PR06/11 06/06/2011
Prisiau tai mis Ebrill wedi codi 0.8 y cant oddi ar fis Mawrth: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £163,083
Mae data mis Ebrill o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad blynyddol o 1.3 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £163,083. Mae'r newid misol o fis Mawrth i fis Ebrill yn gynnydd o 0.8 y cant.
Gwelodd dau ranbarth yng Nghymru a Lloegr gynnydd yng ngwerthoedd eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf. Llundain oedd y rhanbarth welodd y cynnydd blynyddol mwyaf mewn prisiau gyda chynnydd o 5 y cant. Llundain welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 3 y cant. Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad blynyddol mwyaf mewn prisiau gyda gostyngiad o -8.1 y cant. Dyma'r rhanbarth welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol hefyd gyda symudiad o -1.7 y cant.
Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Chwefror 2011 ostwng 10 y cant i 38,336 o 42,515 ym mis Chwefror 2010. Cododd nifer yr eiddo a werthwyd am dros £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr 14 y cant rhwng mis Chwefror 2010 a mis Chwefror 2011, o 399 i 454.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov
Rhanbarth |
Newid misol (oddi ar fis Mawrth 2011) |
Newid blynyddol (oddi ar fis Ebrill 2010) |
Pris cyfartalog (Ebrill 2011) |
Llundain | 3.0% | 5.0% | £352,187 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 1.7% | -2.8% | £125,646 |
Cymru | 1.2% | -2.8% | £120,452 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 1.1% | -2.7% | £131,859 |
Cymru a Lloegr | 0.8% | -1.3% | £163,083 |
De Orllewin Lloegr | 0.8% | -2.8% | £173,424 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.7% | 0.5% | £208,314 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 0.2% | -4.2% | £121,002 |
Dwyrain Lloegr | -0.4% | -2.0% | £172,659 |
Gogledd Orllewin Lloegr | -0.5% | -4.6% | £114,075 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | -1.7% | -8.1% | £103,295 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) |
Ebrill 2011 | Ebrill 2010 | Gwahaniaeth (%) |
Tŷ sengl |
£256,923 |
£259,436 |
-1.0% |
Tŷ pâr |
£153,670 |
£156,203 |
-1.6% |
Tŷ teras |
£124,601 |
£126,016 |
-1.1% |
Fflat/fflat deulawr |
£152,530 |
£155,134 |
-1.7% |
Holl |
£163,083 |
£165,243 |
-1.3% |
Mis |
Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
Ionawr |
35,822 |
26,273 |
36% |
Chwefror |
42,515 |
27,272 |
56% |
Mawrth |
51,392 |
35,531 |
45% |
Ebrill |
52,256 |
39,347 |
33% |
Mai |
52,136 |
45,866 |
14% |
Mehefin |
62,644 |
54,777 |
14% |
Gorffennaf |
67,367 |
63,666 |
6% |
Awst |
61,330 |
58,338 |
5% |
Medi |
57,270 |
58,502 |
-2% |
Hydref |
58,340 |
65,796 |
-11% |
Tachwedd |
55,893 |
61,108 |
-9% |
Rhagfyr |
56,175 |
78,470 |
-28% |
Cyfanswm |
653,140 |
614,946 |
6% |
Mis |
Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) |
Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) |
Gwahaniaeth |
Ionawr | 36,868 | 35,822 | 3% |
Chwefror | 38,336 | 42,515 | -10% |
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai".
2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai mis Mai am 11 y bore ar ddydd Mawrth 28 Mehefin 2011.
3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion 16 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
6. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
Cysylltu
Marion Shelley 0300 0067543
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk
Jill Inglis 0300 0067487