top logo

PR21/11

04/01/2012

PRISIAU TAI MIS TACHWEDD WEDI CODI 0.3 Y CANT ODDI AR FIS HYDREF: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £160,780

Mae data mis Tachwedd o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 1.9 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £160,780. Mae'r newid misol o fis Hydref i fis Tachwedd yn gynnydd o 0.3 y cant.

Yr unig ranbarth yng Nghymru a Lloegr i weld cynnydd mewn gwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 1.4 y cant. Yng Ngogledd Orllewin Lloegr gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 1.4 y cant. Gwelodd Gogledd Ddwyrain Lloegr y gostyngiad prisiau blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o 5.4 y cant. Dwyrain Lloegr welodd y gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau gyda gostyngiad o 0.6 y cant.

Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Medi 2011 gynyddu 6 y cant i 61,031 o 57,463 ym mis Medi 2010. Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Medi 2011 wedi cynyddu 1 y cant i 729 o 720 ym mis Medi 2010.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices 

Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

 

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Hydref 2011)

Newid blynyddol

(oddi ar fis Tachwedd 2010)

Pris cyfartalog

(Tachwedd 2011)

Gogledd Orllewin Lloegr

1.4%

-4.8%

£112,374

Cymru

1.1%

-1.6%

£118,370

Llundain

0.8%

1.4%

£342,749

Gorllewin Canolbarth Lloegr

0.6%

-1.8%

£131,303

Swydd Gaerefrog a’r Humber

0.5%

-3.4%

£120,057

Cymru a Lloegr

0.3%

-1.9%

£160,780

De Orllewin Lloegr

0.3%

-1.9%

£172,150

Gogledd Ddwyrain Lloegr

0.3%

-5.4%

£101,954

Dwyrain Canolbarth Lloegr

0.0%

-2.5%

£123,352

De Ddwyrain Lloegr

-0.1%

-0.9%

£206,371

Dwyrain Lloegr

-0.6%

-2.3%

£171,619


 

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Tachwedd 2011

Tachwedd 2010

Gwahaniaeth


Tŷ sengl

£254,770

£258,720

-1.5%

Tŷ pâr

£153,265

£155,260

-1.3%

Tŷ teras

£121,065

£124,868

-3.0%

Fflat/Fflat deulawr

£149,661

£152,251

-1.7%

Holl

£160,780

£163,850

-1.9%


 

Mis

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

35,858

26,296

36%

Chwefror

42,553

27,308

56%

Mawrth

51,440

35,561

45%

Ebrill

52,304

39,372

33%

Mai

52,201

45,894

14%

Mehefin

62,736

54,815

14%

Gorffennaf

67,491

63,709

6%

Awst

61,483

58,382

5%

Medi

57,463

58,561

-2%

Hydref

58,621

65,850

-11%

Tachwedd

56,295

61,171

-8%

Rhagfyr

56,838

78,576

-28%

Cyfanswm

655,283

615,495

6%


 

Mis

Gwerthiannau 2011 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

37,539

35,858

5%

Chwefror

39,612

42,553

-7%

Mawrth

46,623

51,440

-9%

Ebrill

50,576

52,304

-3%

Mai

48,746

52,201

-7%

Mehefin

57,258

62,736

-9%

Gorffennaf

61,670

67,491

-9%

Awst

63,260

61,483

3%

Medi

61,031

57,463

6%


DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai".

2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai llawn mis Rhagfyr am 11 y bore ar ddydd Llun 30 Ionawr 2012.

3. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.

4. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion mwy nag 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.

6. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.

7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.ukCysylltu

Marion Shelley 0300 0067543, 07790 690297

marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix