LRP01/11 31/01/2011
Prisiau Tai mis Rhagfyr wedi gostwng 0.2 y cant oddi ar fis Tachwedd: pris tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £163,814
Mae data mis Rhagfyr o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd pris blynyddol o 1.5 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £163,814. Mae'r newid misol o fis Tachwedd i fis Rhagfyr yn ostyngiad o 0.2 y cant.
Gwelodd pum rhanbarth yng Nghymru a Lloegr gynnydd yng ngwerthoedd eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf. Y rhanbarth â'r newid prisiau blynyddol mwyaf yw Llundain gyda chynnydd o 6.2 y cant. Llundain welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd, gyda chynnydd o 1 y cant. Y rhanbarth gyda'r gostyngiad pris blynyddol mwyaf yw Gogledd Ddwyrain Lloegr gyda symudiad o -3.3 y cant. De Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol hefyd, gyda symudiad o -1.2 y cant.
Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2010 ostwng 15 y cant i 55,964 o 65,736 ym mis Hydref 2009. Cododd nifer yr eiddo a werthwyd am dros £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr 1 y cant rhwng mis Hydref 2009 a mis Hydref 2010, o 572 i 579.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/house-prices
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
Rhanbarth |
Newid misol (oddi ar fis Tachwedd 2010) |
Newid blynyddol |
Pris cyfartalog (Rhagfyr 2010) |
Llundain |
1.0% |
6.2% |
£342,325 |
Cymru |
0.5% |
-1.2% |
£120,870 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr |
0.4% |
-0.2% |
£127,314 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr |
0.1% |
0.2% |
£134,347 |
De Ddwyrain Lloegr |
0.0% |
2.7% |
£208,799 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr |
0.0% |
-3.3% |
£108,056 |
Cymru a Lloegr |
-0.2% |
1.5% |
£163,814 |
Dwyrain Lloegr |
-0.4% |
2.5% |
£175,099 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber |
-0.7% |
-1.2% |
£124,168 |
Gogledd Orllewin Lloegr |
-0.9% |
-1.1% |
£117,217 |
De Orllewin Lloegr |
-1.2% |
1.1% |
£173,803 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) |
Rhagfyr 2010 |
Rhagfyr 2009 |
Gwahaniaeth (%) |
Tŷ sengl |
£258,973 |
£251,720 |
2.9% |
Tŷ pâr |
£154,738 |
£152,731 |
1.3% |
Tŷ teras |
£124,205 |
£124,165 |
0.0% |
Fflat/fflat deulawr |
£152,972 |
£150,107 |
1.9% |
Holl |
£163,814 |
£161,373 |
1.5% |
Mis |
Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
Ionawr |
35,759 |
26,264 |
36% |
Chwefror |
42,446 |
27,254 |
56% |
Mawrth |
51,273 |
35,505 |
44% |
Ebrill |
52,126 |
39,322 |
33% |
Mai |
51,960 |
45,852 |
13% |
Mehefin |
62,323 |
54,757 |
14% |
Gorffennaf |
66,877 |
63,637 |
5% |
Awst |
60,566 |
58,299 |
4% |
Medi |
55,907 |
58,451 |
-4% |
Hydref |
55,964 |
65,736 |
-15% |
Mis |
Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2008 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
Ionawr |
26,264 |
57,203 |
-54% |
Chwefror |
27,254 |
61,028 |
-55% |
Mawrth |
35,505 |
57,167 |
-38% |
Ebrill |
39,322 |
61,598 |
-36% |
Mai |
45,852 |
64,464 |
-29% |
Mehefin |
54,757 |
58,096 |
-6% |
Gorffennaf |
63,637 |
52,096 |
22% |
Awst |
58,299 |
47,787 |
22% |
Medi |
58,451 |
40,853 |
43% |
Hydref |
65,736 |
43,969 |
50% |
Tachwedd |
61,038 |
35,827 |
70% |
Rhagfyr |
78,381 |
39,248 |
100% |
Cyfanswm |
614,496 |
619,336 |
-1% |
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai".
2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai mis Ionawr am 11 y bore ar ddydd Llun 28 Chwefror 2011.
3. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
4. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy na 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
6. Fel adran o'r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy'n atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor, mae'r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 020 7166 4543
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
Jill Inglis 020 7166 4487
jill.inglis@landregistry.gsi.gov.uk
Swyddfa'r wasg 020 7166 4215