logo_w

PR 08/12 
29 Mai 2012

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Ebrill gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau tai mis Ebrill wedi gostwng 0.3 y cant oddi ar fis Mawrth: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £160,417
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Ebrill gyda 233,486 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 51,000 o brisiau gwerthiannau eiddo preswyl yn amrywio o £8,000 i £55 miliwn yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Ebrill

Mae data mis Ebrill o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 1.0 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £160,417. Mae'r newid misol o fis Mawrth i fis Ebrill yn ostyngiad o 0.3 y cant.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 5.1 y cant
  • Llundain welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda chynnydd o 5.1 y cant. Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 5.6 y cant
  • Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 5.6 y cant.
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf gyda gostyngiad o 2.7 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai yng Nghymru a Lloegr ym mis Chwefror 2012 gynyddu 9 y cant i 43,331 o gymharu â 39,670 ym mis Chwefror 2011
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Chwefror 2012 wedi gostwng 3 y cant i 462 o 478 ym mis Chwefror 2011.

Mynediad i'r set lawn o ddata http://www.cofrestrfatir.gov.uk/public/house-prices-and-sales 

Rhanbarth

Newid misol
(oddi ar fis Mawrth 2012)

Newid blynyddol
(oddi ar fis Ebrill 2011)

Pris cyfartalog
(Ebrill 2012)

Llundain

5.1%

5.1%

£360,721

De Orllewin Lloegr

2.0%

0.5%

£174,261

De Ddwyrain Lloegr

0.1%

0.4%

£206,816

Dwyrain Lloegr

0.1%

0.5%

£173,357

Cymru

-0.1%

-4.6%

£114,762

Cymru a Lloegr

-0.3%

-1.0%

£160,417

Dwyrain Canolbarth Lloegr

-0.3%

-1.1%

£123,429

Gogledd Orllewin Lloegr

-1.3%

-3.2%

£110,954

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-2.1%

-3.3%

£101,034

Swydd Gaerefrog a'r Humber

-2.4%

-5.6%

£115,783

Gorllewin Canolbarth Lloegr

-2.7%

-4.1%

£126,527


Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Ebrill 2012 Ebrill 2011 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£257,767

£255,093

1.0%

Tŷ pâr

£151,073

£153,073

-1.3%

Tŷ teras

£120,862

£123,473

-2.1%

Fflat/fflat deulawr

£149,508

£151,879

-1.6%

Holl

£160,417

£162,019 

-1.0%


Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,592

35,876

5%

Chwefror

39,670

42,572

-7%

Mawrth

46,725

51,457

-9%

Ebrill

50,698

52,330

-3%

Mai

48,943

52,229

-6%

Mehefin

57,645

62,774

-8%

Gorffennaf

62,237

67,521

-8%

Awst

64,298

61,511

5%

Medi

63,391

57,504

10%

Hydref

57,768

58,667

-2%

Tachwedd

60,055

56,344

7%

Rhagfyr

62,955

56,891

11%

Cyfanswm

651,977

655,676

-1%


Mis

Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

43,058

37,592

15%

Chwefror

43,331

39,670

9%

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 1 miliwn o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Ebrill. Mae hyn yn cynnwys 931,857 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif gyda:

  • 229,615 o geisiadau mewn perthynas â theitl cofrestredig (deliadau)
  • 500,063 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
  • 131,252 yn chwiliadau a
  • 57,091 yn drafodion am werth.

Mynediad i'r set lawn o ddata: http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/transaction-data 

Tri phrif gwsmer

Trafodion am werth

Stevensons

6,810

My Home Move Ltd

1,368

Countrywide Property Lawyers

1,353


Tri phrif gwsmer

Chwiliadau

Enact

5,296

Optima Legal Services

4,501

NLIS Operations

3,457


Tair prif awdurdod lleol

Ceisiadau

Dinas Westminster

15,597

Birmingham

15,161

Cernyw

12,300


Rhanbarth

Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

233,486

Llundain Fwyaf

178,370

Gogledd Orllewin Lloegr

113,150

De Orllewin Lloegr

101,796

Gorllewin Canolbarth Lloegr

84,997

Swydd Gaerefrog a'r Humber

83,047

Dwyrain Canolbarth Lloegr

71,393

Cymru

50,139

Gogledd Lloegr

48,753

Dwyrain Anglia

40,693

Ynysoedd Sili

39

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

29

Cymru a Lloegr

1,005,892

Mae'r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 51,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Ebrill 2012.

Mae'r eiddo drutaf a werthwyd am ychydig llai na £55 miliwn ym mis Mawrth 2012 yng nghanol Llundain; mae'r eiddo rhataf yn Colne, Swydd Gaerhirfryn a werthodd am £8,000 ym mis Mawrth 2012. Mynediad i'r set lawn o ddata http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Pris a Dalwyd mis Mai am 11 y bore ar ddydd Llun 2 Gorffennaf 2012.
  2. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad is ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. 
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA) a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ailddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol net am ddim.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Fel y rhan gyntaf o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth pris a dalwyd y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai a'r data trafodiad. 
  7. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • cyfeiriad llawn 
    • y pris a dalwyd 
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo 
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio 
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo.
  8. Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA. 
  9. I gael Data Pris a Dalwyd , hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
  10. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  11. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  12. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11 
  13. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol. 
  14. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  15. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o'r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy'n atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  16. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix