top logo

Llefaryddion

Byddwn yn ehangu'r adran hon o'r wefan yn ystod y misoedd i ddod.

Malcolm Dawson OBEMalcolm Dawson OBE

Penodwyd Malcolm Dawson i swydd Prif Gofrestrydd Tir a Phrif Weithredwr y Gofrestrfa Tir ym mis Mawrth 2011, ar ôl cyfnod llwyddiannus fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Gofrestrfa Tir. Fel deiliad swydd statudol a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, mae'n llwyr gyfrifol am reolaeth effeithiol ac effeithlon o ddydd i ddydd y Gofrestrfa Tir. Ers ei benodiad, mae'r Gofrestrfa Tir wedi dod yn aelod o'r Grŵp Data Cyhoeddus o fewn yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ac mae Malcolm yn arwain gwaith i archwilio'r cyfleoedd mae hyn yn ei roi i gyfrannu at amcanion twf economaidd a thryloywder y Llywodraeth.

Yn ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, roedd Malcolm yn gyfrifol am unrhyw faterion yn ymwneud â phobl, ystadau a rheoli cyfleusterau. Yn ogystal, roedd yn gyfrifol am Raglen Trawsnewid Cyflymedig y Gofrestrfa Tir a alluogodd y Gofrestrfa Tir i ymateb yn gyflym i ddirywiad economaidd 2008 trwy raglen ailstrwythuro, rhesymoli a newid diwylliant radical a dod yn sefydliad sy'n canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid.

Ymunodd â'r Gofrestrfa Tir ym mis Ionawr 2008 o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder lle bu ganddo nifer o rolau dros gyfnod o bum mlynedd, gan gynnwys Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Tâl a Graddio. Cymerodd rôl arweiniol wrth reoli cyfres o uniadau a newidiadau strwythurol a ddeilliodd o greu'r asiantaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd newydd a chyflwynodd newidiadau eang i dâl, graddio a thelerau ac amodau craidd.

Cyn hynny, gweithiodd Malcolm am chwe blynedd yn Swyddfa'r Cabinet mewn nifer o rolau, gan gynnwys fel cyfarwyddwr rhaglenni datblygu arweiniad ar gyfer uwch-weision cyhoeddus ac yn Uned Strategol y Prif Weinidog am foderneiddio'r gwasanaeth cyhoeddus. Amrywiodd ei rolau blaenorol o Reoleiddiwr y Loteri Genedlaethol, Cyllid a Thollau EM a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mike Westcott Ruddmikewestcottrudd

Fel Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Corfforaethol, prif rolau Mike Westcott Rudd yw rhoi cyngor cyfreithiol i'r Gofrestrfa Tir am faterion nad ydynt yn ymwneud â chofrestru, sy'n amrywio o fentrau cyfraith gyhoeddus i drafod cytundebau mentrau ar y cyd mawr.

Yn ogystal, mae'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth gorfforaethol â pholisïau rheoli gwybodaeth a deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth, Diogelu Data a Hawliau Dynol ac am ddelio ag argymhellion a sylwadau a wneir gan Adolygydd Cwynion Annibynnol y Gofrestrfa Tir.

Ar ôl astudio'r gyfraith yng Nghaergrawnt, treuliodd Mike ei yrfa gynnar mewn practis preifat cyn ymuno â'r Gofrestrfa Tir yn 1987 ac oddi ar hynny mae wedi ymgymryd â nifer o rolau o fewn y sefydliad. Rhoddwyd gwobr flaenllaw Michael Barratt Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig i Mike yn 2003 am gyfraniadau at Geomateg.

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix