top logo

LR02/11 28/02/2011

Prisiau tai mis Ionawr yn codi 0.2 y cant oddi ar fis Rhagfyr: prisiau tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £163,177

Mae'r data mis Ionawr o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos gostyngiad prisiau blynyddol o 0.9 y cant sy'n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £163,177. Mae'r newid misol o fis Rhagfyr i fis Ionawr yn gynnydd o 0.2 y cant.

Gwelodd dwy ranbarth yng Nghymru a Lloegr gynnydd yng ngwerth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf. Y rhanbarth â'r newid prisiau blynyddol mwyaf yw Llundain gyda chynnydd o 2.4 y cant. Llundain a De Orllewin Lloegr welodd y cynnydd misol mwyaf, gyda symudiadau o 1.6 y cant. Cymru yw'r rhanbarth a welodd y gostyngiad pris blynyddol mwyaf gyda gostyngiad o -6.1 y cant. Cymru oedd y rhanbarth gyda'r gostyngiad misol mwyaf arwyddocaol mewn prisiau hefyd, gyda symudiad o -4.2 y cant.

Mae'r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Tachwedd 2010 ostwng 12 y cant i 54,012 o 61,058 ym mis Tachwedd 2009. Cododd nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 miliwn yng Nghymru a Lloegr 2 y cant rhwng mis Tachwedd 2009 a mis Tachwedd 2010, sef o 532 i 520.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices
Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov

Rhanbarth

Newid misol (oddi ar fis Rhagfyr 2010)

Newid blynyddol(oddi ar fis Ionawr 2010)

Pris cyfartalog 
(Ionawr 2011)

Llundain

1.6%

2.4%

£341,871

De Orllewin Lloegr

1.6%

-0.4%

£175,995

De Ddwyrain Lloegr

0.5%

-0.1%

£208,292

Dwyrain Lloegr

0.4%

0.2%

£174,550

Cymru a Lloegr

0.2%

-0.9%

£163,177

Gorllewin Canolbarth Lloegr

-0.4%

-1.4%

£133,295

Dwyrain Canolbarth Lloegr

-0.5%

-1.9%

£125,444

Gogledd Ddwyrain Lloegr

-0.6%

-2.5%

£107,011

Swydd Gaerefrog a'r Humber

-1.3%

-2.6%

£121,844

Gogledd Orllewin Lloegr

-2.0%

-2.1%

£115,263

Cymru

-4.2%

-6.1%

£116,217

 

 

Prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr)

Ionawr 2011

Ionawr 2010

Gwahaniaeth (%)

Tŷ sengl

£258,794

£259,239

-0.2%

Tŷ pâr

£153,663

£156,194

-1.6%

Tŷ teras

£124,065

£125,009

-0.8%

Fflat/Fflat deulawr

£153,055

£155,120

-1.3%

Holl

£163,177

£164,705

-0.9%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2010 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

35,784

26,267

36%

Chwefror

42,468

27,258

56%

Mawrth

51,311

35,509

45%

Ebrill

52,180

39,329

33%

Mai

52,036

45,858

13%

Mehefin

62,464

54,760

14%

Gorffennaf

67,137

63,646

5%

Awst

60,946

58,316

5%

Medi

56,690

58,461

-3%

Hydref

57,328

65,756

-13%

Tachwedd

54,012

61,058

-12%

 

 

Mis

Gwerthiannau 2009 (Cymru a Lloegr)

Gwerthiannau 2008 (Cymru a Lloegr)

Gwahaniaeth

Ionawr

26,267

57,212

-54%

Chwefror

27,258

61,033

-55%

Mawrth

35,509

57,177

-38%

Ebrill

39,329

61,606

-36%

Mai

45,858

64,473

-29%

Mehefin

54,760

58,101

-6%

Gorffennaf

63,646

52,101

22%

Awst

58,316

47,794

22%

Medi

58,461

40,859

43%

Hydref

65,756

43,978

50%

Tachwedd

61,058

35,831

70%

Rhagfyr

78,411

39,260

100%

Cyfanswm

614,629

619,425

-1%

 

Nodiadau i olygyddion

1. Oddi ar 2006, mae Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, sydd ar gael am ddim yn www.cofrestrfatir.gov.uk/houseprices wedi cynyddu momentwm i ddod yn ddangosydd blaenllaw o symudiadau eiddo yng Nghymru a Lloegr. Caiff ei ystyried yn eang fel "y baromedr mwyaf cywir o'r farchnad dai ".

2. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y Gofrestrfa Tir ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir mynegai mis Chwefror am 11 y bore ar ddydd Llun 28 Mawrth 2011.

3. Mae'r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy'n fwy na'r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae'n cael ei gyfrifo ar sail set ddata'r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.

4. Mae set ddata'r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion 16 miliwn o drafodion preswyl. O'r rhain mae dros chwe miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy'n darparu'r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio'r mynegai. Mae'r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

5. Gyda'r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o'r fath gyda manylion mwy na 22 miliwn o deitlau, mae'r Gofrestrfa Tir yn cefnogi'r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy'n werth biliynau o bunnoedd.

6. Fel adran o'r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy'n atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor, mae'r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.

7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk

Cysylltu

Marion Shelley 0300 0067543
marion.shelley@landregistry.gsi.gov.uk

Jill Inglis 0300 0067487
jill.inglis@landregistry.gsi.gov.uk

© Hawlfraint y Goron 2012 Preifatrwydd a Chwcis Telerau ac Amodau Map o'r wefan Wedi'i bweru gan Squiz Matrix