Prisiau clir a theg am ffonau ar gyfer defnyddwyr symudol
Heddiw mae Ofcom wedi nodi cynigion i sicrhau prisiau tecach, mwy tryloyw i gwsmeriaid ffonau symudol sy’n talu am y ffôn ei hun ac am amser ar yr awyr o dan yr un contract.
Mae prynu ffôn gyda chontract symudol yn ffordd boblogaidd o gael ffôn newydd, gan ei fod yn galluogi pobl i ledaenu’r gost dros sawl mis. Mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu bod tua dau o bob tri chwsmer sy’n talu’n fisol am ei ffôn symudol, ar gontract sy’n ‘bwndelu’ cost y ffôn ei hun â chost defnyddio’r ffôn, a elwir yn amser ar yr awyr.
Er bod y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn cael gwerth da am arian, mae Ofcom yn poeni bod lleiafrif sylweddol yn parhau i dalu'r un pris ar ôl diwedd cyfnod sylfaenol eu contract (18 neu 24 mis yn aml). Rydym yn amcangyfrif bod 1.5 miliwn o ddefnyddwyr yn y sefyllfa hon ac yn dal i dalu rhandaliadau am ffôn maen nhw eisoes wedi talu amdano.
Pan fydd cwsmer ffôn symudol yn ymrwymo i gontract wedi’i fwndelu, rydym yn poeni hefyd nad yw darparwyr yn dryloyw am briod gostau’r ffôn ei hun a’r amser ar yr awyr - felly ni all cwsmeriaid ddweud faint maen nhw’n ei dalu am yr elfennau gwahanol o’u contract.
Rydyn ni’n meddwl bod hyn yn annerbyniol. Dylai defnyddwyr allu adnabod y nwyddau a’r gwasanaethau maent yn talu amdanynt, fel ei bod yn gallu gwneud penderfyniad gwybodus am yr hyn maent yn ei brynu-a beth i wneud pan mae cyfnod sylfaenol eu contract yn dod i ben.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda darparwyr symudol i archwilio datrysiad i’r broblem hon, a allai gael ei roi yn ei le yn gyflym heb yr angen am reoleiddio ffurfiol. Fodd bynnag, nid yw’r darparwyr wedi cynnig ymrwymiadau digonol na chadarn. Felly, rydym yn cyflwyno cynigion i reoleiddio er mwyn mynd i’r afael â sut mae cytundebau amser ar yr awyr a ffonau yn cael eu gwerthu i bobl.
Sicrhau bargen well
Heddiw rydym yn ymgynghori am ddau opsiwn posibl.
Yn gyntaf, bod yn fwy tryloyw. Byddai hyn yn cynnwys sicrhau bod cwmnïau symudol yn nodi prisiau y gwahanol rannau o’r pecyn symudol mae cwsmer yn ei brynu. Dylai’r wybodaeth hon gael ei darparu yn glir ac yn dryloyw adeg y pwynt gwerthu ac yna unwaith eto ar ddiwedd y cyfnod contract safonol. Mae hyn yn cyfrannu at ein cynlluniau presennol sy’n ei gwneud hi’n ofynnol bod darparwyr telathrebu yn anfon negeseuon i gwsmeriaid pan mae eu contract cychwynnol yn dod i ben.
Rydym hefyd yn archwilio pa wybodaeth bellach dylid ei darparu pan mae’r cyfnod cychwynnol yn dod i ben. Er enghraifft, gwneud hi’n angenrheidiol bod darparwyr yn gorfod esbonio i gwsmeriaid pa fargeinion ‘SIM-yn unig’ y gallent symud iddynt a chadw eu ffôn a faint gallent arbed wrth wneud hynny. Byddai hyn yn galluogi pobl i gymharu pecynnau a gwneud penderfyniad gwybodus am beth i’w wneud nesaf.
Yr ail opsiwn yw ei gwneud yn ofynnol bod darparwyr yn cyflwyno tariffau tecach yn awtomatig ar ddiwedd cyfnod sylfaenol y contract.
Mae hyn yn golygu y byddai’r cwmnïau symudol yn symud cwsmeriaid i fargen sydd wedi ei rhagosod pan mae eu contract cyfnod sylfaenol yn dod i ben, er mwyn eu bod yn gorffen talu am eu ffôn ac yn talu am eu hamser ar yr awyr yn unig.
Er enghraifft, gallai darparwyr symud cwsmeriaid i fargen 30 diwrnod SIM-yn unig ar ddiwedd eu cyfnod contract sylfaenol. Oherwydd bod yna bosibilrwydd bod y bargeinion sydd ar gael yn wahanol heb yr un nodweddion a gwasanaethau ag oedd yn y tariff blaenorol, gallai’r darparwyr ddewis y fargen ar gyfer cwsmeriaid sydd mwyaf tebyg iddo.
Mae’r ymgynghoriad heddiw yn edrych ar rai o’r heriau i’r dull hwn o weithredu, yn cynnwys cwsmeriaid sy’n erbyn cael eu gwasanaeth wedi eu newid heb eu caniatád; eu bod o bosib yn colli gwasanaethau penodol; neu’n cael biliau uchel annisgwyl os nad yw’r fargen newydd yn cynnwys yr un lwfansau. Rydym wedi nodi ffyrdd i leihau’r risgiau hyn, fel rhoi’r opsiwn i gwsmeriaid i optio allan.
Neu gallai’r darparwyr leihau cost misol y contract i adlewyrchu’r ffaith bod y cwsmer wedi talu am y ffôn yn barod.
Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom, “Dylai cwsmeriaid symudol gael y fargen orau posibl. Rydym yn poeni nad yw pobl yn cael gwybod neu’n methu deall yr hyn maent yn ei dalu amdano.
“Felly rydym yn ehangu ein gwaith ar ran cwsmeriaid symudol i sicrhau bod eu costau ffôn yn glir ac yn deg -nid yn unig pan maen nhw’n cychwyn contract, ond hefyd pan mae’r cyfnod sylfaenol wedi dod i ben.”
Camau nesaf
Wrth ystyried bob dewis, byddwn yn pwyso a mesur yr angen i gwsmeriaid i wneud dewisiadau gwybodus gyda’r angen i osgoi canlyniadau anfwriadol -fel prisiau uwch mewn meysydd eraill. Ein nod yw sicrhau bod cwsmeriaid symudol yn cael y fargen orau posibl yn gyffredinol.
Rydym yn gofyn am sylwadau ar ein cynigion gan grwpiau defnyddwyr, y cyhoedd, y diwydiant a phartïon eraill sydd â diddordeb erbyn 7 Tachwedd. Yna, byddwn yn ystyried yr ymatebion a’r dystiolaeth cyn cyhoeddi cynigion manwl i fwrw ymlaen â nhw yn y flwyddyn newydd.
Mae ymgynghoriad heddiw yn rhan o raglen waith ehangach Ofcom i sicrhau bod cwsmeriaid symudol, llinell dir a band eang yn cael bargen well. Yn y misoedd diwethaf rydym wedi gorffen ein gwaith mewn meysydd fel newid darparwr contract symudol yn haws ac iawndal awtomatig ar gyfer cwsmeriaid llinell dir a band eang pan aiff pethau o’i le.
Y DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Adroddiad Ofcom: Tueddiadau o ran prisiau gwasanaethau cyfathrebu yn y Deyrnas Unedig (PDF, 239.7 KB), Mai 2018