top logo

26 Hydref 2012
PR 17/12

Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Medi gan y Gofrestrfa Tir

  • Prisiau Tai mis Medi wedi gostwng 0.3 y cant oddi ar fis Awst: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £162,561
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Medi gyda 233,684 o geisiadau
  • Cyflwynwyd dros 60,400 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Medi yn amrywio o £10,000 i £25 miliwn

Mae data mis Medi o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 1.1 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £162,561. Mae'r newid misol o fis Awst i fis Medi yn ostyngiad o 0.3 y cant.

  • Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 5.5 y cant.
  • Cymru welodd y cynnydd misol mwyaf gyda chynnydd o 0.5 y cant.
  • Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 3.2 y cant.
  • Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiadau prisiau misol mwyaf arwyddocaol gyda gostyngiad o 2.2 y cant.
  • Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Gorffennaf 2012 ostwng 9 y cant i 56,509 o gymharu â 62,303 ym mis Gorffennaf 2011.
  • Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Gorffennaf 2012 wedi cynyddu 13 y cant i 817 o 725 ym mis Gorffennaf 2011.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

Mynegai Prisiau Tai

Rhanbarth Newid misol (oddi ar fis Gorffennaf 2012) Newid blynyddol (oddi ar fis Awst 2011) Pris cyfartalog (Awst 2012)

Cymru

0.5%

-1.2%

£117,264

De Orllewin Lloegr

0.1%

0.9%

£172,825

Dwyrain Lloegr

0.1%

1.9%

£174,969

Llundain

-0.2%

5.5%

£363,802

Cymru a Lloegr

-0.3%

1.1%

£162,561

De Ddwyrain Lloegr

-0.4%

2.3%

£210,301

Gogledd Orllewin Lloegr

-0.8%

-2.2%

£110,235

Gorllewin Canolbarth Lloegr

-0.9%

-1.6%

£128,391

Dwyrain Canolbarth Lloegr

-1.3%

-0.1%

£122,794

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-1.8%

-3.2%

£99,163

Swydd Gaerefrog a’r Humber

-2.2%

-3.0%

£115,853

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo(Cymru a Lloegr)
Medi 2012 Medi 2011 Gwahaniaeth

Tŷ sengl

£254,843

£255,437

-0.2%

Tŷ pâr

£152,685

£152,501

0.1%

Tŷ teras

£123,301

£121,809

1.2%

Fflat/Fflat deulawr

£155,461

£150,029

3.6%

Holl

£162,561

£160,859

1.1%

 

Mis Gwerthiannau 2011
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2010
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth
Ionawr

37,619

35,887

5%

Chwefror

39,686

42,582

-7%

Mawrth

46,758

51,479

-9%

Ebrill

50,748

52,350

-3%

Mai

48,983

52,243

-6%

Mehefin

57,707

62,791

-8%

Gorffennaf

62,303

67,556

-8%

Awst

64,400

61,542

5%

Medi

63,533

57,527

10%

Hydref

57,942

58,697

-1%

Tachwedd

60,308

56,370

7%

Rhagfyr

63,500

56,928

12%

Cyfanswm

653,487

655,952

0%

Mis) Gwerthiannau 2012
(Cymru a Lloegr)
Gwerthiannau 2011
(Cymru a Lloegr)
Gwahaniaeth

Ionawr

43,634

37,619

16%

Chwefror

44,681

39,686

13%

Mawrth

61,001

46,758

30%

Ebrill

42,902

50,748

-15%

Mai

51,820

48,983

6%

Mehefin

58,004

57,707

1%

Gorffennaf

56,509

62,303

-9%

Data Trafodiad

Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 1,000,000 o geisiadau gan ei chwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Medi. Mae hyn yn cynnwys 961,635 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 266,250 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau), 431,975 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 142,737 yn chwiliadau a 65,009 yn drafodion am werth.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata 

Tri phrif gwsmer Trafodion am werth
My Home Move Limited 1,333
Countrywide Property Lawyers 1,136
O'Neill Patient 1,017
Tri phrif gwsmer Chwiliadau
Optima Legal Services 4,626
Enact 4,417
TM Group (UK) Ltd (Search Choice 3,282
Tair prif ardal awdurdod lleol Ceisiadau
Birmingham

15,454

Dinas Westminster

14,596

Cernyw

13,057
Rhanbarth Ceisiadau
De Ddwyrain Lloegr 233,684
Llundain Fwyaf 178,235
Gogledd Orllewin Lloegr 109,570

De Orllewin Lloegr

100,806
Gorllewin Canolbarth Lloegr 85,983
Swydd Gaerefrog a'r Humber 81,363
Dwyrain Canolbarth Lloegr 72,618
Cymru 50,197
Gogledd Lloegr 48,950
Dwyrain Anglia 41,976
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) 9
Ynysoedd Sili 25
Cyfanswm 1,003,446

Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 60,400 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Medi 2012. Mae'r eiddo drutaf (£25 miliwn) a'r rhataf (£10,000) a werthwyd ym mis Awst 2012 wedi'u lleoli yng nghanol Llundain a Burnley, Swydd Gaerhirfryn.

chevron_bullet Mynediad i'r set lawn o ddata

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Hydref am 11 y bore ar ddydd Mercher 28 Tachwedd 2012.
  2. Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
  3. Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
  4. Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
  5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
  6. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
  7. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
  8. Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  9. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  10. Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
  11. Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
    • y cyfeiriad llawn
    • y pris a dalwyd
    • dyddiad y trosglwyddiad
    • y math o eiddo
    • ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
    • ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
  12. Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
  13. I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.

Cysylltu

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix