Data Tueddiadau'r Farchnad mis Ionawr gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau tai mis Ionawr yn codi 1.0 y cant oddi ar fis Rhagfyr: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £168,356
- 1,162 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Tachwedd 2013
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Ionawr gyda 322,079 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 92,200 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Ionawr yn amrywio o £10,000 i £28.5 miliwn
Mae data mis Ionawr o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 4.2 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £168,356. Mae'r newid misol o fis Rhagfyr i fis Ionawr yn gynnydd o 1.0 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 33 y cant ym mis Tachwedd 2013 i 1,162 o gymharu â 1,722 ym mis Tachwedd 2012.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 10.9 y cant.
- Yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 2.6 y cant.
- Ni welodd unrhyw ranbarthau ostyngiad blynyddol mewn prisiau.
- Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda symudiad o -1.4 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Tachwedd 2013 gynyddu 23 y cant i 78,358 o gymharu â 63,953 ym mis Tachwedd 2012.
- Bu cynnydd o 45 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr ym mis Tachwedd 2013 i 985 o 677 ym mis Tachwedd 2012.
- Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Dwyrain Lloegr.
Mynediad i'r set lawn o ddata
Llwytho adroddiad llawn mis Ionawr 2014 i lawr (PDF, XXXKB)
Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai
Am y Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Rhagfyr 2013) | Newid blynyddol(oddi ar fis Ionawr 2013) | Pris cyfartalog(Ionawr 2014) |
---|---|---|---|
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 2.6% | 1.9% | £98,292 |
De Ddwyrain Lloegr | 2.2% | 6.4% | £223,128 |
Llundain | 2.1% | 10.9% | £409,881 |
Cymru a Lloegr | 1.0% | 4.2% | £168,356 |
Dwyrain Lloegr | 0.9% | 4.8% | £182,263 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.8% | 4.8% | £127,344 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 0.5% | 2.0% | £132,068 |
Cymru | 0.4% | 0.8% | £116,894 |
De Orllewin Lloegr | 0.3% | 2.6% | £176,308 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -0.7% | 2.6% | £108,845 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | -1.4% | 0.3% | £114,910 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Ionawr 2014 | Ionawr 2013 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £267,590 | £255,800 | 4.6% |
Tŷ pâr | £159,855 | £153,405 | 4.2% |
Tŷ teras | £125,901 | £121,492 | 3.6% |
Fflat/Fflat deulawr | £160,152 | £153,654 | 4.2% |
Holl | £168,356 | £161,633 | 4.2% |
Nifer y gwerthiannau 2011-2012
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,780 | 37,661 | 16% |
Chwefror | 44,868 | 39,707 | 13% |
Mawrth | 61,366 | 46,791 | 31% |
Ebrill | 43,275 | 50,809 | -15% |
Mai | 52,543 | 49,028 | 7% |
Mehefin | 59,880 | 57,785 | 4% |
Gorffennaf | 59,159 | 62,364 | -5% |
Awst | 65,029 | 64,468 | 1% |
Medi | 52,881 | 63,607 | -17% |
Hydref | 59,225 | 58,060 | 2% |
Tachwedd | 63,953 | 60,435 | 6% |
Rhagfyr | 56,680 | 63,651 | -11% |
Cyfanswm | 662,639 | 654,366 | 1% |
Nifer y gwerthiannau 2012-2013
Mis | Gwerthiannau 2013 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,330 | 43,780 | -1% |
Chwefror | 45,184 | 44,868 | 1% |
Mawrth | 54,595 | 61,366 | -11% |
Ebrill | 50,886 | 43,275 | 18% |
Mai | 66,126 | 52,543 | 26% |
Mehefin | 65,703 | 59,880 | 10% |
Gorffennaf | 73,225 | 59,159 | 24% |
Awst | 78,671 | 65,029 | 21% |
Medi | 68,687 | 52,881 | 30% |
Hydref | 74,741 | 59,225 | 26% |
Tachwedd | 78,358 | 63,953 | 23% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Tachwedd 2013 | Tachwedd 2012 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 70 | 159 | -56% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 112 | 136 | -18% |
Llundain | 109 | 182 | -40% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 31 | 48 | -35% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 278 | 378 | -26% |
De Ddwyrain Lloegr | 135 | 209 | -35% |
De Orllewin Lloegr | 66 | 89 | -26% |
Cymru | 99 | 145 | -32% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 97 | 135 | -28% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 165 | 241 | -32% |
Holl | 1,162 | 1,722 | -33% |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 92,200 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Ionawr 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Ionawr 2014 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £13 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Ionawr 2014 wedi'i leoli yn Stanley, Swydd Durham, a werthwyd am £10,000.
Mynediad i'r set lawn o ddata pris a dalwyd
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,404,840 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Ionawr. Mae hyn yn cynnwys 1,350,818 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 362,570 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 597,974 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 182,835 yn chwiliadau a 103,208 yn drafodion am werth.
Mynediad i'r set lawn o ddata trafodiad
Trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
Olswang LLP | 7,592 |
My Home Move Limited | 2,045 |
Countrywide Property Lawyers | 979 |
Chwiliadau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 8,255 |
Optima Legal Services | 5,904 |
Breeze Wyles | 4,070 |
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 322,079 |
Llundain Fwyaf | 264,472 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 158,470 |
De Orllewin Lloegr | 138,679 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 114,701 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 109,791 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 101,241 |
Gogledd Lloegr | 70,339 |
Cymru | 66,005 |
Dwyrain Anglia | 58,943 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 64 |
Ynysoedd Sili | 59 |
Cyfanswm | 1,404,843 |
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Chwefror am 9.30 y bore ar ddydd Gwener 28 Mawrth 2014. Mynediad i'r calendr rhyddhau hyd at fis Hydref 2014.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am fwy nag 18 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006.
- Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
- Gellir llwytho Data Pris a Dalwyd i lawr ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant fel data cysylltiedig yn data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir yn y Data trafodiad.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- 15. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
Cysylltu
Marion Shelley 0300 006 7543, 07790 690297
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk