Dogfen Fframwaith 2008
Rhagair
Mae Cofrestrfa Tir ei Mawrhydi (y cyfeirir ati yn y ddogfen hon fel y Gofrestrfa Tir) wedi gweithredu fel adran ar wahân o'r llywodraeth am 146 o flynyddoedd, fel asiantaeth weithredol am bron 18 mlynedd ac fel cronfa fasnachu am 15 mlynedd.
Mae'r ddogfen fframwaith hon yn ddatganiad o sefyllfa gyfreithiol y Gofrestrfa Tir ac mae'n adlewyrchu ei statws fel adran anweinidogol o'r llywodraeth. Mae'n amlinellu fy swyddogaeth a'm cyfrifoldebau i fel Prif Gofrestrydd Tir a rhai'r Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder.
Cynnwys
Prif ddarpariaethau deddfwriaethol sy'n sail i weithrediadau presennol
Statws a swyddogaethau
Statws
1.1 Mae Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi wedi bod yn adran anweinidogol o'r llywodraeth oddi ar 1862. Fe'i sefydlwyd fel asiantaeth weithredol yr Arglwydd Ganghellor yng Ngorffennaf 1990 ac fel cronfa fasnachu yn Ebrill 1993. Ei theitl ffurfiol yw Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi ond, o ddydd i ddydd, defnyddir y term Cofrestrfa Tir. Yn debyg i adrannau anweinidogol eraill, mae swyddogaethau'r Gofrestrfa Tir wedi bod yn hollol statudol erioed. Nid oes ganddi unrhyw bwerau uchelfreiniol.
1.2 Cafodd bodolaeth y Gofrestrfa Tir ei pharhau'n benodol gan adran 99(1) Deddf Cofrestru Tir 2002, sy'n darparu ei bod "i ymdrin â gwaith cofrestru o dan y Ddeddf hon".
1.3 Trwy rinwedd adran 99(2) y Ddeddf Cofrestru Tir, y Gofrestrfa Tir yw'r Prif Gofrestrydd Tir, sy'n bennaeth arni, a'r staff a benodir ganddo.
1.4 Mae'r Gofrestrfa Tir yn gweithredu fel cronfa fasnachu yn unol â Deddf Cronfeydd Masnachu'r Llywodraeth 1973, fel y'i newidiwyd gan Ddeddf Masnachu'r Llywodraeth 1990. Y Prif Gofrestrydd Tir yw Prif Swyddog Cyfrifyddu'r Gofrestrfa Tir ar gyfer y gronfa fasnachu.
Swyddogaethau
1.5 Prif swyddogaeth statudol y Gofrestrfa Tir yw cadw cofrestr teitl i dir rhydd-ddaliol a phrydlesol yng Nghymru a Lloegr. Ar ran y Goron, mae'n gwarantu teitl i ystadau cofrestredig a buddion mewn tir. Mae cofrestriad wedi ei gefnogi gan y wladwriaeth yn rhoi sicrwydd gwell o ran teitl ac yn gwarchod yn well yn erbyn hawliadau meddiant gwrthgefn.
1.6 Yn ogystal â chofrestru teitl, mae'r Gofrestrfa Tir hefyd yn gyfrifol am swyddogaethau'r Adran Pridiannau Tir a'r Adran Credydau Amaethyddol.
1.7 Mae'r Adran Pridiannau Tir yn gweithredu dan awdurdod Deddf Pridiannau Tir 1972. Mae'n cynnal cofrestri o bridiannau tir, achosion arfaethedig, gwritiau a gorchmynion sy'n effeithio ar dir a llyffetheiriau eraill a gofrestrwyd yn erbyn perchnogion a enwir eiddo sydd heb ei gofrestru dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
1.8 Mae'r Adran Credydau Amaethyddol yn gyfrifol am gynnal cofrestr o fenthyciadau tymor byr gan fanciau dan Ran II Deddf Credydau Amaethyddol 1928. Mae'r pridiannau hyn yn cael eu gwarantu ar stoc ffermio ac asedau amaethyddol eraill y ffarmwr.
1.9 Dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002, mae'r Gofrestrfa Tir yn gallu cyflawni swyddogaethau statudol ychwanegol sy'n ymwneud â darparu gwybodaeth am dir ac eiddo, gwasanaethau ymgynghorol/cynghori a hyfforddiant/addysg sy'n ymwneud â chofrestru tir. Mae hefyd yn gallu darparu gwasanaethau sy'n hwyluso'r broses drawsgludo electronig yng Nghymru a Lloegr.
Cenhadaeth, prif nodau ac amcanion
2.1 Cenhadaeth y Gofrestrfa Tir yw "darparu'r gwasanaeth gorau yn y byd ar gyfer gwarantu perchnogaeth tir a hwyluso trafodion eiddo".
2.2 Wrth geisio cyflawni'r genhadaeth hon, prif nodau'r Gofrestrfa Tir yw:
- cynnal a datblygu system gofrestru tir sefydlog ac effeithiol trwy Gymru a Lloegr fel conglfaen ar gyfer creu buddion mewn tir a symudiad rhydd y buddion hynny
- ar ran y Goron, gwarantu teitl i ystadau cofrestredig a buddion mewn tir ar gyfer Cymru a Lloegr cyfan. Nid yw'r warant yn gymwys i faterion sy'n effeithio ar yr eiddo nas cyfeirir atynt yn y gofrestr teitl (buddion gor-redol) fel hawliau tramwy cyhoeddus neu orchmynion prynu gorfodol. Os yw rhywun yn dioddef colled ariannol oherwydd camgymeriad yn y gofrestr teitl, mae'n bosibl y bydd iawndal ar gael.
- darparu mynediad hwylus i wybodaeth gyfoes am dir er mwyn gallu delio'n hyderus mewn eiddo a gwarantu teitl. Mae teitl cofrestredig yn cael ei gefnogi gan y wladwriaeth, gan warchod yn erbyn hawliadau meddiant gwrthgefn.
- darparu gwasanaeth Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol.
2.3 Ein gweledigaeth yw "gwneud trafodion eiddo yn haws i bawb". I wireddu'r weledigaeth hon, mae'n strategaeth yn anelu at ddatblygu neu wella'r gwasanaethau presennol yn ogystal â chyflwyno gwasanaethau newydd i'n cwsmeriaid. Mae'r Gofrestrfa Tir wedi nodi pedwar maes allweddol i'w datblygu: gwasanaeth cwsmeriaid, cofrestru tir, cyflenwi gwasanaethau'n electronig a busnes arall. Mae'n hamcanion strategol mwy tymor hir o fewn pob un o'r meysydd hyn fel a ganlyn: - Gwasanaeth cwsmeriaid
Parhau i wella'r ffordd rydym yn cyflenwi'n gwasanaethau i'r holl fudd-ddeiliaid.
Cofrestru tir
- Cyflwyno deddfwriaeth eilaidd amserol ac effeithiol ym maes cofrestru tir.
- Creu Cofrestr Tir gynhwysfawr ar gyfer Cymru a Lloegr.
Cyflenwi gwasanaethau'n electronig
- Cyflwyno system drawsgludo electronig a fydd yn gyfrwng cyflawni'r rhan fwyaf o drafodion eiddo.
Busnes arall
- Datblygu amrywiaeth ehangach o wasanaethau i weithwyr proffesiynol eiddo, y cyhoedd ac eraill.
Cyfrifoldebau a dyletswyddau'r Arglwydd GanghellorMae gan yr Arglwydd Ganghellor nifer o gyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â'r Gofrestrfa Tir a'r Prif Gofrestrydd Tir.
- Mae ganddo gyfrifoldeb gweinidogol am y Gofrestrfa Tir a'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'w gwaith. Mae'n atebol i'r Senedd am ei gweithgareddau a'i pherfformiad. O bryd i'w gilydd, bydd y Gweinidog Gwladol perthnasol neu'r Is-Ysgrifennydd Seneddol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cyflawni cyfrifoldebau'r Arglwydd Ganghellor.
- Mae'n penodi'r Prif Gofrestrydd Tir a fydd yn dal y swydd fel rheol nes iddo adael yn unol â thelerau ei benodiad. Gall ddiswyddo'r Prif Gofrestrydd Tir os nad yw'n gallu cyflawni ei swyddogaethau neu os nad yw'n gymwys i wneud hynny.
- Mae ganddo'r hawl i dderbyn adroddiad blynyddol gan y Prif Gofrestrydd Tir ar fusnes y Gofrestrfa Tir ac mae'n rhaid iddo osod copïau o bob adroddiad gerbron y Senedd.
- Mae ganddo'r pŵer i lunio deddfwriaeth eilaidd dan awdurdod y Deddfau, yn diffinio'r fframwaith rheoleiddiol sy'n sail i waith y Gofrestrfa Tir, trawsgludo a thrawsgludo electronig. Mae hyn yn cynnwys pennu'r ffïoedd ar gyfer deliadau â'r Gofrestrfa Tir.
- Mae'n penodi'r aelod o'r Pwyllgor Rheolau sydd â phrofiad a gwybodaeth ym maes materion cwsmeriaid ac mae ganddo'r pŵer i enwebu aelodau eraill â phrofiad a chymwysterau a fyddai o fudd i'r pwyllgor. Mae'n rhaid i'r Arglwydd Brif Ustus ymgynghori ag ef cyn enwebu barnwr o'r Adran Siawnsri fel aelod o'r pwyllgor.
- Mae'n penodi'r Dyfarnwr i Gofrestrfa Tir Ei Mawrhydi i benderfynu mewn anghydfodau barnwrol sy'n deillio o waith y Gofrestrfa Tir; mae'n pennu'r ffïoedd i'w talu mewn achosion gerbron y Dyfarnwr; mae'n talu ei gyflog ac yn ad-dalu ei wariant. Fodd bynnag, gall yr Arglwydd Ganghellor hawlio'r taliadau hyn yn ôl o'r Prif Gofrestrydd Tir.
Cyfrifoldebau a dyletswyddau'r Prif Gofrestrydd Tir
Y Prif Gofrestrydd Tir yw Pennaeth y Gofrestrfa Tir. Caiff ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor. Gall ymddiswyddo trwy rybudd ysgrifenedig i'r Arglwydd Ganghellor a gellir ei ddiswyddo gan yr Arglwydd Ganghellor os nad yw'n gallu cyflawni swyddogaethau ei swydd neu os nad yw'n gymwys i wneud hynny. Fel arfer bydd yn dal y swydd nes iddo adael yn unol â thelerau ei benodiad.
Cyfrifoldebau cyfreithiol
Mae'r Prif Gofrestrydd Tir dan rwymedigaeth gyfreithiol i wneud y canlynol:
- cyflawni'r swyddogaeth o gofrestrydd y cyfeirir ati yn Neddf Cofrestru Tir 2002, Deddf Pridiannau Tir 1972 a Deddf Credydau Amaethyddol 1928. Mae'n gyfrifol am gynnal y cofrestri a sefydlwyd at ddibenion y Deddfau hynny. Mae ganddo'r holl bwerau, cyfrifoldebau a dyletswyddau a roddir i'r cofrestrydd ac a orfodir arno gan y Deddfau hynny a chan y rheolau a deddfwriaeth eilaidd arall a wneir o danynt. Wrth gyflawni'r swyddogaethau hynny nid yw'n ddarostyngedig i unrhyw reolaeth neu gyfarwyddyd gweinidogol, er ei fod, wrth gwrs, yn ddarostyngedig i oruchwyliaeth y llys trwy awdurdodaeth yr adolygiad barnwrol
- cyflwyno adroddiad blynyddol ar fusnes y Gofrestrfa Tir i'r Arglwydd Ganghellor a chyhoeddi'r adroddiad hwnnw
- gweinyddu a rheoli Cronfa Fasnachu'r Gofrestrfa Tir
- rheoli'r gweithrediadau a ariennir (hynny yw, y rhai sy'n gyfyngedig i gynnal busnes dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002, Deddf Pridiannau Tir 1972 a Deddf Credydau Amaethyddol 1928) yn ogystal â darparu gwasanaethau mewn marchnadoedd ehangach ym maes cofrestru a rheoli a marchnata gwybodaeth sy'n ymwneud â thir ac eiddo fel bod incwm o'r gronfa:
- yn cynnwys yn bennaf derbyniadau am nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd trwy gyfrwng y gweithrediadau a ariennir, a
- heb fod yn llai na digonol, o gymryd y naill flwyddyn gyda'r llall, i dalu'r treuliau sydd i'w codi'n briodol i'r cyfrif incwm a gwariant
- cyrraedd unrhyw amcanion ariannol pellach a bennir gan yr Arglwydd Ganghellor gyda chydsyniad y Trysorlys
- cyflawni cyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu'r gronfa fasnachu. Yn y rhinwedd hon mae'n gyfrifol am reolaeth briodol, effeithiol ac effeithlon adnoddau ac mae'n sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion a geir yn Managing Public Money ac unrhyw gyfarwyddyd cyffredinol a gyhoeddir gan y Trysorlys a Swyddfa'r Cabinet. Yn benodol, mae'n paratoi ac yn arwyddo datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol sydd i'w gyflwyno i'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol. Rhaid iddo hefyd anfon adroddiad blynyddol a chyfrifon, wedi eu harchwilio gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (neu gwmni o gyfrifyddion wedi'i awdurdodi dan is-gontract), at yr Arglwydd Ganghellor, ynghyd ag adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch y gweithrediadau a ariennir ar ffurf a bennir gan y Trysorlys
- sicrhau bod ei holl dreuliau sy'n deillio o'r gweithrediadau a ariennir yn cael eu talu o'r gronfa fasnachu
- o gymryd y naill flwyddyn gyda'r llall, talu i'r Gronfa Gyfunol bob blwyddyn difidend sy'n gyfartal â'r gyfradd enillion ofynnol ar gyfalaf cyfartalog a ddefnyddiwyd
- sefydlu a chynnal cronfeydd cyffredinol, cyfalaf a chronfeydd wrth gefn eraill yng nghyfrifon y gronfa fasnachu a gall dalu i'r Gronfa Gyfunol unrhyw swm o gronfeydd wrth gefn y gronfa fasnachu sy'n ymddangos iddo ar unrhyw adeg ei fod yn warged ar ôl ystyried gofynion y gweithrediadau a ariennir fel y'u rhagwelir
- buddsoddi, os yw'n dymuno, unrhyw arian nad oes ei angen ar unwaith yn y fath sicrydau'r Llywodraeth y gall y Trysorlys eu cymeradwyo
- penodi staff y Gofrestrfa Tir ar y fath delerau ac amodau sy'n ymddangos yn briodol iddo gyda chymeradwyaeth Gweinidog y Gwasanaeth Sifil
- gyda chydsyniad y Trysorlys, pennu cyfanswm ac amser unrhyw daliad o'r gronfa fasnachu i'r Gronfa Gyfunol o ran pensiynau staff a chostau gweinyddol cysylltiedig
- awdurdodi aelodau eraill y Gofrestrfa Tir (hynny yw, aelodau o'r staff) i gyflawni ei swyddogaethau os bydd angen.
Cyfrifoldebau seneddol - Fel rheol disgwylir i'r Prif Gofrestrydd Tir roi tystiolaeth, ar ran yr Arglwydd Ganghellor, pan drafodir materion y Gofrestrfa Tir gan bwyllgorau seneddol. Mae'n gyfrifol am weithredu argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y Pwyllgor Cyfiawnder a Phwyllgorau Dethol Seneddol eraill neu awdurdod arall a dderbyniwyd gan y Llywodraeth.
- Bydd y Prif Gofrestrydd Tir yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn uniongyrchol oddi wrth Aelodau Seneddol am faterion sy'n ymwneud â gwaith beunyddiol y Gofrestrfa Tir. Bydd hefyd yn ateb gohebiaeth am y cyfryw faterion a dderbynnir gan yr Arglwydd Ganghellor oddi wrth Aelodau Seneddol.
Cynllunio a rheolaeth
Gweithrediadau
4.1 Er nad yw'n ofyniad statudol, bob blwyddyn mae'r Prif Gofrestrydd Tir yn cyhoeddi cynllun busnes sy'n cynnwys dangosyddion perfformiad a thargedau allweddol yr adran. Cyn cyhoeddi'r cynllun mae'n gofyn i'r Arglwydd Ganghellor gymeradwyo'r dangosyddion perfformiad a thargedau allweddol, sydd wedyn yn cael eu cyflwyno i'r Senedd trwy gyfrwng datganiadau gweinidogol ysgrifenedig.
4.2 Bydd y Prif Gofrestrydd Tir yn cwrdd â'r Arglwydd Ganghellor yn flynyddol i drafod perfformiad y Gofrestrfa Tir a'r rhagolwg ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bydd y cyfarfod yn digwydd cyn i adroddiad blynyddol a chyfrifon y Gofrestrfa Tir gael eu cyflwyno i'r Arglwydd Ganghellor i'w cymeradwyo.
Archwiliad allanol
4.3 Yn unol ag adran 4(5)(b) Deddf Cronfeydd Masnachu'r Llywodraeth 1973, y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol yw'r archwilydd allanol.
Archwiliad mewnol
4.4 Mae'r Prif Gofrestrydd Tir yn gyfrifol am wneud trefniadau priodol i ddarparu gwasanaeth archwiliad mewnol effeithiol, sydd i'w bennu mewn modd sy'n dangos gwerth gorau am arian. Cynhelir archwiliadau mewnol yn unol â safonau ac amcanion Safonau Archwiliad Mewnol y Llywodraeth.
Ariannol
4.5 Mae cofnod y Trysorlys dyddiedig 15 Rhagfyr 2003, a osodwyd gerbron Tŷ'r Cyffredin yn unol ag adran 4(1)(b) Deddf Cronfeydd Masnachu'r Llywodraeth 1973, yn nodi bod yr Arglwydd Ganghellor wedi pennu (gyda chydsyniad y Trysorlys) amcan ariannol arall y mae'n ddymunol i'r Gofrestrfa Tir ei gyflawni sef, sicrhau enillion lleiaf, wedi'u cyfartalu dros y cyfnod cyfan, o 3.5 y cant ar ffurf gwarged ar weithgareddau cyffredin cyn llog (yn daladwy ac i'w derbyn) a difidendau fel canran o'r cyfalaf cyfartalog a ddefnyddiwyd. Bydd y cyfalaf a ddefnyddiwyd yn cyfateb â'r cyfanswm asedau y bydd cyfanswm y rhwymedigaethau yn cael ei ddidynnu ohonynt.
4.6 Rhaid i gyfrifon y gronfa fasnachu:
- fodloni'r egwyddorion cyfrifyddu a gofynion datgelu a geir yn argraffiad perthnasol yr adrannau sy'n berthnasol i gronfa fasnachu o'r Financial Reporting Manual a gyhoeddir yn flynyddol gan y Trysorlys
- bodloni gofynion archwilio'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol.
4.7 Ariennir asedion net y Gofrestrfa Tir yn rhannol gan Gyfalaf Difidend Cyhoeddus. Fel cronfa fasnachu, mae gan y Gofrestrfa Tir hawl i fenthyca er mwyn ariannu gwariant cyfalaf ac anghenion cyfalaf gweithio parhaol. Yn unol ag adran 2(3) Deddf Cronfeydd Masnachu'r Llywodraeth 1973, mae'r Arglwydd Ganghellor wedi pennu terfyn ar fenthyca ychwanegol gan y Gofrestrfa Tir o £130 miliwn.
4.8 Os yw amrywiad yn digwydd yn ystod y flwyddyn, bydd y Gofrestrfa Tir yn cytuno ar derfyn benthyca dros dro â'r Trysorlys. Mae benthyciadau o'r fath o'r Gronfa Benthyciadau Genedlaethol yn ad-daladwy yn ystod y flwyddyn.
4.9 Dan delerau memorandwm dealltwriaeth a gytunwyd â'r Trysorlys â'r Adran Materion Cyfansoddiadol (sydd bellach wedi'i chorffori yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder), mae hyblygrwydd gan y Gofrestrfa Tir i (a) ail-fuddsoddi gwargedion anfwriadol yn y blynyddoedd i ddod neu (b) gario drosodd i flwyddyn yn y dyfodol swm sy'n gyfwerth â'r difidend oedd yn daladwy y flwyddyn flaenorol (p'un bynnag o (a) neu (b) sydd fwyaf), heb gynyddu gwariant cyhoeddus.
4.10 Os yw'r Gofrestrfa Tir yn rhagweld colled mewn unrhyw flwyddyn, bydd gofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn y lle cyntaf, bennu a oes modd i'r golled a amcangyfrifir gael ei chynnwys o fewn ei therfyn gwariant adrannol ei hun. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd defnyddio'r gronfa wrth gefn yn cael ei ystyried.
Statws ac amodau gwasanaeth staff
5.1 Mae staff y Gofrestrfa Tir yn weision sifil a gyflogir ar delerau ac amodau gwasanaeth sy'n dilyn y rheolau a'r egwyddorion a amlinellir yng Nghôd Rheoli y Gwasanaeth Sifil a darpariaethau Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O fewn y fframwaith hwn, mae'r Prif Gofrestrydd Tir (yn rhinwedd ei rôl fel Prif Weithredwr yr Asiantaeth) yn gyfrifol am benodi staff i'r Gofrestrfa Tir a phennu eu cyfnod dal swydd ac amodau penodi eraill. Mae'r Gofrestrfa Tir yn cynnal ei threfn bargeinio tâl ei hun ac mae ganddi ei strwythurau tâl a graddio ei hun sy'n gweddu orau i'w gofynion penodol. Gall y Prif Weithredwr ddatblygu ymhellach a gweithredu polisïau adnoddau dynol a thâl diwygiedig neu eraill sy'n cyfateb â'r gofynion a'r anghenion hynny. Gwneir hyn gyda chytundeb adrannau canolog lle y bo'n briodol, ac ar ôl ymgynghori â staff a'u cynrychiolwyr undeb llafur trwy weithdrefn Whitley.
5.2 Mae'r Prif Weithredwr yn was sifil hefyd ac yn aelod o'r Uwch Wasanaeth Sifil.
Rheolaeth personél
5.3 Mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am reolaeth personél, trefniadau adolygu personél a thâl a graddio holl staff y Gofrestrfa Tir. Mae hyn yn cynnwys y gallu i ddyrchafu staff, i ddelio a materion aneffeithlondeb, disgyblu a chwyno ac am bennu tâl a graddio. Wrth gyflawni'r cyfrifoldebau hyn, bydd y Prif Weithredwr yn ceisio cymeradwyaeth Gweinidog y Gwasanaeth Sifil, Swyddfa'r Cabinet neu'r Trysorlys fel y bo'n briodol. Yn achos yr Uwch Wasanaeth Sifil, arferir y cyfrifoldeb hwn o fewn y fframwaith eang a bennir gan Swyddfa'r Cabinet, ond mae'n eithrio'r materion hynny lle bo'r cyfrifoldeb yn aros gan Swyddfa'r Cabinet. Mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb ac am sicrhau bod polisïau amrywiaeth yn adlewyrchu gofynion statudol ac ymrwymiad y Gofrestrfa Tir i wneud y gorau o sgiliau a doniau ei holl staff. Mae'n gyfrifol hefyd am sicrhau bod y Gofrestrfa Tir yn cydymffurfio â gofynion statudol o ran materion iechyd a diogelwch a bod rheolaeth iechyd a diogelwch yn adlewyrchu cyfarwyddyd ac ymarfer da perthnasol.Yn ôl i'r brig
Trefniadau adolygu
6.1 Caiff y ddogfen fframwaith hon ei hadolygu pan fo'n angenrheidiol gwneud hynny, ac yn enwedig os yw'r Prif Gofrestrydd Tir yn ceisio newidiadau yn sgil profiad gweithrediad y Gofrestrfa Tir neu newidiadau mewn amgylchiadau. Pan fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar delerau ac amodau staff byddant yn amodol ar ymgynghori â chynrychiolwyr undebau llafur y staff.
6.2 Caiff copïau o'r ddogfen fframwaith hon ac unrhyw ddiwygiadau dilynol eu cyhoeddi a'u rhoi yn llyfrgelloedd y Senedd.
6.3 Gellir cael copïau ychwanegol o'r ddogfen fframwaith hon yn rhad ac am ddim o'r Grŵp Strategaeth, Cofrestrfa Tir, Lincoln's Inn Fields, Llundain WC2A 3PH. Mae fersiwn electronig ar gael ar wefan y Gofrestrfa Tir (www.cofrestrfatir.gov.uk).
Atodiad A
Prif ddarpariaethau deddfwriaethol sy'n sail i weithrediadau presennol
Deddfwriaeth sylfaenol
Cofrestru Teitl
Deddf Cofrestru Tir 2002
Pridiannau Tir
Deddf Pridiannau Tir 1972
Credydau Amaethyddol
Deddf Credydau Amaethyddol 1928
Deddfwriaeth eilaidd
Cofrestru Teitl
Rheolau Cofrestru Tir 2003 (OS 2003 Rhif 1417) fel y'u newidiwyd
Gorchymyn Cronfa Fasnachu'r Gofrestrfa Tir 1993 (OS 1993 Rhif 938)
Gorchymyn Cofrestru Tir (Pennu Costau) 1993 (OS 1993 Rhif 939)
Gorchymyn Cronfa Fasnachu'r Gofrestrfa Tir (Asedion Ychwanegol) 1996 (OS 1996 Rhif 750)
Gorchymyn Cronfa Fasnachu'r Gofrestrfa Tir (Estyniad a Newidiad) 2003 (OS 2003 Rhif 2094)
Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir 2006 (OS 2006 Rhif 1332)
Pridiannau Tir
Rheolau Pridiannau Tir 1974 (OS 1974 Rhif 1286) fel y'u newidiwyd
Rheolau Ffïoedd Pridiannau Tir 1990 (OS 1990 Rhif 327)
Credydau Amaethyddol
Rheoliad Credydau Amaethyddol 1928 (RhS ac OS 1928 Rhif 667)
Gorchymyn Ffïoedd Credydau Amaethyddol 1985 (OS 1985 Rhif 372)
I gael y ddogfen ar ffurf arall cysylltwch â'r Grŵp Strategaeth ar 020 7166 4848
Cyhoeddwyd gan Wasanaethau Marchnata Corfforaethol y Gofrestrfa Tir
Mai 2008 © Hawlfraint y Goron 2008 Cofrestrfa Tir
Mynegai Prisiau Tai
Tachwedd 2012: 259.3(Ionawr 1995 = 100)
Pris cyfartalog £161,490 Newid:Blynyddol 0.9%
Cysylltu â ni
Bydd ein tîm Cefnogaeth i Gwsmeriaid yn ateb eich cwestiynau ac yn ymateb i'ch ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn.
Cysylltu...