top logo

PR 10/12
2 Gorffennaf 2012

 

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mai gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau tai mis Mai yn codi 0.5 y cant oddi ar fis Ebrill: pris cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,677
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mai gyda 267,587 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 54,000 o brisiau gwerthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mai gyda phrisiau yn amrywio o £10,000 i £18.5 miliwn

Mae data mis Mai o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.4 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,677. Mae'r newid misol o fis Ebrill i fis Mai yn gynnydd o 0.5 y cant. 

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 7.7 y cant.
  • Yn Llundain y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda chynnydd o 2.6 y cant.
  • Gwelodd Swydd Gaerefrog a'r Humber y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 3.9 y cant.
  • Dwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 1.9 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth 2012 gynyddu 25 y cant i 58,609 o gymharu â 46,742 ym mis Mawrth 2011.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Mawrth 2012 wedi gostwng 41 y cant i 501 o 845 ym mis Mawrth 2011.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

Cymru a Lloegr
Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Ebrill 2012) Newid blynyddol (oddi ar fis Mai 2011) Pris cyfartalog (Mai 2012)
Llundain 2.6% 7.7% £365,359
Gorllewin Canolbarth Lloegr 2.0% -1.2% £129,827
Swydd Gaerefrog a’r Humber 0.8% -3.9% £117,371
De Ddwyrain Lloegr 0.5% 1.7% £208,720
Cymru a Lloegr 0.5% 0.4% £161,677
Dwyrain Canolbarth Lloegr 0.2% -1.6% £122,858
Dwyrain Lloegr 0.2% 1.6% £174,226
De Orllewin Lloegr -0.2% -0.2% £172,437
Gogledd Orllewin Lloegr -1.5% -2.8% £110,047
Cymru -1.8% -2.0% £115,299
Gogledd Ddwyrain Lloegr -1.9% -3.5% £99,492

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Mai 2012 Mai 2011 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £254,407 £254,511 -
Tŷ pâr £152,965 £152,552 0.3%
Tŷ teras £122,165 £122,445 -0.2%
Fflat/Fflat deulawr £153,018 £149,591 2.3%
Holl £161,677 £160,961 0.4%
 
Mis Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) Gwahaniaeth
Ionawr 37,601 35,880 5%
Chwefror 39,675 42,575 -7%
Mawrth 46,742 51,464 -9%
Ebrill 50,707 52,332 -3%
Mai 48,959 52,234 -6%
Mehefin 57,665 62,779 -8%
Gorffennaf 62,257 67,531 -8%
Awst 64,333 61,518 5%
Medi 63,456 57,514 10%
Hydref 57,845 58,672 -1%
Tachwedd 60,157 56,351 7%
Rhagfyr 63,213 56,903 11%
Cyfanswm 652,610 655,753M 0%
Mis Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) Gwahaniaeth
Ionawr 43,315 37,601 15%
Chwefror 44,125 39,675 11%
Mawrth 58,609 46,742 25%

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 1 filiwn o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Mai. Mae hyn yn cynnwys 1,095,004 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 261,845 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 492,374 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 161,062 yn chwiliadau a 49,809 yn drafodion am werth.

Mynediad i'r set lawn o ddata

Data trafodiad  

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth
Countrywide Property Lawyers 1,262
My Home Move Ltd 1,016
O'Neill Patient 681
Tri phrif gwsmer Chwiliadau
Enact 5,959
Optima Legal Services 5,720
TM Group (UK) LTD (Search Choice) 5,419
Tair prif ardal awdurdod lleol Ceisiadau
Dinas Westminster 19,577
Birmingham 18,320
Cernyw 13,913

 
Rhanbarth Ceisiadau
De Ddwyrain Lloegr 267,587
Llundain Fwyaf 212,370
Gogledd Orllewin Lloegr 126,984
De Orllewin Lloegr 118,486
Gorllewin Canolbarth Lloegr 102,591
Swydd Gaerefrog a'r Humber 96,062
Dwyrain Canolbarth Lloegr 85,004
Cymru 58,637
Gogledd Lloegr 56,807
Dwyrain Anglia 47,885
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) 61
Ynysoedd Sili 27
Cymru a Lloegr 1,172,501

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 54,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mai 2012. Gwerthwyd yr eiddo drutaf am £18.5 miliwn ym mis Mai 2012 ac mae wedi'i leoli yng nghanol Llundain; gwerthwyd yr eiddo rhataf yn Shaw, Oldham, Swydd Gaerhirfryn am £10,000 ym mis Ebrill 2012.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

*Nodwyd y ffigur o £28 miliwn a adroddwyd yn flaenorol fel gwall. Diweddarwyd ein systemau a dangosir y newidiadau i'r set ddata yn ffeil y mis nesaf. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Mehefin am 11 y bore ar ddydd Gwener 27 Gorffennaf 2012.
  2. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus.
  4. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion am 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. 6. Fel y rhan gyntaf o'i hymrwymiad i flaenoriaethau'r Llywodraeth o ran twf economaidd a thryloywder data, mae gwybodaeth pris a dalwyd y Gofrestrfa Tir bellach ar gael yn fisol yn ogystal â'r Mynegai Prisiau Tai a'r data trafodiad.
  7. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
  8. Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data  ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  9. I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
  10. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  11. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  12. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  13. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  14. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  15. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  16. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Dilynwch ni ar Twitter@LandRegGov a LinkedIn

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix