Ofcom yn lansio teclyn gwirio Wi-Fi er mwyn gwella band eang
01 December 2015
- Ap syml ar gyfer cyfrifiaduron llechen a ffonau symudol er mwyn profi eich cysylltiad Wi-Fi
- Gallai mwy na chwarter miliwn o gartrefi a swyddfeydd ledled Cymru wella eu cysylltiad di-wifr
- Gwelliannau sylweddol o ran mynediad y genhedlaeth nesaf a band eang cyflym iawn - y ddarpariaeth uchaf o wasanaethau band eang cyflym iawn o blith y gwledydd datganoledig
- Darpariaeth band eang cyflym iawn yng Nghymru wledig i fyny o 8% i 31% o eiddo
Gall pobl brofi i weld a yw eu Wi-Fi yn y cartref yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl drwy ddefnyddio ap syml ond pwerus sy’n cael ei lansio gan Ofcom heddiw.
Mae Teclyn Gwirio Wi-Fi Ofcom, sy’n gweithio ar ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen, yn galluogi defnyddwyr a busnesau i ddarganfod ansawdd eu signal rhyngrwyd di-wifr lle bynnag y maent yn byw neu’n gweithio - yn ogystal â chynnig cyngor ymarferol er mwyn helpu pobl i fanteisio i'r eithaf ar eu cysylltiad.
Yn ôl ymchwil a gyhoeddir heddiw gan Ofcom, mae’n bosib nad yw band-eang di-wifr yn gweithio i’r graddau y gallai mewn dros gwarter miliwn o gartrefi a swyddfeydd ledled Cymru, neu mewn mwy nag un ym mhob pump o gartrefi yn y DU. Fel arfer, achosir hyn gan y ffordd mae’r Wi-Fi wedi’i osod yn y cartref, sy’n golygu bod y band-eang yn arafach.
Gallai fod yn cael ei achosi gan rywbeth mor syml â dyfeisiau electronig eraill yn tarfu arno, megis microdon, monitor babanod, lamp - neu hyd yn oed oleuadau Nadolig.
Mae’r ap yn profi’r system Wi-Fi ac, os yw’n darganfod problem, bydd yn cynnig rhai awgrymiadau i ddatrys hyn a gwella’r band-eang. Mae’r ap ar gael i'w lwytho i lawr yn rhad ac am ddim o’r Apple App Store a Google Play (chwiliwch am y ‘Wi-Fi Checker’).
Gwell cysylltiad ar gyfer y DU
Mae’r ap newydd yn cael ei lansio law yn llaw ag adroddiad Ofcom Cysylltu’r Gwledydd 2015 - sef y dadansoddiad mwyaf awdurdodol a manwl o’r rhwydweithiau telecom a di-wifr yn y DU a’i gwledydd unigol.
Yn yr adroddiad eleni, gwelir cynnydd da o ran lledaenu gwasanaethau a’r defnydd ohonynt wrth iddynt ddod yn rhan allweddol o fywydau gwaith a phersonol pobl. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cydnabod bod mwy i'w wneud o hyd; yn enwedig o ran gwella argaeledd ac ansawdd y gwasanaeth band-eang a symudol ar gyfer defnyddwyr a busnesau ledled y DU.
Heddiw, am y tro cyntaf, mae Ofcom yn cyhoeddi adroddiadau unigol ar gyfer pob un o wledydd unigol y DU, lle mae’r gwasanaethau cyfathrebu’n amrywio a lle mae gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae rôl flaenllaw o ran ymyriadau cyhoeddus.
Darpariaeth band-eang yn carlamu ymlaen yng Nghymru
Gwelwyd gwelliannau dramatig yng Nghymru o ran mynediad y genhedlaeth nesaf a band eang cyflym iawn gyda’r ddarpariaeth uchaf o wasanaethau band eang cyflym iawn (SFBB) o blith y gwledydd datganoledig.
Bellach, mae saith deg naw y cant o eiddo yng Nghymru yn gallu derbyn gwasanaethau cyflym iawn ar gyflymder o 30Mbit/s (i fyny o 55% yn 2014). Mae hyn yn cymharu â 77% yng Ngogledd Iwerddon, 73% yn yr Alban a 83% ar gyfer y DU i gyd. Mae ardaloedd gwledig Cymru yn benodol wedi elwa o hyn, gyda’r ddarpariaeth yn codi o 8% yn 2014 i 31% o eiddo yn 2015.
Rhaglen Cyflymu Cymru gan Lywodraeth Cymru sy’n bennaf gyfrifol am y cynnydd hwn, sy’n ymestyn i bob cornel o Gymru.
Hefyd, gwelwyd cynnydd canrannol sylweddol o un flwyddyn i'r llall yng Nghymru o ran cyfartaledd cyflymder llwytho i lawr. Gwelwyd cyflymiad o 5 Mbit/s i gyflymder gorau ar gyfartaledd o 23 Mbit/s, sy’n gynnydd o 28%. Mae cyflymder llwytho i fyny yng Nghymru ar gyfartaledd yn 3.1 Mbit/s, o’i gymharu â chyfartaledd y DU sy’n 3.5 Mbit/s.
Mae’r adroddiad heddiw, Cysylltu'r Gwledydd - Cymru yn nodi serch hynny nad yw cartrefi yn y wlad hon sydd â mynediad at wasanaethau cyflym iawn wedi bod mor barod â gweddill y DU i fanteisio ar becynnau cyflym iawn.
Mae cartrefi Cymru hefyd yn defnyddio llai o ddata na’r cyfartaledd ar draws y DU. Bob mis ar gyfartaledd yng Nghymru, defnyddir 77.7GB o ddata. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd ledled y DU, sy’n 82.3GB y mis, ac mae dadansoddiadau cynharach Ofcom yn awgrymu bod cyflymder is yn gallu dylanwadu ar sut mae pobl yn defnyddio rhwydweithiau.
Mae tua un ym mhob tri thy yng Nghymru sy’n gallu cael band-eang cyflym iawn wedi manteisio arno. Mae pedwar ar hugain y cant o eiddo mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau cyflym iawn ar gael (79%) wedi manteisio ar y gwasanaeth.
Cyflymder band-eang mewn ardaloedd gwledig
Yn yr ardaloedd gwledig y mae’r nifer fwyaf o linellau sydd ar hyn o bryd yn methu â chynnal cyflymder dros 10 Mbps. Yng Nghymru, ni all 19% o eiddo mewn ardaloedd trefol a 40% o eiddo mewn ardaloedd gwledig gael cyflymder sy’n fwy na neu’n hafal i 10Mbps. Mae nifer yr eiddo sy’n methu â chael 10 Mbps mewn ardaloedd gwledig yn fwy na dwbl y ffigur mewn ardaloedd trefol.
Nid oes llawer o newid wedi bod o ran y gwahaniaeth rhwng y cyflymder band-eang sydd ar gael mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig; fodd bynnag, bydd y bwlch hwn yn cynyddu fwy-fwy wrth i ardaloedd trefol symud at gyflymder gwibgyswllt (ultrafast).
Mae Abertawe yn un o'r ardaloedd treialu ar gyfer technoleg gwibgyswllt BT, a elwir yn G.fast. Gall hwn ddarparu cyflymder hyd at 500Mbps ac mae’n seiliedig ar y dechnoleg gyflym iawn sy’n cael ei ledaenu ar draws Cymru.
Heriau darpariaeth symudol yng Nghymru
A hithau’n enwog am ei mynyddoedd a’i dyffrynoedd, mae tirwedd wledig a sensitif Cymru yn ogystal ag ardaloedd o ddwysedd poblogaeth isel, yn peri heriau technegol eithriadol o ran darparu signal ffonau symudol. Mae’r adroddiad Cysylltu’r Gwledydd yn dangos bod mwy o waith i'w wneud ar ddarpariaeth signal symudol ac ansawdd y gwasanaeth yng Nghymru.
Nid yw darpariaeth gwasanaethau llais 2G wedi symud rhyw lawer dros y flwyddyn ddiwethaf ar 90%, gyda chynnydd cymharol fach yn narpariaeth llais a data 3G, o 65% yn 2014 i 67% yn 2015. Disgwylir i hyn gynyddu yn dilyn y cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a’r prif weithredwyr i sicrhau bod darpariaeth ddaearyddol gwasanaethau 2G yn cyrraedd 90% erbyn 2017. Fodd bynnag, nid yw’r cytundeb hwn yn pennu targedau ar gyfer y gwledydd unigol. Serch hynny, mae Ofcom yn amcangyfrif y bydd darpariaeth ddaearyddol 2G/ 3G yng Nghymru (gan bob un o'r pedwar gweithredwr) yn 83%.
Ar hyn o bryd, y ffigur yw 67.25%, o’i gymharu â’r cyfartaledd yn y DU sy’n 74.8%. Dylid nodi bod Ofcom yn paratoi i ddyfarnu rhagor o sbectrwm yn y flwyddyn nesaf a allai gael ei ddefnyddio gan weithredwyr symudol i gynyddu capasiti.
Ceir rhai ardaloedd yng Nghymru o hyd lle nad oes darpariaeth symudol ar gael gan bob un o'r gweithredwyr rhwydwaith, heb sôn am yr ardaloedd di-gyswllt hynny heb ddim darpariaeth o gwbl gan neb.
O safbwynt dearyddol, mae gan Gymru fwy o fannau di-gyswllt llais (15%) na’r DU (13%). Ceir patrwm tebyg gyda darpariaeth signal data. Tua'r un lefel o fannau heb wasanaeth data sydd yng Nghymru ag sydd yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw, sef bod 21% o'r ehangdir heb wasanaeth data gan yr un gweithredwr.
Teclyn profi darpariaeth symudol
Heddiw mae Ofcom hefyd wedi gwneud gwelliannau i’w Fap Gwirio Darpariaeth Symudol i gynnwys nodweddion newydd ar gyfer pobl i fesur ansawdd eu gwasanaeth symudol. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i nesau at leoliad penodol ar fap o'r DU, neu deipio enw lle neu god post, er mwyn cael data ar y ddarpariaeth ar gyfer pob rhwydwaith symudol - i lawr i 100 metr sgwâr.
Mae’r safle hefyd yn caniatau defnyddwyr i ddarparu adborth er mwyn gwella’r mapiau fel eu bod yn adlewyrchu gwir brofiad defnyddwyr ar lawr gwlad ledled y DU mor gywir a phosibl.
4G yn y trefi a’r dinasoedd mwyaf poblog
Mae’r gwaith o gyflwyno gwasanaethau band-eang symudol 4G wedi mynd rhagddo’n dda mewn ardaloedd poblog ac mae 77% o eiddo ledled y DU bellach yn gallu derbyn signal 4G gan o leiaf un rhwydwaith.
Mae Ofcom yn disgwyl y bydd hyn yn cynyddu’n sylweddol dros y flwyddyn nesaf, ac mae wedi gosod rheolau i sicrhau y gall 98% o eiddo dderbyn signal 4G dan do erbyn 2017. At hynny, mae gan O2 ddyletswydd i sicrhau darpariaeth ddata ar y rhwydwaith 4G sy'n gwasanaethu 95% o bob un o'r gwledydd erbyn diwedd 2017, ond cyfeirio at eiddo yw hwn yn hytrach nag at ardal ddaearyddol.
Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: “Mae canfyddiadau heddiw’n galonogol, ond mae mwy i’w wneud i sicrhau gwell gwasanaethau cyfathrebu i ddefnyddwyr yng Nghymru.”
“Mae disgwyliadau defnyddwyr yn uwch heddiw nag yr oeddent rai blynyddoedd yn ôl. Mae pobl am allu defnyddio eu dyfeisiau symudol yn effeithiol lle bynnag yr ydynt - yn y cartref, yn y gwaith ac wrth fynd o un lle i’r llall. Yr her i Ofcom yw i barhau i gynnal cystadleuaeth ac arloesedd ar yr un llaw, ac ar y llaw arall i wella darpariaeth ledled Cymru, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf gwledig.”
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION:
- O dan adran 134A Deddf Gyfathrebiadau 2003 (‘y Ddeddf’), rhaid i Ofcom gyflwyno adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol bob tair blynedd yn disgrifio cyflwr y rhwydweithiau a’r gwasanaethau cyfathrebu electronig yn y DU.
- Cyhoeddwyd adroddiadau llawn yn 2011 a 2014 ac eleni rydym yn cyhoeddi diweddariad - yr Adroddiad Cysylltu’r Gwledydd - sy’n canolbwyntio ar y meysydd hynny sy’n profi’r newid cyflymaf, yn cynnwys darpariaeth rhwydweithiau sefydlog, symudol a darlledu, a chapasiti’r rhwydweithiau band-eang sefydlog a symudol.
- Am y tro cyntaf rydym yn cyhoeddi adroddiadau unigol ar gyfer pob un o wledydd unigol y DU, lle mae’r gwasanaethau cyfathrebu’n amrywio a lle mae gweinyddiaethau datganoledig yn chwarae rôl flaenllaw o ran ymyriadau cyhoeddus.