top logo

27 Gorffennaf 2012
PR 12/12

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mehefin gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau tai mis Mehefin yn codi 0.1 y cant oddi ar fis Mai: pris tŷ cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,777
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mehefin gyda 222,280 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 50,000 o brisiau gwerthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mehefin

Mae data mis Mehefin o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.9 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,777. Mae'r newid misol o fis Mai i fis Mehefin yn gynnydd o 0.1 y cant.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei gwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 6.3 y cant.
  • Cymru welodd y cynnydd misol mwyaf gyda chynnydd o 2.5 y cant.
  • Gwelodd Swydd Gaerefrog a'r Humber y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 1.9 y cant.
  • Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 0.3 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2012 ostwng 19 y cant i 41,244 o gymharu â 50,721 ym mis Ebrill 2011.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ebrill 2012 wedi gostwng 43 y cant i 468 o 825 ym mis Ebrill 2011.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata 

Mynegai Prisiau Tai 

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Mai 2012)

Newid blynyddol

(oddi ar fis Mehefin 2011)

Pris cyfartalog

(Mehefin 2012)

Cymru

2.5%

0.2%

£118,847

Gogledd Ddwyrain Lloegr

1.7%

-0.9%

£101,689

Gorllewin Canolbarth Lloegr

1.4%

0.4%

£131,159

Gogledd Orllewin Lloegr

1.1%

-1.3%

£111,167

Llundain

0.2%

6.3%

£359,476

De Ddwyrain Lloegr

0.1%

1.4%

£209,069

Cymru a Lloegr

0.1%

0.9%

£161,777

Dwyrain Lloegr

0.1%

0.6%

£173,183

Dwyrain Canolbarth Lloegr

-0.1%

-0.2%

£123,166

De Orllewin Lloegr

-0.2%

1.2%

£172,405

Swydd Gaerefrog a’r Humber

-0.3%

-1.9%

£117,908

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Mehefin 2012

Mehefin 2011

Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£254,780

£252,494

0.9%

Tŷ pâr

£153,673

£152,556

0.7%

Tŷ teras

£123,355

£121,380

1.6%

Fflat/Fflat deulawr

£150,289

£150,745

-0.3%

Holl

£161,777

£160,362

0.9%

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,606

35,885

5%

Chwefror

39,676

42,576

-7%

Mawrth

46,740

51,466

-9%

Ebrill

50,721

52,335

-3%

Mai

48,968

52,234

-6%

Mehefin

57,685

62,783

-8%

Gorffennaf

62,273

67,541

-8%

Awst

64,350

61,525

5%

Medi

63,481

57,518

10%

Hydref

57,874

58,676

-1%

Tachwedd

60,218

56,357

7%

Rhagfyr

63,324

56,910

11%

Cyfanswm

652,916

655,806

0%

Mis

Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

43,446

37,606

16%

Chwefror

44,367

39,676

12%

Mawrth

59,912

46,740

28%

Ebrill

41,244

50,721

-19%

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 960,000 o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Mehefin. Mae hyn yn cynnwys 910,391 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 221,534 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 397,977 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 142,873 yn chwiliadau a 54,622 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

Data trafodiad

Tri phrif gwsmer

Trafodion am werth

Countrywide Property Lawyers

1,523

My Home Move Limited

1,342

O'Neill Patient

663

Tri phrif gwsmer

Chwiliadau

Enact

5,081

Optima Legal Services

4,574

NLIS Operations

3,888

Tair prif ardal awdurdod lleol

Ceisiadau

Birmingham

15,252

Dinas Westminster

14,801

Leeds

10,915

Rhanbarth

Ceisiadau

De Ddwyrain Lloegr

222,280

Llundain Fwyaf

174,293

Gogledd Orllewin Lloegr

104,459

De Orllewin Lloegr

96,450

Gorllewin Canolbarth Lloegr

81,506

Swydd Gaerefrog a'r Humber

78,409

Dwyrain Canolbarth Lloegr

69,690

Cymru

48,281

Gogledd Lloegr

46,102

Dwyrain Anglia

39,506

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

35

Ynysoedd Sili

19

Cyfanswm

961,030

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 50,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mehefin 2012. Gwerthwyd yr eiddo drutaf a werthwyd sydd wedi'i leoli yng nghanol Llundain am £13.5 miliwn ym mis Mehefin 2012. Mynediad i'r set lawn o ddata www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/transaction-data

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Gorffennaf am 11 y bore ar ddydd Mercher 29 Awst 2012.
  2. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  9. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  10. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  11. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo 
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
  12. Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  13. I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
  14. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov Dewch o hyd i ni ar LinkedIn

Cysylltu

Ronal Patel 0300 0067490

Ronal.patel@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix