26 Hydref 2012
PR 17/12
Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Medi gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau Tai mis Medi wedi gostwng 0.3 y cant oddi ar fis Awst: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,561
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Medi gyda 233,684 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 60,400 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Medi yn amrywio o £10,000 i £25 miliwn
Mae data mis Medi o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 1.1 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,561. Mae'r newid misol o fis Awst i fis Medi yn ostyngiad o 0.3 y cant.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 5.5 y cant.
- Cymru welodd y cynnydd misol mwyaf gyda chynnydd o 0.5 y cant.
- Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 3.2 y cant.
- Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiadau prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda gostyngiad o 2.2 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Gorffennaf 2012 ostwng 9 y cant i 56,509 o gymharu â 62,303 ym mis Gorffennaf 2011.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Gorffennaf 2012 wedi cynyddu 13 y cant i 817 o 725 ym mis Gorffennaf 2011.
Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Gorffennaf 2012) | Newid blynyddol (oddi ar fis Awst 2011) | Pris cyfartalog (Awst 2012) |
---|---|---|---|
Cymru | 0.5% | -1.2% | £117,264 |
De Orllewin Lloegr | 0.1% | 0.9% | £172,825 |
Dwyrain Lloegr | 0.1% | 1.9% | £174,969 |
Llundain | -0.2% | 5.5% | £363,802 |
Cymru a Lloegr | -0.3% | 1.1% | £162,561 |
De Ddwyrain Lloegr | -0.4% | 2.3% | £210,301 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -0.8% | -2.2% | £110,235 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | -0.9% | -1.6% | £128,391 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | -1.3% | -0.1% | £122,794 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -1.8% | -3.2% | £99,163 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | -2.2% | -3.0% | £115,853 |
Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo(Cymru a Lloegr) | Medi 2012 | Medi 2011 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £254,843 | £255,437 | -0.2% |
Tŷ pâr | £152,685 | £152,501 | 0.1% |
Tŷ teras | £123,301 | £121,809 | 1.2% |
Fflat/Fflat deulawr | £155,461 | £150,029 | 3.6% |
Holl | £162,561 | £160,859 | 1.1% |
Mis | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 37,619 | 35,887 | 5% |
Chwefror | 39,686 | 42,582 | -7% |
Mawrth | 46,758 | 51,479 | -9% |
Ebrill | 50,748 | 52,350 | -3% |
Mai | 48,983 | 52,243 | -6% |
Mehefin | 57,707 | 62,791 | -8% |
Gorffennaf | 62,303 | 67,556 | -8% |
Awst | 64,400 | 61,542 | 5% |
Medi | 63,533 | 57,527 | 10% |
Hydref | 57,942 | 58,697 | -1% |
Tachwedd | 60,308 | 56,370 | 7% |
Rhagfyr | 63,500 | 56,928 | 12% |
Cyfanswm | 653,487 | 655,952 | 0% |
Mis) | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,634 | 37,619 | 16% |
Chwefror | 44,681 | 39,686 | 13% |
Mawrth | 61,001 | 46,758 | 30% |
Ebrill | 42,902 | 50,748 | -15% |
Mai | 51,820 | 48,983 | 6% |
Mehefin | 58,004 | 57,707 | 1% |
Gorffennaf | 56,509 | 62,303 | -9% |
Data Trafodiad
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 1,000,000 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Medi. Mae hyn yn cynnwys 961,635 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 266,250 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau), 431,975 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 142,737 yn chwiliadau a 65,009 yn drafodion am werth.
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited | 1,333 |
Countrywide Property Lawyers | 1,136 |
O'Neill Patient | 1,017 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Optima Legal Services | 4,626 |
Enact | 4,417 |
TM Group (UK) Ltd (Search Choice | 3,282 |
Tair prif ardal awdurdod lleol | Ceisiadau |
---|---|
Birmingham | 15,454 |
Dinas Westminster | 14,596 |
Cernyw | 13,057 |
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 233,684 |
Llundain Fwyaf | 178,235 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 109,570 |
De Orllewin Lloegr | 100,806 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 85,983 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 81,363 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 72,618 |
Cymru | 50,197 |
Gogledd Lloegr | 48,950 |
Dwyrain Anglia | 41,976 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 9 |
Ynysoedd Sili | 25 |
Cyfanswm | 1,003,446 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 60,400 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Medi 2012. Mae'r eiddo drutaf (£25 miliwn) a'r rhataf (£10,000) a werthwyd ym mis Awst 2012 wedi'u lleoli yng nghanol Llundain a Burnley, Swydd Gaerhirfryn.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Hydref am 11 y bore ar ddydd Mercher 28 Tachwedd 2012.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
Cysylltu
- Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297 marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
- Dewch o hyd i ni ar LinkedIn