27 Gorffennaf 2012
PR 12/12
Data Tueddiadau'r Farchnad Mis Mehefin gan y Gofrestrfa Tir
- Prisiau tai mis Mehefin yn codi 0.1 y cant oddi ar fis Mai: pris tŷ cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £161,777
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol ym mis Mehefin gyda 222,280 o geisiadau
- Cyflwynwyd dros 50,000 o brisiau gwerthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i'w cofrestru ym mis Mehefin
Mae data mis Mehefin o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 0.9 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £161,777. Mae'r newid misol o fis Mai i fis Mehefin yn gynnydd o 0.1 y cant.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei gwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 6.3 y cant.
- Cymru welodd y cynnydd misol mwyaf gyda chynnydd o 2.5 y cant.
- Gwelodd Swydd Gaerefrog a'r Humber y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 1.9 y cant.
- Swydd Gaerefrog a'r Humber welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd gyda gostyngiad o 0.3 y cant.
- Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2012 ostwng 19 y cant i 41,244 o gymharu â 50,721 ym mis Ebrill 2011.
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Ebrill 2012 wedi gostwng 43 y cant i 468 o 825 ym mis Ebrill 2011.
Mynegai Prisiau Tai
Rhanbarth | Newid misol (oddi ar fis Mai 2012) | Newid blynyddol (oddi ar fis Mehefin 2011) | Pris cyfartalog (Mehefin 2012) |
Cymru | 2.5% | 0.2% | £118,847 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 1.7% | -0.9% | £101,689 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 1.4% | 0.4% | £131,159 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 1.1% | -1.3% | £111,167 |
Llundain | 0.2% | 6.3% | £359,476 |
De Ddwyrain Lloegr | 0.1% | 1.4% | £209,069 |
Cymru a Lloegr | 0.1% | 0.9% | £161,777 |
Dwyrain Lloegr | 0.1% | 0.6% | £173,183 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | -0.1% | -0.2% | £123,166 |
De Orllewin Lloegr | -0.2% | 1.2% | £172,405 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | -0.3% | -1.9% | £117,908 |
Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Mehefin 2012 | Mehefin 2011 | Gwahaniaeth |
Tŷ sengl | £254,780 | £252,494 | 0.9% |
Tŷ pâr | £153,673 | £152,556 | 0.7% |
Tŷ teras | £123,355 | £121,380 | 1.6% |
Fflat/Fflat deulawr | £150,289 | £150,745 | -0.3% |
Holl | £161,777 | £160,362 | 0.9% |
Mis | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 37,606 | 35,885 | 5% |
Chwefror | 39,676 | 42,576 | -7% |
Mawrth | 46,740 | 51,466 | -9% |
Ebrill | 50,721 | 52,335 | -3% |
Mai | 48,968 | 52,234 | -6% |
Mehefin | 57,685 | 62,783 | -8% |
Gorffennaf | 62,273 | 67,541 | -8% |
Awst | 64,350 | 61,525 | 5% |
Medi | 63,481 | 57,518 | 10% |
Hydref | 57,874 | 58,676 | -1% |
Tachwedd | 60,218 | 56,357 | 7% |
Rhagfyr | 63,324 | 56,910 | 11% |
Cyfanswm | 652,916 | 655,806 | 0% |
Mis | Gwerthiannau 2012 (Cymru a Lloegr) | Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr) | Gwahaniaeth |
Ionawr | 43,446 | 37,606 | 16% |
Chwefror | 44,367 | 39,676 | 12% |
Mawrth | 59,912 | 46,740 | 28% |
Ebrill | 41,244 | 50,721 | -19% |
Mae'r Data Trafodiad yn dangos i'r Gofrestrfa Tir dderbyn dros 960,000 o geisiadau gan ei holl gwsmeriaid (gyda a heb gyfrif) ym mis Mehefin. Mae hyn yn cynnwys 910,391 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 221,534 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 397,977 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 142,873 yn chwiliadau a 54,622 yn drafodion am werth.
Data trafodiad
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
Countrywide Property Lawyers | 1,523 |
My Home Move Limited | 1,342 |
O'Neill Patient | 663 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
Enact | 5,081 |
Optima Legal Services | 4,574 |
NLIS Operations | 3,888 |
Tair prif ardal awdurdod lleol | Ceisiadau |
Birmingham | 15,252 |
Dinas Westminster | 14,801 |
Leeds | 10,915 |
Rhanbarth | Ceisiadau |
De Ddwyrain Lloegr | 222,280 |
Llundain Fwyaf | 174,293 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 104,459 |
De Orllewin Lloegr | 96,450 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 81,506 |
Swydd Gaerefrog a'r Humber | 78,409 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 69,690 |
Cymru | 48,281 |
Gogledd Lloegr | 46,102 |
Dwyrain Anglia | 39,506 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 35 |
Ynysoedd Sili | 19 |
Cyfanswm | 961,030 |
Mae'r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 50,000 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i'w cofrestru ym mis Mehefin 2012. Gwerthwyd yr eiddo drutaf a werthwyd sydd wedi'i leoli yng nghanol Llundain am £13.5 miliwn ym mis Mehefin 2012. Mynediad i'r set lawn o ddata www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/transaction-data
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir Data Tueddiadau'r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai a setiau data Trafodiad a Data pris a dalwyd mis Gorffennaf am 11 y bore ar ddydd Mercher 29 Awst 2012.
- Mae'r Grŵp Data Cyhoeddus yn dod â'r Gofrestrfa Tir, Tŷ’r Cwmnïau, y Swyddfa Dywydd a'r Arolwg Ordnans at ei gilydd i gydweithio i ddod o hyd i gyfleoedd a llywio effeithlonrwydd, yn ogystal â rhyddhau eu data i ddefnyddwyr ac ail-ddefnyddwyr am bris gostyngol neu am ddim.
- Mae'r Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA), a ddatblygwyd gan yr Archif Genedlaethol, yn caniatáu’r defnydd ac ail-ddefnydd rhydd o wybodaeth y sector gyhoeddus. I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence
- Mae eleni'n nodi 150 mlwyddiant y Gofrestrfa Tir. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.
- Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae'r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. I gael esboniad o'r termau a ddefnyddir, ewch i http://www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae'r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i'r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau, ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/faqs#m11
- Mae'r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i'w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae'r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo:
- y cyfeiriad llawn
- y pris a dalwyd
- dyddiad y trosglwyddiad
- y math o eiddo
- ai adeilad newydd yw'r eiddo ai peidio
- ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw'r eiddo
- Gellir ei llwytho i lawr o wefan y Gofrestrfa Tir fel cipolwg misol o'n cronfa ddata pris a dalwyd yn www.cofrestrfatir.gov.uk/professional/market-trend-data/public-data/price-paid-data ac mae ar gael i bawb ei harchwilio neu ei hail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- I gael Data Pris a Dalwyd hanesyddol, anfonwch ebost at addvalueservices@landregistry.gsi.gov.uk neu ffoniwch 0800 678 1678. Codir tâl am yr adroddiadau hyn.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov Dewch o hyd i ni ar LinkedIn
Cysylltu
Ronal Patel 0300 0067490