2 Ionawr 2012
PR 01/13
Data Tueddiadau'r Farchnad mis Tachwedd gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau Tai mis Tachwedd wedi codi 0.3 y cant oddi ar fis Hydref: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,490
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Tachwedd gyda 262,078 o geisiadau
- Cyflwynwyd bron 63,700 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Tachwedd yn amrywio o £10,000 i £17 miliwn
Mae data mis Tachwedd o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.9 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,490. Mae'r newid misol o fis Hydref i fis Tachwedd yn gynnydd o 0.3 y cant.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 5.9 y cant.
- Yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda chynnydd o 2.4 y cant.
- Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf hefyd gyda gostyngiad o 2.9 y cant.
- Cymru welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 1.6 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Medi 2012 ostwng 21 y cant i 50,517 o gymharu â 63,552 ym mis Medi 2011.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Medi 2012 wedi gostwng 19 y cant i 613 o 753 ym mis Medi 2011.
Chwilio'r Mynegai
Y Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Hydref 2012) | Newid blynyddol (oddi ar fis Tachwedd 2011) |
Pris cyfartalog (Tachwedd 2012) |
---|---|---|---|
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
2.4% |
-2.9% |
£98,304 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
1.2% |
-0.7% |
£110,730 |
De Ddwyrain Lloegr |
0.7% |
2.1% |
£210,046 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
0.5% |
0.0% |
£122,761 |
Llundain |
0.5% |
5.9% |
£362,592 |
Dwyrain Lloegr |
0.4% |
2.4% |
£175,605 |
Cymru a Lloegr cyfan |
0.3% |
0.9% |
£161,490 |
De Orllewin Lloegr |
0.0% |
-0.4% |
£170,762 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
-0.2% |
-0.5% |
£129,371 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber |
-0.6% |
-2.6% |
£116,004 |
Cymru |
-1.6% |
-0.9% |
£115,202 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) |
Tachwedd 2012 |
Tachwedd 2011 |
Gwahaniaeth |
Tŷ sengl |
£253,501 |
£252,923 |
0.2% |
Tŷ pâr |
£153,437 |
£152,005 |
0.9% |
Tŷ teras |
£122,069 |
£121,051 |
0.8% |
Fflat/Fflat deulawr |
£152,550 |
£149,846 |
1.8% |
Holl |
£161,490 |
£160,040 |
0.9% |
Mis |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
Ionawr |
37,627 |
35,893 |
5% |
Chwefror |
39,694 |
42,585 |
-7% |
Mawrth |
46,765 |
51,484 |
-9% |
Ebrill |
50,766 |
52,361 |
-3% |
Mai |
48,998 |
52,249 |
-6% |
Mehefin |
57,732 |
62,804 |
-8% |
Gorffennaf |
62,317 |
67,568 |
-8% |
Awst |
64,423 |
61,553 |
5% |
Medi |
63,552 |
57,545 |
10% |
Hydref |
57,979 |
58,713 |
-1% |
Tachwedd |
60,340 |
56,379 |
7% |
Rhagfyr |
63,550 |
56,948 |
12% |
Cyfanswm |
653,743 |
656,082 |
0% |
Mis |
Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
Ionawr |
43,692 |
37,627 |
16% |
Chwefror |
44,763 |
39,694 |
13% |
Mawrth |
61,176 |
46,765 |
31% |
Ebrill |
43,124 |
50,766 |
-15% |
Mai |
52,267 |
48,998 |
7% |
Mehefin |
59,259 |
57,732 |
3% |
Gorffennaf |
58,403 |
62,317 |
-6% |
Awst |
63,705 |
64,423 |
-1% |
Medi |
50,517 |
63,552 |
-21% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 1,149,300 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Tachwedd. Mae hyn yn cynnwys 1,101,219 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 266,550 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 489,020 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 165,804 yn chwiliadau a 70,078 yn drafodion am werth.
Tri phrif gwsmer |
Trafodion am werth |
Countrywide Property Lawyers |
1,184 |
My Home Move Limited |
1,133 |
O'Neill Patient |
883 |
Tri phrif gwsmer |
Chwiliadau |
Enact |
5,354 |
Optima Legal Services |
5,145 |
TM Group (UK) Ltd (Search Choice) |
3,933 |
Tair prif ardal awdurdod lleol |
Ceisiadau |
Birmingham |
17,743 |
Dinas Westminster |
17,504 |
Cernyw |
12,937
|
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)
Rhanbarth |
Ceisiadau |
De Ddwyrain Lloegr |
262,078 |
Llundain Fwyaf |
211,986 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
124,797 |
De Orllewin Lloegr |
112,367 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
98,153 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber |
96,147 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
82,682 |
Cymru |
57,679 |
Gogledd Lloegr |
55,821 |
Dwyrain Anglia |
47,500 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) |
48 |
Ynysoedd Sili |
37 |
Cyfanswm |
1,149,295 |
Mae'r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion bron 63,700 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Tachwedd 2012. Mae'r eiddo drutaf (£17 miliwn) a'r rhataf (£10,000) a werthwyd ym mis Tachwedd 2012 wedi'u lleoli yn Bayswater, Gorllewin Llundain a Burnley, Swydd Gaerhirfryn.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Rhagfyr am 11 y bore ar ddydd Mawrth 29 Ionawr 2013.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov Dewch o hyd i ni ar LinkedIn
Cysylltu
- Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297 marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
- Dewch o hyd i ni ar LinkedIn