17 Rhagfyr 2012
PR 21/12
Staff y Gofrestrfa Tir yn codi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau yn ystod 2012
Gyda'r Nadolig yn agosáu, mae llawer o staff y Gofrestrfa Tir yn brysur yn codi arian ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol er mwyn ychwanegu ychydig at firi'r ŵyl.
Ymhlith y gweithgareddau yn 14 swyddfa'r Gofrestrfa Tir mae casglu teganau ar gyfer Elusen y Plant, codi arian ar gyfer ward mewn ysbyty lleol a rhoi arian i elusen ddigartrefedd, Crisis, yn hytrach na phrynu cardiau Nadolig ar gyfer cydweithwyr.
Hyd yn hyn eleni, mae staff wedi codi cyfanswm o dros £39,000 ar gyfer dros 150 o elusennau. Maent yn cynnwys Sefydliad Ymchwil Diabetes Ieuenctid, Cymorth Canser Macmillan, Ambiwlans Awyr Canolbarth Lloegr, Plant mewn Angen a Hosbis Sant Christopher, ymhlith eraill.
Dywedodd Maggy Goodier, aelod o'r pwyllgor elusennau: “Rwy'n cael fy synnu bob amser pa mor barod yw cydweithwyr i gefnogi achosion da trwy roi o'u hamser, ymdrech ac arian.”
Mae'r gweithgareddau a wnaed gan staff i godi arian yn cynnwys cerdded ar dân, abseilio, tyfu mwstas, marchogaeth ceffyl llamsachus a chael sbyngau gwlyb wedi taflu atynt.
Eleni rhoddwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i un cyflogai, Sue Malley, am ei gwaith elusennol am lawer o flynyddoedd. Dywedodd Sue, sy'n treulio oriau pob penwythnos yn sicrhau bod bwyd a diod boeth ar gael i bobl ddigartref yn Peterborough: “Mae gwirfoddoli yn werthfawr gan fy mod yn gweld pobl yn gwella eu bywydau ac yn symud ymlaen.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr.
- Mae gan y Gofrestrfa Tir 14 o swyddfeydd yng Nghymru a Lloegr; Penbedw, Coventry, Croydon, Durham, Fylde, Caerloyw, Kingston upon Hull, Caerlŷr, Nottingham, Peterborough, Plymouth, Telford, Cymru a Weymouth.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
- Jessica Prasad 0300 0067037, Jessica.prasad@landregistry.gsi.gov.uk
- Duncan Keary 0300 0067522, Duncan.keary@landregistry.gsi.gov.uk