logo_w
28 Chwefror 2014
PR 03/14

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Ionawr gan y Gofrestrfa Tir

 
  • Prisiau tai mis Ionawr yn codi 1.0 y cant oddi ar fis Rhagfyr: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £168,356
  • 1,162 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Tachwedd 2013
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Ionawr gyda 322,079 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 92,200 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Ionawr yn amrywio o £10,000 i £28.5 miliwn
 

Mae data mis Ionawr o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 4.2 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £168,356. Mae'r newid misol o fis Rhagfyr i fis Ionawr yn gynnydd o 1.0 y cant. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 33 y cant ym mis Tachwedd 2013 i 1,162 o gymharu â 1,722 ym mis Tachwedd 2012.  

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 10.9 y cant.
  • Yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 2.6 y cant.
  • Ni welodd unrhyw ranbarthau ostyngiad blynyddol mewn prisiau.
  • Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda symudiad o -1.4 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Tachwedd 2013 gynyddu 23 y cant i 78,358 o gymharu â 63,953 ym mis Tachwedd 2012.
  • Bu cynnydd o 45 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr ym mis Tachwedd 2013 i 985 o 677 ym mis Tachwedd 2012.
  • Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn adfeddiannau oedd Dwyrain Lloegr.
 

 Mynediad i'r set lawn o ddata
 Llwytho adroddiad llawn mis Ionawr 2014 i lawr (PDF, XXXKB)
 Chwilio'r Mynegai Prisiau Tai 
 Am y Mynegai Prisiau Tai

     
Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Rhagfyr 2013) Newid blynyddol(oddi ar fis Ionawr 2013) Pris cyfartalog(Ionawr  2014)

Gogledd Ddwyrain Lloegr

 2.6%

 1.9%

£98,292

De Ddwyrain Lloegr

 2.2%

 6.4%

£223,128

Llundain

 2.1%

 10.9%

£409,881

Cymru a Lloegr

 1.0%

 4.2%

£168,356

Dwyrain Lloegr

 0.9%

 4.8%

£182,263

Dwyrain Canolbarth Lloegr

 0.8%

 4.8%

£127,344

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 0.5%

 2.0%

£132,068

Cymru

 0.4%

 0.8%

£116,894

De Orllewin Lloegr

 0.3%

 2.6%

£176,308

Gogledd Orllewin Lloegr

-0.7%

 2.6%

£108,845

Swydd Gaerefrog a’r Humber

-1.4%

 0.3%

£114,910

 


 

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

  
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Ionawr 2014 Ionawr 2013 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£267,590

 £255,800

4.6%

Tŷ pâr

£159,855

 £153,405

4.2%

Tŷ teras

£125,901

 £121,492

3.6%

Fflat/Fflat deulawr

£160,152

 £153,654

4.2%

Holl

£168,356

 £161,633

4.2%

 


 

Nifer y gwerthiannau 2011-2012 

 

Mis Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2011
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

  43,780

  37,661

 16%

Chwefror

  44,868

  39,707

 13%

Mawrth

  61,366

  46,791

 31%

Ebrill

  43,275

  50,809

-15%

Mai

  52,543

  49,028

   7%

Mehefin

  59,880

  57,785

   4%

Gorffennaf

  59,159

  62,364

 -5%

Awst

  65,029

  64,468

   1%

Medi

  52,881

  63,607

-17%

Hydref

  59,225

  58,060

   2%

Tachwedd

  63,953

  60,435

   6%

Rhagfyr

  56,680

  63,651

-11%

Cyfanswm

662,639

654,366

   1%


 

Nifer y gwerthiannau 2012-2013

 
Mis Gwerthiannau 2013
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

43,330

43,780

 -1%

Chwefror

45,184

44,868

  1%

Mawrth

54,595

61,366

-11%

Ebrill

50,886

43,275

 18%

Mai

66,126

52,543

 26%

Mehefin

65,703

59,880

 10%

Gorffennaf

73,225

59,159

 24%

Awst

78,671

65,029

 21%

Medi

68,687

52,881

 30%

Hydref

74,741

59,225

 26%

Tachwedd

78,358

63,953

 23%


 

Adfeddiannau fesul rhanbarth

      
Adfeddiannau fesul rhanbarth Tachwedd 2013 Tachwedd 2012 Gwahaniaeth

Dwyrain Lloegr

   70

   159

-56%

Dwyrain Canolbarth Lloegr

 112

   136

-18%

Llundain

 109

   182

-40%

Gogledd Ddwyrain Lloegr

   31

     48

-35%

Gogledd Orllewin Lloegr

 278

   378

-26%

De Ddwyrain Lloegr

 135

   209

-35%

De Orllewin Lloegr

   66

    89

-26%

Cymru

   99

   145

-32%

Gorllewin Canolbarth Lloegr

   97

   135

-28%

Swydd Gaerefrog a’r Humber

 165

   241

-32%

Holl

1,162

1,722

-33%

 

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 92,200 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Ionawr 2014. Mae'r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Ionawr 2014 wedi'i leoli ym mwrdeistref Kensington a Chelsea, Llundain, a werthwyd am £13 miliwn. Mae'r eiddo rhataf a werthwyd ym mis Ionawr 2014 wedi'i leoli yn Stanley, Swydd Durham, a werthwyd am £10,000.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata pris a dalwyd

 

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,404,840 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Ionawr. Mae hyn yn cynnwys 1,350,818 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 362,570 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 597,974 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 182,835 yn chwiliadau a 103,208 yn drafodion am werth.

 

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata trafodiad


 

Trafodion am werth

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth

Olswang LLP

7,592

My Home Move Limited

2,045

Countrywide Property Lawyers

979


 

Chwiliadau

  
Tri phrif gwsmer Chwiliadau

Enact

8,255

Optima Legal Services

5,904

Breeze Wyles

4,070

   


   

Ceisiadau fesul rhanbarth

Rhanbarth Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

 322,079

Llundain Fwyaf

 264,472

Gogledd Orllewin Lloegr

 158,470

De Orllewin Lloegr

 138,679

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 114,701

Swydd Gaerefrog a'r Humber

 109,791

Dwyrain Canolbarth Lloegr

 101,241

Gogledd Lloegr

   70,339

Cymru

   66,005

Dwyrain Anglia

   58,943

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

         64

Ynysoedd Sili

         59

Cyfanswm

1,404,843

   

Diwedd

   

Nodiadau i olygyddion

   

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Chwefror am 9.30 y bore ar ddydd Gwener 28  Mawrth 2014. Mynediad i'r calendr rhyddhau hyd at fis Hydref 2014.
  2. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  3. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am fwy nag 18 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros 6.5 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  4. Mae'r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
  5. Mae'r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i'r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy'n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi'r trafodion hyn, rydym yn tynnu'r wybodaeth pris a dalwyd o'r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
  6. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau'n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006.
  7. Mae tablau cefndir y Mynegai Prisiau Tai bellach ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig.
  8. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
  9. Gellir llwytho Data Pris a Dalwyd i lawr ar ffurf csv ac mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar beiriant fel data cysylltiedig yn data pris a dalwyd. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  10. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir yn y Data trafodiad
  11. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  12. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
  13. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  14. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  15. 15. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a'n blog.
       

    Cysylltu

    Marion Shelley 0300 006 7543, 07790 690297
    marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk 

    © Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix