01/12 01/02/2012
Data tueddiadau'r farchnad mis Rhagfyr gan y Gofrestrfa Tir
Mae gwybodaeth trafodion misol manwl bellach ar gael yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai
Dim newid i brisiau tai misol rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £160,384
De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Rhagfyr gyda 214,852 o geisiadau.
Fel y rhan gyntaf o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth trafodion manwl y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai.
Mae'r set gyntaf o ddata am ddim, a rhyddheir heddiw, 30 Ionawr 2012, gan y Gofrestrfa Tir fel un o sylfaenwyr y Grŵp Data Cyhoeddus, yn cynnwys dadansoddiad manwl o geisiadau yn ôl nifer a math gan gyfreithwyr, trawsgludwyr a rhoddwyr benthyg ac mae'n cynnwys eiddo masnachol a thir, yn ogystal ag eiddo preswyl.
Bydd y defnyddiwr yn fwy hyddysg trwy allu gweld y nifer a'r mathau o drafodion a gyflawnir yng Nghymru a Lloegr tra y bydd y sectorau eiddo a chyllid yn gallu defnyddio'r data i asesu tueddiadau a symudiadau yn y farchnad eiddo.
Gellir llwytho'r wybodaeth i lawr i'w hailddefnyddio ar ffurf hygyrch o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA) a chaiff y wybodaeth ganlynol ei diweddaru'n fisol:
- nifer a mathau'r ceisiadau fesul pob cwsmer cyfrif
- nifer a mathau'r trafodion am werth fesul pob cwsmer cyfrif
- nifer y chwiliadau fesul pob cwsmer cyfrif
- nifer y ceisiadau yng Nghymru a Lloegr fesul rhanbarth a dosbarth awdurdod lleol fesul pob cwsmer (gyda chyfrif a heb gyfrif).
Dywedodd Malcolm Dawson, Prif Weithredwr y Gofrestrfa Tir:
“Ochr yn ochr â'r data sy'n llywio ein Mynegai Prisiau Tai gellir defnyddio'r data hwn i archwilio'r farchnad a hysbysu'r cyhoedd.
“Mae'r potensial ar gyfer sut y gellir defnyddio (ac ail-ddefnyddio) y wybodaeth hon yn sylweddol. Fel aelod o'r Grŵp Data Cyhoeddus newydd, rydym yn credu'n gryf y bydd y set data hon a rhyddhau'n gwybodaeth am bris a dalwyd am ddim ym mis Mawrth yn helpu i ategu tryloywder ac agenda twf economaidd y Llywodraeth.”
O fis Mawrth 2012, caiff gwybodaeth fisol Price Paid y Gofrestrfa Tir sy'n dangos holl werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr ar lefel cyfeiriad ei chyhoeddi fel rhan o’r Data Tueddiadau’r Farchnad. Bydd yn bosibl ei llwytho i lawr a'i hail-ddefnyddio o dan y TLlA ar yr un ffurf â'r Data Trafodiad.
Mae data mis Rhagfyr o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 1.3 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £160,384. Nid oes unrhyw newid misol rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr.
Yr unig ranbarth yng Nghymru a Lloegr i weld cynnydd mewn gwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 2.8 y cant. Yng Ngogledd Orllewin Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.5 y cant. Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 7.1 y cant a'r gostyngiad prisiau misol mwyaf sylweddol gyda gostyngiad o 1.9 y cant.
Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2011 ostwng 6 y cant i 55,309 o 58,634 ym mis Hydref 2010. Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Hydref 2011 wedi gostwng 10 y cant i 525 o 582 ym mis Hydref 2010.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/house-prices
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
| Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Tachwedd 2011) | Newid blynyddol (oddi ar fis Rhagfyr 2010) | Pris cyfartalog (Rhagfyr 2011) |
| Gogledd Orllewin Lloegr | 1.5% | -3.4% | £113,204 |
| Cymru | 0.9% | -3.0% | £117,447 |
| Llundain | 0.8% | 2.8% | £345,298 |
| Dwyrain Lloegr | 0.8% | -0.2% | £172,899 |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.4% | -1.5% | £123,697 |
| Cymru a Lloegr | 0.0% | -1.3% | £160,384 |
| De Ddwyrain Lloegr | -0.2% | -0.2% | £206,522 |
| Swydd Gaerefrog a’r Humber | -0.6% | -3.2% | £119,096 |
| De Orllewin Lloegr | -0.9% | -1.5% | £170,504 |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | -1.0% | -3.2% | £129,082 |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | -1.9% | -7.1% | £99,464 |
| Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Rhagfyr 2011 | Rhagfyr 2010 | Gwahaniaeth |
| Tŷ sengl | £252,118 | £256,526 | -1.7% |
| Tŷ pâr | £153,032 | £154,271 | -0.8% |
| Tŷ teras | £121,406 | £123,535 | -1.7% |
| Fflat/Fflat deulawr | £149,026 | £151,383 | -1.6% |
| Holl | £160,384 | £162,521 | -1.3% |
| Mis | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
| Ionawr | 35,864 | 26,297 | 36% |
| Chwefror | 42,557 | 27,309 | 56% |
| Mawrth | 51,440 | 35,565 | 45% |
| Ebrill | 52,305 | 39,380 | 33% |
| Mai | 52,201 | 45,899 | 14% |
| Mehefin | 62,744 | 54,815 | 14% |
| Gorffennaf | 67,497 | 63,715 | 6% |
| Awst | 61,488 | 58,386 | 5% |
| Medi | 57,476 | 58,563 | -2% |
| Hydref | 58,634 | 65,855 | -11% |
| Tachwedd | 56,305 | 61,176 | -8% |
| Rhagfyr | 56,849 | 78,582 | -28% |
| Cyfanswm | 655,360 | 615,542 | 6% |
| Mis | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
| Ionawr | 37,544 | 35,864 | 5% |
| Chwefror | 39,635 | 42,557 | -7% |
| Mawrth | 46,657 | 51,440 | -9% |
| Ebrill | 50,606 | 52,305 | -3% |
| Mai | 48,802 | 52,201 | -7% |
| Mehefin | 57,392 | 62,744 | -9% |
| Gorffennaf | 61,912 | 67,497 | -8% |
| Awst | 63,728 | 61,488 | 4% |
| Medi | 62,106 | 57,476 | 8% |
| Hydref | 55,309 | 58,634 | -6% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 916,000 o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys 850,236 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 244,191 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau), 333,919 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl, 150,150 yn chwiliadau a 55,586 yn drafodion am werth.
| Tri phrif gwsmer | Ceisiadau |
| Enact | 19,404 |
| NLIS Operations (MDA) | 18,117 |
| Optima Legal Services | 16,462 |
| Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
| My Home Move Ltd | 977 |
| Countrywide Property Lawyers | 857 |
| O'Neill Patient | 418 |
|
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
| Search Choice Limited | 6,256 |
| Enact | 5,856 |
| Optima Legal Services | 4,940 |
| Tair prif awdurdod lleol | Ceisiadau |
| Birmingham | 14,446 |
| Dinas Westminster | 13,280 |
| Leeds | 10,179 |
|
Rhanbarth | Ceisiadau |
| De Ddwyrain Lloegr | 214,852 |
| Llundain Fwyaf | 158,600 |
| Gogledd Orllewin Lloegr | 99,311 |
| De Orllewin Lloegr | 92,909 |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | 80,469 |
| Swydd Gaerefrog a'r Humber | 76,430 |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | 67,069 |
| Cymru | 45,199 |
| Gogledd Lloegr | 43,455 |
| Dwyrain Anglia | 37,819 |
| Ynysoedd Sili | 22 |
| Cymru a Lloegr heb ei aseinio | 26 |
| Cymru a Lloegr | 916,161 |
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Caiff Mynegai Prisiau Tai a Data Trafodiad mis Ionawr eu cyhoeddi am 11 y bore ar ddydd Mawrth 28 Chwefror 2012.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan Archif Genedlaethol y DU, yn caniatáu’r defnydd a'r ail-ddefnydd o wybodaeth y sector cyhoeddus am ddim. I gael rhagor o wybodaeth ewch ihttp://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r byrfoddau a thermau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/faqs#m11. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/market-trend-data/faqs#m11. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297


