top logo

Siarter Gwybodaeth

Diben

Mae'r Siarter hwn yn nodi'r safonau y gallwch eu disgwyl gennym (y Gofrestrfa Tir) wrth ymdrin â gwybodaeth bersonol a'i chadw.

Mathau o wybodaeth

Rydym yn cadw gwybodaeth bersonol a gwybodaeth nad yw'n bersonol. Mae cadw'r wybodaeth hon yn ein galluogi i gyflawni ein dyletswyddau statudol, gwasanaethu cwsmeriaid a bodloni'n rhwymedigaethau fel cyflogwr.

Mae Deddf Diogelu Data 1998 (DDD) yn rhoi'r fframwaith statudol mewn perthynas â gwybodaeth bersonol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Datganiad Diogelu Data.

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rheoli pa wybodaeth arall y gallwn ei rhyddhau o ganlyniad i gais am wybodaeth.

Pan fyddwn yn trin gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'n swyddogaethau statudol, mae eich hawliau o dan DDD wedi'u cyfyngu. Mae'r DDD yn ein caniatáu i ddefnyddio gwybodaeth bersonol at y dibenion hyn.

Gweler ein Datganiad Preifatrwydd ar wahân am fanylion am wybodaeth bersonol o'n gwefan.

Gwybodaeth bersonol a gedwir at ddibenion eraill

Ar gyfer rhai o'n gwasanaethau, mae'r telerau ac amodau yn nodi'r hyn y gallem ei wneud gyda'ch gwybodaeth. Dylech wirio'r telerau ac amodau ar gyfer y gwasanaethau hynny. Yn amodol ar hyn, pan fyddwch yn darparu gwybodaeth bersonol at ddibenion y tu allan i'n rhwymedigaethau a'n dyletswyddau statudol, byddwn yn:

  • sicrhau eich bod yn gwybod pam fod angen y wybodaeth arnom;
  • gofyn am yr hyn sydd ei angen arnom yn unig;
  • ei diogelu a sicrhau bod mynediad iddi wedi'i gyfyngu;
  • rhoi gwybod i chi os byddwn yn ei rhannu â sefydliadau eraill (heblaw os caiff ei rhannu at ddibenion gorfodi'r gyfraith);
  • sicrhau nad ydym yn ei chadw am fwy o amser nag sydd angen.

Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi:

  • roi gwybodaeth gywir i ni; a
  • dweud wrthym cyn gynted â phosibl os oes unrhyw newidiadau, fel cyfeiriad newydd.

Mae hyn yn ein helpu i gadw eich gwybodaeth yn ddibynadwy ac yn gyfoes.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o fanylion am:

  • sut i wybod pa wybodaeth a gedwir gennym amdanoch a sut i ofyn i ni gywiro unrhyw wallau;
  • amgylchiadau lle y gallwn drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol heb ddweud wrthych, er enghraifft, er mwyn atal neu ganfod trosedd neu i gynhyrchu ystadegau dienw;
  • ein cyfarwyddiadau i staff am sut i gasglu, defnyddio a dileu eich gwybodaeth bersonol a
  • sut i wneud cwyn.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data
Land Registry Head Office
Trafalgar House
1 Bedford Park
CR0 2AQ
(DX8888 Croydon 3)

ebost: dataprotection@landregistry.gsi.gov.uk

I gael cyngor annibynnol am ddiogelu data, preifatrwydd a materion sy'n ymwneud â rhannu data, gallwch gysylltu â

The Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 08456 306060 neu 01625 545745
Ffacs: 01625 524510
Gwefan: www.ico.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix