Amrywiaeth
Mae’r Gofrestrfa Tir yn gwbl ymroddedig i drin pobl fel unigolion, gan roi cyfle cyfartal i bob aelod o staff a thrin ein cwsmeriaid yn gyfartal. Byddwn yn cynnal ein polisïau'n deg, yn rhesymol, yn ddiduedd a heb ragfarn i'n staff a'n cwsmeriaid. Mae gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein galluogi i wneud y gorau o alluoedd ein holl staff ac yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posib i’r amrediad llawn o gwsmeriaid sydd gennym.
Bydd ein strategaeth amrywiaeth a'n cynllun cyflwyno amrywiaeth yn sicrhau y byddwn yn cyflawni ein gofynion cyfreithiol o dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Yn ogystal, rydym yn ymgymryd â dadansoddiad cydraddoldeb er mwyn sicrhau ein bod yn dangos y sylw dyledus i nodau'r ddyletswydd cydraddoldeb. Caiff pob asesiad effaith ar gydraddoldeb (EIA) a gwblheir ei gyhoeddi ar y wefan hon.
Mae'n bwysig ein bod yn monitro pa mor llwyddiannus yw'r broses o gyflwyno'r cynllun wrth ddiwallu ein nodau ac felly rydym yn casglu a dadansoddi gwybodaeth i'n helpu i wneud hyn. Cyhoeddir y canlyniadau yn ein Hadroddiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2012 sy'n rhoi gwybodaeth am sut rydym wedi monitro a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ystod y 12 mis diwethaf a'n cynlluniau gwella ar gyfer 2012. Yn ogystal, rydym yn adolygu ein cynllun cyflwyno'n flynyddol (canlyniadau diwedd blwyddyn ar gyfer 2010/11), ac mae ein Grŵp Llywio Amrywiaeth yn monitro ein cynnydd yn annibynnol drwy'r flwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein datganiad polisi am amrywiaeth neu cysylltwch â Julie Dennis, Pennaeth Amrywiaeth AD ar HRDiversity@landregistry.gsi.gov.uk, neu ar rif ffôn 0115 906 2923 neu minicom 080001535. Gallwch ysgrifennu atom hefyd yn Swyddfa Nottingham.
Mynegai Prisiau Tai
Chwefror 2012: 261.2(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £162,606 Newid:Blynyddol 1.0%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...