top logo

11/11 28/07/2011

Y GOFRESTRFA TIR YN AILADRODD RHYBUDD AM GYNLLUNIAU BANCIO TIR WRTH I GOLLEDION DIODDEFWYR GYRRAEDD £200 MILIWN

Mae’r Gofrestrfa Tir wedi diweddaru ei chyfarwyddyd am fancio tir er mwyn rhybuddio’r cyhoedd am y risgiau sy’n gysylltiedig â phrynu tir sy’n rhan o gynllun bancio tir. Maent yn gynlluniau lle yr honnir fod gan leiniau tir werth buddsoddi da yn y disgwyliad o ddatblygiad yn y dyfodol, ond lle nad oes fawr o siawns y caiff y tir ei ddatblygu o gwbl. Yn ddiweddar amcangyfrifodd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol bod cynlluniau bancio tir wedi costio cymaint â £200 miliwn i fuddsoddwyr y DU.

Cyhoeddwyd Cyfarwyddyd Cyhoeddus 21 – Cynlluniau bancio tir – prynu tir yng Nghymru a Lloegr sydd â photensial datblygu honedig neu dybiedig yn wreiddiol ym mis Rhagfyr 2008 ac mae bellach yn cynnwys manylion cysylltu ar gyfer sefydliadau sy’n gallu argymell cynghorwyr annibynnol i aelodau’r cyhoedd sy’n ystyried buddsoddi mewn cynllun bancio tir. Yn ogystal, mae’n esbonio rôl cyrff rheoleiddio mewn perthynas â bancio tir a sut i gofnodi achosion o weithgaredd o’r fath.

Dywedodd Jane Allen o Wasanaethau Cyfreithiol Corfforaethol y Gofrestrfa Tir:

“Gwyddom fod llawer o fuddsoddwyr sy’n byw dramor ac yn y wlad hon yn trosglwyddo miloedd o bunnoedd am dir sydd â fawr o siawns o gael ei ddatblygu. Mae rhai cwmnïau yn cynnig lleiniau tir yn y DU o’r Dwyrain Canol lle nad yw awdurdodau lleol yn rheoleiddio gweithgareddau o’r fath, neu nad ydynt yn ymwybodol o natur beryglus y buddsoddiad.

“Dylai unrhyw un sy’n ystyried prynu tir oherwydd ei botensial buddsoddi ddarllen ein cyfarwyddyd. Trwy gyhoeddi’r fersiwn ddiwygiedig hon ein nod yw gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o risgiau buddsoddi mewn cynllun bancio tir. Fodd bynnag, ni ddylai unigolion dybio ein bod yn credu bod unrhyw gynllun penodol yn fuddsoddiad gwael neu nad yw tir mewn cynllun penodol yn addas ar gyfer datblygu.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Gall Cymdeithas y Cyfreithwyr roi manylion cyfreithwyr annibynnol sy’n arbenigo mewn cyfraith eiddo. Mae manylion priswyr cofrestredig ar gael gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Gellir archwilio rhai cynlluniau gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol – corff rheoleiddio ariannol y DU.
  2. Nid yw’r Gofrestrfa Tir yn rhoi cyngor am botensial buddsoddi na datblygu unrhyw gynllun penodol ac ni all gadarnhau a yw tir neu drafodiad penodol yn rhan o gynllun bancio tir neu a yw cynllun yn addas i’w ddatblygu yn y dyfodol neu beidio. Nid yw’n cymryd rhan yn y broses o roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu.
  3. Mae’r Gofrestrfa Tir wedi ymrwymo i gofrestru lleiniau o fewn cynlluniau bancio tir os bodlonwyd yr holl faterion cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer y trosglwyddiad hwnnw. Ni all wrthod prosesu ceisiadau lle y mae’n tybio bod y gwerthwr yn gweithredu cynllun buddsoddi cyfunol anghyfreithlon neu ei fod wedi camarwain mewn perthynas â gwerth y tir i’w drosglwyddo.
  4. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  5. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  6. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix