top logo

29 Awst 2012
PR14/12

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Gorffennaf gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau tai mis Gorffennaf yn codi 0.8 y cant oddi ar fis Mehefin: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,900
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Gorffennaf gyda 263,214 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 62,000 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Gorffennaf

Mae data mis Gorffennaf o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.3 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,900. Mae'r newid misol o fis Mehefin i fis Gorffennaf yn gynnydd o 0.8 y cant.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 6.5 y cant.
  • Llundain welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda chynnydd o 2.7 y cant.
  • Gwelodd Gogledd Orllewin Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 3.9 y cant.
  • Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda gostyngiad o 2.1 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mai 2012 gynyddu 2 y cant i 50,083 o gymharu â 48,974 ym mis Mai 2011.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Mai 2012 wedi cynyddu 107 y cant i 562 o 271 ym mis Mai 2011.

 Mynediad i'r set lawn o ddata

Mynegai Prisiau Tai 

RhanbarthNewid misol (oddi ar fis Mehefin 2012)Newid blynyddol (oddi ar fis Gorffennaf 2011)Pris cyfartalog (Gorffennaf 2012)

Llundain

2.7%

6.5%

£367,785

Cymru

2.3%

-1.3%

£118,896

Dwyrain Canolbarth Lloegr

1.2%

0.4%

£124,080

Cymru a Lloegr

0.8%

0.3%

£162,900

Dwyrain Lloegr

0.4%

0.8%

£175,051

De Ddwyrain Lloegr

0.4%

0.7%

£209,532

Gorllewin Canolbarth Lloegr

0.3%

-0.8%

£130,124

Swydd Gaerefrog a'r Humber

-0.1%

-2.5%

£117,865

De Orllewin Lloegr

-0.6%

-1.9%

£171,326

Gogledd Orllewin Lloegr

-1.7%

-3.9%

£109,235

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-2.1%

-3.8%

£98,557


Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo

(Cymru a Lloegr)

Gorffennaf 2012

Gorffennaf 2011

Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£256,496

£256,405

-

Tŷ pâr

£153,339

£153,156

0.1%

Tŷ teras

£123,097

£123,548

-0.4%

Fflat/fflat deulawr

£155,314

£151,981

2.2%

Holl

£162,900

£162,345

0.3%

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,613

35,886

5%

Chwefror

39,680

42,579

-7%

Mawrth

46,745

51,472

-9%

Ebrill

50,725

52,344

-3%

Mai

48,974

52,237

-6%

Mehefin

57,691

62,785

-8%

Gorffennaf

62,280

67,546

-8%

Awst

64,374

61,526

5%

Medi

63,500

57,522

10%

Hydref

57,895

58,680

-1%

Tachwedd

60,267

56,362

7%

Rhagfyr

63,403

56,917

11%

Cyfanswm

653,147

655,856

0%

Mis

Gwerthiannau 2012 (England and Wales)

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

43,537

37,613

16%

Chwefror

44,554

39,680

12%

Mawrth

60,476

46,745

29%

Ebrill

42,260

50,725

-17%

Mai

50,083

48,974

2%

Data Trafodiad 

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn bron 1,132,000 o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys 1,080,732 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 268,169 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 474,471 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 161,692 yn chwiliadau a 62,888 yn drafodion am werth.

 Mynediad i'r set lawn o ddata


Tri phrif gwsmer

Trafodion am werth

Countrywide Property Lawyers

1,486

My Home Move Limited

1,309

O'Neill Patient

717

Tri phrif gwsmer

Chwiliadau

Enact

5,533

Optima Legal Services

5,145

T M Group UK Ltd (Search Choice)

3,933

Tair prif ardal awdurdod lleol

Ceisiadau

Birmingham

17,413

Dinas Westminster

16,693

Leeds

13,400

RhanbarthCeisiadau

De Ddwyain Lloegr

263,214

Llundain Fwyaf

204,658

Gogledd Orllewin Lloegr

123,617

De Orllewin Lloegr

114,560

Gorllewin Canolbarth Lloegr

95,288

Swydd Gaerefrog a'r Humber

92,461

Dwyrain Canolbarth Lloegr

80,928

Cymru

56,442

Gogledd Lloegr

54,114

Dwyrain Anglia

46,539

Cymru a Lloegr (heb eu haseinio)

48

Ynysoedd Sili

38

Cyfanswm

1,131,907

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 62,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Gorffennaf 2012.

 Mynediad i'r set lawn o ddata

DIWEDD
Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Awst am 11 y bore ar ddydd Gwener 28 Medi 2012.
  2. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  9. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  10. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  11. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
  12. Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  13. I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
  14. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov Dewch o hyd i ni ar LinkedIn

Cysylltu

Ronal Patel 0300 0067490

Ronal.patel@landregis
© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix