Cefnogi rhagor o fuddsoddiad mewn band eang ffibr llawn

24 Gorffennaf 2018

  • Ofcom yn nodi ei gynlluniau i gynyddu'r sicrwydd ar gyfer buddsoddiadau hirdymor
  • Bydd gwaith rheoleiddio marchnadoedd busnes a phreswyl yn dod at ei gilydd
  • Cynlluniau i gynyddu mynediad at bibellau a pholion Openreach i helpu gweithredwyr i wasanaethu busnesau

Heddiw, mae Ofcom wedi amlinellu pecyn o fesurau arfaethedig i gefnogi buddsoddiad hirdymor mewn rhwydweithiau ffibr llawn – gan helpu i ddod â band eang cyflymach a mwy dibynadwy i bobl ledled y DU.

Mae nifer o gwmnïau mawr, gan gynnwys Openreach, Virgin Media, Vodafone, CityFibre a TalkTalk, wedi ymrwymo i osod rhwydweithiau band eang ffibr llawn. Bydd gwaith rheoleiddio cyson a rhagweladwy dros y blynyddoedd nesaf yn gymorth i gwmnïau allu adeiladu ar y cynnydd hwnnw, a chefnogi nod Ofcom a’r Llywodraeth i helpu i sicrhau ffibr llawn eang yn y DU.

Cynigion i gefnogi rhagor o fuddsoddiad

Heddiw, mae Ofcom yn nodi ei ddull arfaethedig dros y blynyddoedd i ddod i gefnogi buddsoddiad mewn ffibr llawn er mwyn darparu sicrwydd i’r diwydiant a buddsoddwyr. Mae ein cynlluniau’n cynnwys:

  1. Rheoleiddio marchnadoedd busnes a phreswyl gyda’i gilydd. Mae cwmnïau sy’n buddsoddi mewn ffibr llawn yn mynd ati fwyfwy i geisio cynnig amrywiaeth o wasanaethau dros rwydwaith gwaelodol cyffredin i wasanaethu defnyddwyr a busnesau. Felly bydd Ofcom nawr yn ystyried y marchnadoedd hyn gyda’i gilydd.
  2. Cynlluniau ar gyfer mynediad anghyfyngedig at bibellau a pholion Openreach. Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol[1] i Openreach, sy’n berchen ac yn cynnal prif rwydwaith band eang y DU, ganiatáu i ddarparwyr eraill ddefnyddio ei bolion telegraff a’i bibellau tanddaearol i osod eu ceblau ffibr eu hunain. Mae’r mesur hwn yn gallu torri’r costau dechreuol sy’n gysylltiedig ag adeiladu rhwydweithiau ffibr llawn yn eu hanner, ac mae wedi’i gyfyngu i gwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau i gwsmeriaid preswyl a busnesau bach yn bennaf. Ond bydd Ofcom yn ymgynghori ynghylch cynlluniau i ymestyn mynediad at bibellau a pholion Ofcom i gwmnïau sy'n cynnig llinellau cyflym i fusnesau mawr, yn ogystal â rhwydweithiau sy’n cludo data i weithredwyr ffonau symudol. Bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i gwmnïau a mwy o gyfleoedd iddynt wneud elw ar eu buddsoddiadau.
  3. Dulliau rheoleiddio gwahanol mewn gwahanol rannau o’r wlad. Rydyn ni’n bwriadu cael dull mwy hyblyg o reoleiddio, i adlewyrchu’r ffordd y mae llawer o gwmnïau ffibr yn cystadlu mewn ardal benodol. Mae’r dull hwn yn gallu rhoi cymorth i ddarparu band eang ffibr llawn yn eang ledled y DU, hyd yn oed yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell. Pan fydd rhwydweithiau’n dechrau cystadlu â’i gilydd, bydd cyfle i Ofcom reoleiddio.
  4. Ymestyn cyfnod y gwaith rheoleiddio o dair blynedd i bum mlynedd. I helpu i ddarparu rhagor o sicrwydd i fuddsoddwyr, byddwn ni’n ymestyn cyfnod ein hadolygiadau o'r farchnad telegyfathrebiadau o dair blynedd i bum mlynedd o leiaf.

Mae’r cynlluniau hyn yn dilyn y cyfeiriad a osodwyd gan Ofcom yn ein Hadolygiad Strategol o Gyfathrebu Digidol yn 2016, a oedd yn canolbwyntio ar hybu buddsoddiad mewn ffibr llawn. Y cynigion heddiw yw'r cam nesaf ar y llwybr hwnnw, sef creu’r amodau i gwmnïau fuddsoddi mewn rhwydweithiau modern.

Bydd y cynlluniau’n gymorth i gefnogi uchelgais y Llywodraeth i 15 miliwn o gartrefi gael mynediad at fand eang ffibr llawn erbyn 2025. Rydyn ni'n croesawu canfyddiad y Llywodraeth o’i Hadolygiad o Seilwaith Telegyfathrebiadau ar gyfer y Dyfodol mai cystadleuaeth yw'r ffordd orau o hybu buddsoddiad, ac rydyn ni’n parhau i weithio’n agos ar y ffordd orau o sicrhau bod rhwydweithiau digidol y DU yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae Ofcom hefyd yn bwriadu parhau i ddilyn yr egwyddor ‘menter deg’ ar gyfer buddsoddiadau Openreach mewn ffibr llawn. Mae’r egwyddor honno’n cydnabod bod angen i gwmnïau wneud elw teg ar fuddsoddiadau hirdymor sydd â risgiau. Mae hyn yn cyd-fynd â dull Ofcom o ddelio â buddsoddiadau sylweddol mewn rhwydweithiau, megis cyflwyno band eang cyflym iawn.

Y camau nesaf

  • Mynediad at bibellau a pholion. Rydyn ni’n bwriadu ymgynghori yn yr hydref ynghylch mynediad anghyfyngedig at bibellau a pholion Openreach, gyda’r nod o fod wedi sefydlu unrhyw fesurau newydd erbyn dechrau 2020.
  • Adolygiad terfynol o’r farchnad fusnes. Bydd y rheoliadau cyfredol o dan yr Adolygiad o'r Farchnad Cysylltedd Busnes, sy’n ymdrin â’ ‘llinellau cyflym ar brydles’, sef y cysylltiadau chapasiti a chyflym a ddefnyddir gan fusnesau, yn dod i ben yn Ebrill 2019.  Felly, rydyn ni’n bwriadu sefydlu rhyw fath o waith rheoleiddio ar gyfer llinellau ar brydles i fod yn gymwys am ddwy flynedd o fis Ebrill 2019 ymlaen, sef y cyfnod cyn i’n dod rheoleiddio newydd ddod i rym.
  • Dull newydd o reoleiddio. Rydyn ni’n bwriadu ymgynghori yn yr hydref ynghylch diffinio ardaloedd fel ardaloedd cystadleuol, ardaloedd a allai gystadlu, neu ardaloedd anghystadleuol. Erbyn 2021, rydyn ni'n bwriadu bod wedi sefydlu gwaith rheoleiddio i ymdrin â mynediad cyfanwerthol at rwydweithiau band eang sy’n amrywio yn ôl ardaloedd. Bydd y gwaith rheoleiddio hwn yn cymryd lle Adolygiad Ofcom o'r Farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol, a bydd ar gael am bum mlynedd o leiaf. Yn ystod 2019 a 2020, byddwn ni'n ymgynghori ynghylch cynigion cyn y rheoliad newydd hwn.

Mae Ofcom hefyd yn gyfrifol am weithredu rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol band eang y Llywodraeth. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sydd â mynediad gwael at fand eang ar hyn o bryd, yn cael hawl gyfreithiol i ofyn am gysylltiad teilwng. Rydyn ni eisoes wedi galw am ddatganiadau o ddiddordeb gan ddarparwyr sydd eisiau darparu hyn, a byddwn ni'n ymgynghori yn nes ymlaen eleni ynghylch y broses o ddynodi’r darparwr.

Nodiadau I olygyddion

  1. Mae rheoliadau i sicrhau bod Openreach yn darparu mynediad i gwmnïau eraill at ei bibellau a’i bolion ar gael yn Adolygiad Ofcom o'r Farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol.