top logo

01/12 01/02/2012

Data tueddiadau'r farchnad mis Rhagfyr gan y Gofrestrfa Tir

Mae gwybodaeth trafodion misol manwl bellach ar gael yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai

Dim newid i brisiau tai misol rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £160,384

De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Rhagfyr gyda 214,852 o geisiadau.

Fel y rhan gyntaf o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth trafodion manwl y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai.

Mae'r set gyntaf o ddata am ddim, a rhyddheir heddiw, 30 Ionawr 2012, gan y Gofrestrfa Tir fel un o sylfaenwyr y Grŵp Data Cyhoeddus, yn cynnwys dadansoddiad manwl o geisiadau yn ôl nifer a math gan gyfreithwyr, trawsgludwyr a rhoddwyr benthyg ac mae'n cynnwys eiddo masnachol a thir, yn ogystal ag eiddo preswyl.

Bydd y defnyddiwr yn fwy hyddysg trwy allu gweld y nifer a'r mathau o drafodion a gyflawnir yng Nghymru a Lloegr tra y bydd y sectorau eiddo a chyllid yn gallu defnyddio'r data i asesu tueddiadau a symudiadau yn y farchnad eiddo.

Gellir llwytho'r wybodaeth i lawr i'w hailddefnyddio ar ffurf hygyrch o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA) a chaiff y wybodaeth ganlynol ei diweddaru'n fisol:

  • nifer a mathau'r ceisiadau fesul pob cwsmer cyfrif
  • nifer a mathau'r trafodion am werth fesul pob cwsmer cyfrif
  • nifer y chwiliadau fesul pob cwsmer cyfrif
  • nifer y ceisiadau yng Nghymru a Lloegr fesul rhanbarth a dosbarth awdurdod lleol fesul pob cwsmer (gyda chyfrif a heb gyfrif).

Dywedodd Malcolm Dawson, Prif Weithredwr y Gofrestrfa Tir:

“Ochr yn ochr â'r data sy'n llywio ein Mynegai Prisiau Tai gellir defnyddio'r data hwn i archwilio'r farchnad a hysbysu'r cyhoedd.

“Mae'r potensial ar gyfer sut y gellir defnyddio (ac ail-ddefnyddio) y wybodaeth hon yn sylweddol. Fel aelod o'r Grŵp Data Cyhoeddus newydd, rydym yn credu'n gryf y bydd y set data hon a rhyddhau'n gwybodaeth am bris a dalwyd am ddim ym mis Mawrth yn helpu i ategu tryloywder ac agenda twf economaidd y Llywodraeth.”

O fis Mawrth 2012, caiff gwybodaeth fisol Price Paid y Gofrestrfa Tir sy'n dangos holl werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr ar lefel cyfeiriad ei chyhoeddi fel rhan o’r Data Tueddiadau’r Farchnad. Bydd yn bosibl ei llwytho i lawr a'i hail-ddefnyddio o dan y TLlA ar yr un ffurf â'r Data Trafodiad.

Mae data mis Rhagfyr o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 1.3 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £160,384. Nid oes unrhyw newid misol rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

Yr unig ranbarth yng Nghymru a Lloegr i weld cynnydd mewn gwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 2.8 y cant. Yng Ngogledd Orllewin Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.5 y cant. Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 7.1 y cant a'r gostyngiad prisiau misol mwyaf sylweddol gyda gostyngiad o 1.9 y cant.

Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2011 ostwng 6 y cant i 55,309 o 58,634 ym mis Hydref 2010. Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Hydref 2011 wedi gostwng 10 y cant i 525 o 582 ym mis Hydref 2010.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/house-prices

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Tachwedd 2011)

Newid blynyddol

(oddi ar fis Rhagfyr 2010)

Pris cyfartalog

(Rhagfyr 2011)

Gogledd Orllewin Lloegr

1.5%

-3.4%

£113,204

Cymru

0.9%

-3.0%

£117,447

Llundain

0.8%

2.8%

£345,298

Dwyrain Lloegr

0.8%

-0.2%

£172,899

Dwyrain Canolbarth Lloegr

0.4%

-1.5%

£123,697

Cymru a Lloegr

0.0%

-1.3%

£160,384

De Ddwyrain Lloegr

-0.2%

-0.2%

£206,522

Swydd Gaerefrog a’r Humber

-0.6%

-3.2%

£119,096

De Orllewin Lloegr

-0.9%

-1.5%

£170,504

Gorllewin Canolbarth Lloegr

-1.0%

-3.2%

£129,082

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-1.9%

-7.1%

£99,464

 

 

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Rhagfyr 2011

Rhagfyr 2010

Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£252,118

£256,526

-1.7%

Tŷ pâr

£153,032

£154,271

-0.8%

Tŷ teras

£121,406

£123,535

-1.7%

Fflat/Fflat deulawr

£149,026

£151,383

-1.6%

Holl

£160,384

£162,521

-1.3%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

35,864

26,297

36%

Chwefror

42,557

27,309

56%

Mawrth

51,440

35,565

45%

Ebrill

52,305

39,380

33%

Mai

52,201

45,899

14%

Mehefin

62,744

54,815

14%

Gorffennaf

67,497

63,715

6%

Awst

61,488

58,386

5%

Medi

57,476

58,563

-2%

Hydref

58,634

65,855

-11%

Tachwedd

56,305

61,176

-8%

Rhagfyr

56,849

78,582

-28%

Cyfanswm

655,360

615,542

6%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,544

35,864

5%

Chwefror

39,635

42,557

-7%

Mawrth

46,657

51,440

-9%

Ebrill

50,606

52,305

-3%

Mai

48,802

52,201

-7%

Mehefin

57,392

62,744

-9%

Gorffennaf

61,912

67,497

-8%

Awst

63,728

61,488

4%

Medi

62,106

57,476

8%

Hydref

55,309

58,634

-6%

 

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 916,000 o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys 850,236 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 244,191 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau), 333,919 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl, 150,150 yn chwiliadau a 55,586 yn drafodion am werth.

Tri phrif gwsmer

Ceisiadau

Enact

19,404

NLIS Operations (MDA)

18,117

Optima Legal Services

16,462

 

 

Tri phrif gwsmer

Trafodion am werth

My Home Move Ltd

977

Countrywide Property Lawyers

857

O'Neill Patient

418

 

 

 

Tri phrif gwsmer

Chwiliadau

Search Choice Limited

6,256

Enact

5,856

Optima Legal Services

4,940

 

 

Tair prif awdurdod lleol

Ceisiadau

Birmingham

14,446

Dinas Westminster

13,280

Leeds

10,179

 

 

 

Rhanbarth

Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

214,852

Llundain Fwyaf

158,600

Gogledd Orllewin Lloegr

99,311

De Orllewin Lloegr

92,909

Gorllewin Canolbarth Lloegr

80,469

Swydd Gaerefrog a'r Humber

76,430

Dwyrain Canolbarth Lloegr

67,069

Cymru

45,199

Gogledd Lloegr

43,455

Dwyrain Anglia

37,819

Ynysoedd Sili

22

Cymru a Lloegr heb ei aseinio

26

Cymru a Lloegr

916,161

 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Caiff Mynegai Prisiau Tai a Data Trafodiad mis Ionawr eu cyhoeddi am 11 y bore ar ddydd Mawrth 28 Chwefror 2012.
  2. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan Archif Genedlaethol y DU, yn caniatáu’r defnydd a'r ail-ddefnydd o wybodaeth y sector cyhoeddus am ddim. I gael rhagor o wybodaeth ewch ihttp://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  3. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  4. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r byrfoddau a thermau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/faqs#m11. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  5. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/faqs#m11. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  6. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  7. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  8. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  9. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix