Ofcom yn bwriadu gwahardd cwmnïau ffonau symudol rhag gwerthu ffonau sydd ‘wedi cloi’

17 Rhagfyr 2019

  • Mae rheolau newydd yn cael eu cynnig hefyd a fydd yn ei gwneud hi’n haws newid band eang

Byddai cwmnïau ffonau symudol yn cael eu gwahardd rhag gwerthu ffonau sydd ‘wedi cloi’, o dan amrywiaeth o gynlluniau newydd gan Ofcom i’w gwneud hi’n haws byth newid.

Mae cwmnïau sy’n cynnwys BT/EE, Tesco Mobile a Vodafone yn dal i werthu ffonau symudol nad oes modd eu defnyddio ar rwydweithiau eraill oni bai eu bod yn cael eu datgloi, sy’n gallu costio tua £10. Mae ymchwil Ofcom wedi canfod bod dros ddwy ran o dair o bobl a benderfynodd beidio â newid wedi dweud bod hyn yn rhywbeth a oedd wedi llywio eu penderfyniad.[1]

Mae bron i hanner y cwsmeriaid sy’n ceisio datgloi eu dyfais yn teimlo ei bod hi’n anodd gwneud hynny. Er enghraifft, efallai eu bod yn wynebu oedi hir cyn cael y cod angenrheidiol i ddatgloi eu dyfais; efallai y byddant yn cael cod sydd ddim yn gweithio; neu fe allent golli gwasanaeth os na fyddent yn sylweddoli bod y ddyfais wedi’i chloi cyn iddynt geisio newid.

Felly, rydym yn cynnig gwahardd cwmnïau ffonau symudol rhag gwerthu ffonau sydd wedi cloi, er mwyn i bobl allu symud i rwydwaith gwahanol gyda’r un ffôn yn ddidrafferth.

Mae hyn yn dilyn diwygiadau mawr, a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf, sy’n golygu bod cwsmeriaid ffonau symudol nawr yn gallu newid gweithredwr dim ond drwy anfon neges destun yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Gall newid darparwr ffôn symudol fod yn rhwystredig iawn.

“Drwy ryddhau defnyddwyr symudol o ffonau sydd wedi'u cloi, byddai ein cynlluniau yn arbed amser, ymdrech ac arian i bobl ac yn eu helpu i gael gwell bargen.”

Newid band eang yn symlach

Mae Ofcom hefyd yn bwriadu ei gwneud hi’n haws newid rhwng rhwydweithiau band eang, fel rhan o becyn eang o fesurau diogelu i gwsmeriaid sy’n adlewyrchu rheolau Ewropeaidd newydd.[2]

Ar hyn o bryd, mae cwsmeriaid sy'n newid rhwng darparwyr fel BT, Sky a TalkTalk ar rwydwaith copr Openreach eisoes yn gallu dilyn proses syml, pan fydd eu darparwr newydd yn rheoli'r newid.

Ond nid yw hyn wedi bod ar gael i gwsmeriaid sy’n symud at rwydwaith band eang gwahanol – fel CityFibre, Gigaclear, Hyperoptic neu Virgin Media. Mae angen i’r cwsmeriaid hyn gysylltu â’u darparwr presennol a’u darparwr newydd i gydlynu’r newid a sicrhau nad oes bwlch rhwng diwedd yr hen wasanaeth a dechrau’r un newydd.

Mae ein hymchwil yn dangos bod dros bedwar person o bob deg (43%) yn penderfynu peidio â newid oherwydd eu bod yn poeni am drefnu dau wasanaeth gwahanol i ddechrau ac i ddod i ben ar yr adeg iawn. Mae gorfod siarad â dau gwmni gwahanol yn llywio dros draean (37%) o bobl i beidio â bwrw ymlaen. Ac mae nifer tebyg (35%) yn poeni am orfod talu am eu hen ddarparwr a’u darparwr newydd ar yr un pryd.[3]

O dan ein rheolau arfaethedig newydd, byddai’n haws i bob cwsmer band eang newid, boed nhw’n newid rhwng rhwydweithiau gwahanol, neu wasanaeth ffibr llawn ar yr un rhwydwaith.

Byddai hefyd angen i ddarparwyr roi iawn i gwsmeriaid petai pethau’n mynd o chwith a'u bod heb wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith. Ac rydym yn cynnig gwahardd prisiau cyfnod rhybudd y tu hwnt i’r dyddiad newid.[4]

Galwadau fideo 999

Fel cam gweithredu pellach i sicrhau tegwch i gwsmeriaid, rydym yn cynnig rheolau newydd a fydd yn golygu bod defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yn gallu cysylltu â’r gwasanaethau brys drwy ddefnyddio galwadau fideo.

O dan y cynigion hyn, byddai dehonglydd mewn canolfan alwadau yn cyfieithu rhwng Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg. Byddai’r gwasanaeth am ddim ac ar gael 24/7 – gan helpu i wneud cyfathrebiadau brys yn gyflymach ac yn fwy cywir ar gyfer defnyddwyr byddar a’r gwasanaethau brys. [5]

Tegwch i gwsmeriaidTegwch i gwsmeriaid

Mae gan Ofcom raglen helaeth i helpu pobl siopa gyda hyder, gwneud dewisiadau doeth, gallu newid darparwr yn hawdd a chael bargen deg. Mae hyn hefyd yn cynnwys:

  • O fis Chwefror nesaf ymlaen, rhaid rhoi gwybod i gwsmeriaid band eang, ffôn a theledu pan fydd eu contract cychwynnol ar fin dod i ben, a rhaid dangos y bargeinion gorau sydd ar gael iddynt. Bydd pobl sy’n dewis aros gyda’u darparwr heb ymrwymo i gontract newydd yn cael manylion am fargeinion gorau’r cwmni bob blwyddyn.[6]
  • Gwybodaeth glir a gonest i siopwyr band eang – cyn iddynt ymrwymo i gontract – am y cyflymder y byddant yn ei gael.
  • Prisiau tecach. Yn dilyn ein hadolygiadau o brisiau band eang a symudol, mae nifer o gwmnïau band eang a symudol mwyaf y DU wedi ymrwymo i brisiau tecach ar gyfer cwsmeriaid y mae eu cytundeb cychwynnol wedi dod i ben.
  • Rydym yn taflu goleuni’n rheolaidd ar ba brif ddarparwyr telegyfathrebu a theledu drwy dalu yw’r gorau a gwaethaf o ran gwasanaeth i gwsmeriaid.
  • Heddiw rydym yn ymgynghori ynghylch newidiadau i’n cynllun achredu ar gyfer offer cymharu prisiau, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn dal i weithio i gwsmeriaid yn y farchnad ddigidol.

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae O2, Sky, Three a Virgin Mobile i gyd yn dewis gwerthu dyfeisiau heb eu cloi i’w cwsmeriaid.

2. Mae cynigion heddiw yn rhan o’n gwaith i weithredu’r Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd newydd. Daeth i rym ar 20 Rhagfyr 2018 ac mae gan aelod wladwriaethau’r UE hawl tan 21 Rhagfyr 2020 i’w throi yn gyfraith genedlaethol. Mae rhai o elfennau eraill y cod rydym am eu gweithredu yn cynnwys newidiadau i'r wybodaeth mae cwsmeriaid yn ei chael cyn cytuno ar gontract, a'u hawl i adael contract cyn y dyddiad gorffen.

3. Traciwr profiad newid Ofcom 2018. Mae’r data’n cyfeirio at bobl sy’n bwndelu eu gwasanaethau llinell dir a band eang gyda’i gilydd, y rheini sy’n pecynnu eu teledu drwy dalu gyda’r ddau wasanaeth hyn, a chwsmeriaid sy’n prynu eu teledu drwy dalu ar wahân.

4. Ym mis Gorffennaf, roeddem wedi gwahardd darparwyr ffonau symudol rhag codi tâl am gyfnodau rhybudd sy’n rhedeg ar ôl y dyddiad newid. Rydym yn awyddus nawr i ehangu hyn i newid cyflenwyr band eang.

5. Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth yn Iaith Arwyddion Prydain ynghylch ein cynigion, ac rydym hefyd yn croesawu ymatebion i’n hymgynghoriad drwy ddefnyddio iaith arwyddion.

6. Bydd yr holl gwsmeriaid nad ydynt mewn contract cyfnod penodol, fel cwsmeriaid talu wrth ddefnyddio a SIM yn unig, yn cael yr hysbysiadau blynyddol hyn hefyd.