top logo

PR06/11 06/06/2011

Prisiau tai mis Ebrill wedi codi 0.8 y cant oddi ar fis Mawrth: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £163,083

Mae data mis Ebrill o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad blynyddol o 1.3 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £163,083. Mae'r newid misol o fis Mawrth i fis Ebrill yn gynnydd o 0.8 y cant.

Gwelodd dau ranbarth yng Nghymru a Lloegr gynnydd yng ngwerthoedd eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf. Llundain oedd y rhanbarth welodd y cynnydd blynyddol mwyaf mewn prisiau gyda chynnydd o 5 y cant. Llundain welodd y cynnydd misol mwyaf hefyd gyda symudiad o 3 y cant. Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y gostyngiad blynyddol mwyaf mewn prisiau gyda gostyngiad o -8.1 y cant. Dyma'r rhanbarth welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol hefyd gyda symudiad o -1.7 y cant.

 Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Chwefror 2011 ostwng 10 y cant i 38,336 o 42,515 ym mis Chwefror 2010. Cododd nifer yr eiddo a werthwyd am dros £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr 14 y cant rhwng mis Chwefror 2010 a mis Chwefror 2011, o 399 i 454.

 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices

 Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Rhanbarth

Newid misol

(oddi ar fis Mawrth 2011)

Newid blynyddol

(oddi ar fis Ebrill 2010)

Pris cyfartalog

(Ebrill 2011)

Llundain 3.0% 5.0% £352,187
Dwyrain Canolbarth Lloegr 1.7% -2.8% £125,646
Cymru 1.2% -2.8% £120,452
Gorllewin Canolbarth Lloegr 1.1% -2.7% £131,859
Cymru a Lloegr 0.8% -1.3% £163,083
De Orllewin Lloegr 0.8% -2.8% £173,424
De Ddwyrain Lloegr 0.7% 0.5% £208,314
Swydd Gaerefrog a'r Humber 0.2% -4.2% £121,002
Dwyrain Lloegr -0.4% -2.0% £172,659
Gogledd Orllewin Lloegr -0.5% -4.6% £114,075
Gogledd Ddwyrain Lloegr -1.7% -8.1% £103,295

 

 

Prisiau cyfartalog yn ôl

math o eiddo

(Cymru a Lloegr)

Ebrill 2011 Ebrill 2010 Gwahaniaeth (%)
Tŷ sengl

£256,923

£259,436

-1.0%

Tŷ pâr

£153,670

£156,203

-1.6%

Tŷ teras

£124,601

£126,016

-1.1%

Fflat/fflat deulawr

£152,530

£155,134

-1.7%

Holl

£163,083

£165,243

-1.3%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2010

(Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2009

(Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth
Ionawr

35,822

26,273

36%

Chwefror

42,515

27,272

56%

Mawrth

51,392

35,531

45%

Ebrill

52,256

39,347

33%

Mai

52,136

45,866

14%

Mehefin

62,644

54,777

14%

Gorffennaf

67,367

63,666

6%

Awst

61,330

58,338

5%

Medi

57,270

58,502

-2%

Hydref

58,340

65,796

-11%

Tachwedd

55,893

61,108

-9%

Rhagfyr

56,175

78,470

-28%

Cyfanswm

653,140

614,946

6%

 

Mis

Gwerthiannau 2011

(Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010

(Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth
Ionawr 36,868 35,822 3%
Chwefror 38,336 42,515 -10%

 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai".

2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai mis Mai am 11 y bore ar ddydd Mawrth 28 Mehefin 2011.

3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.

4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion 16 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy warchod perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.

6. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.

7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Jill Inglis 0300 0067487

jill.inglis@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix