gymharu â 1,981 ym mis Mawrth 2012.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 5 y cant.
  • Yn Nwyrain Canolbarth Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 2 y cant.
  • Y rhanbarth gyda'r gostyngiad pris blynyddol mwyaf yw Swydd Gaerefrog a’r Humber gyda gostyngiad o 2.2 y cant.
  • Dwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 0.7 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2013 ostwng 15 y cant i 52,090 o gymharu â 61,334 ym mis Mawrth 2012.
  • Bu cynnydd o 21 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2013 i 625 o 517 ym mis Mawrth 2012.
  • Gwelodd yr holl ranbarthau ostyngiad mewn adfeddiannau rhwng mis Mawrth 2012 a mis Mawrth 2013. Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Gogledd Ddwyrain Lloegr gyda gostyngiad o 39 y cant (mis Mawrth 2013 o gymharu â mis Mawrth 2012).

chevron_bullet Llwythwch adroddiad llawn y Mynegai Prisiau Tai i lawr
chevron_bullet Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
chevron_bullet Ein Mynegai Prisiau Tai

 
Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Ebrill 2013) Newid blynyddol
(oddi ar fis Mai 2012)
Pris cyfartalog
(Mai 2013)
Dwyrain Canolbarth Lloegr 2.0% 0.3% £123,404
Gogledd Ddwyrain Lloegr 1.5% -2.1% £97,910
Gogledd Orllewin Lloegr 1.3% 0.3% £109,784
Llundain 0.7% 5.0% £375,068
Gorllewin Canolbarth Lloegr 0.7% 0.3%£129,311
Swydd Gaerefrog a’r Humber 0.7% -2.2% £115,324>
De Orllewin Lloegr 0.3% 0.7% £173,612
Cymru a Lloegr 0.1% 0.5% £127,689
De Ddwyrain Lloegr -0.3% 0.8% £209,676
Cymru -0.6% -1.2% £114,330
Dwyrain Lloegr -0.7% 0.7% £173,767

 

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo
(Cymru a Lloegr)
Mai 2013 Mai 2012 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£255,327

£256,933

0.5%

Tŷ pâr

£152,508

£152,821

-0.2%

Tŷ teras

£122,016

£121,815

0.2%

Fflat/Fflat deulawr

£154,982

£151,936

2.0%

Holl

£161,969

£161,133

0.5%

 

Nifer y gwerthiannau, 2011-2012

Mis Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2011
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

43,754

37,645

16%

Chwefror

44,832

39,704

13%

Mawrth

61,334

46,784

31%

Ebrill

43,245

50,797

-15%

Mai

52,492

49,016

7%

Mehefin

59,815

57,760

4%

Gorffennaf

59,094

62,346

-5%

Awst

64,937

64,456

1%

Medi

52,746

63,590

-17%

Hydref

59,069

58,029

2%

Tachwedd

63,656

60,404

5%

Rhagfyr

56,248

63,626

-12%

Cyfanswm

661,222

654,157

1%

 

Nifer y gwerthiannau, 2012-2013

Mis Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) Gwahaniaeth

Ionawr

42,511

43,756

-3%

Chwefror

43,573

44,829

-3%

Mawrth

52,090

61,334

-15%

 

Adfeddiannau fesul rhanbarth

Adfeddiannau fesul rhanbarth Mawrth 2013 Mawrth 2012 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

112

138

-24%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

140

170

-18%

Llundain

151

223

-32%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

42

69

-39%

Gogledd Orllewin Lloegr

328

439

-25%

De Ddwyrain Lloegr

180

229

-21%

De Orllewin Lloegr

93

134

-31%

Cymru

98

146

-33%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

114

156

-27%

Swydd Gaerefrog a’r Humber

190

267

-29%

Cymru a Lloegr

1,448

1,981

-27%

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,209,400 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Mai. Mae hyn yn cynnwys 1,166,285 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif gyda:

  • 267,725 yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
  • 550,407 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
  • 163,081 yn chwiliadau
  • 63,245 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set ddata trafodion llawn

 

Trafodion am werth

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth

My Home Move Limited

1,216

Countrywide Property Lawyers

996

O'Neill Patient

669

Chwiliadau

Tri phrif gwsmer Chwiliadau
Enact 6,881
Optima Legal Services 5,441
O'Neill Patient 3,341

Ceisiadau fesul rhanbarth

Rhanbarth Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

278,186

Llundain Fwyaf

223,961

Gogledd Orllewin Lloegr

130,375

De Orllewin Lloegr

119,867

Gorllewin Canolbarth Lloegr

102,165

Swydd Gaerefrog a'r Humber

98,928

Dwyrain Canolbarth Lloegr

86,880

Gogledd Lloegr

58,873

Cymru

58,616

Dwyrain Anglia

51,441

Ynysoedd Sili

65

Cymru a Lloegr a (heb eu haseinio)

45

Cyfanswm

1,209,402

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 56,800 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mai 2013. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Mai 2013 wedi'i leoli yn Knightsbridge, canol Llundain, a werthwyd am £12.5 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Mai 2013 wedi'i leoli yn Hartlepool, a werthwyd am £15,000.

Nawr gellir llwytho Data pris a dalwyd hanesyddol rhwng mis Ionawr 2009 a mis Ionawr 2012 i lawr am ddim ar ffurf CSV.

chevron_bullet Mynediad i'r set ddata pris a dalwyd llawn

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Mehefin am 11 y bore ar ddydd Gwener 26 Gorffennaf2013.
  2. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Ty’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 17 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Mae'r Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV a chaiff ei gyhoeddi ar ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant o fis Gorffennaf 2013.
  9. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  10. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  11. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler Am y Mynegai Prisiau Tai i gael rhagor o wybodaeth.
  12. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Gweler esboniad o'r termau a ddefnyddir.
  13. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  14. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
  15. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
    • Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
    • Nawr gellir llwytho Data pris a dalwyd hanesyddol rhwng mis Ionawr 2009 a mis Ionawr 2012 i lawr am ddim ar ffurf csv yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data
    • I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol rhwng 1995 a 2008, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn er y byddant ar gael i'w llwytho i lawr am ddim erbyn mis Tachwedd 2013.

    Cysylltu

    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix