Cael gwared ar arferion annheg mewn telegyfathrebiadau a theledu
- Canllawiau newydd i helpu i sicrhau bod cwmnïau telegyfathrebiadau a theledu yn trin cwsmeriaid yn deg
- Ofcom yn amlinellu gwaith i fynd i'r afael â'r gost o ddryswch yn y farchnad
Canllawiau newydd sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw i gwmnïau band eang, ffôn a theledu drwy dalu, yn nodi sut mae Ofcom yn bwriadu rhoi diwedd ar arferion annheg.
Mae Fframwaith Tegwch Ofcom [1] wedi ei ddylunio er mwyn egluro i gwmnïau sut y byddwn ni'n ystyried a yw eu harferion a'r ffordd maen nhw'n trin eu cwsmeriaid yn deg, a lle gallai fod angen i ni gamu i mewn.
Mae'r fframwaith arfaethedig yn ceisio cefnogi cwmnïau yn eu gwaith i wella'r gwasanaeth maent yn ei gynnig i gwsmeriaid, a rhoi tegwch wrth galon eu busnes.
Atal arferion niweidiol
Mae'r Fframwaith Tegwch yn tynnu sylw at y math o arferion y mae Ofcom yn fwyaf tebygol o weld fel rhai annheg, ac a allai arwain at gymryd camau rheoleiddio. Un enghraifft yw cwmnïau'n ceisio camarwain eu cwsmeriaid, neu fanteisio ar y rheini sy’n llai tebygol o allu dewis y fargen orau ar gyfer eu hanghenion.
Mae'r fframwaith hefyd yn nodi'r mathau o faterion y byddwn yn eu harchwilio pan fyddwn ni'n asesu a yw cwmni yn trin ei gwsmeriaid yn deg ai peidio. Mae'r rhain yn cynnwys pwysigrwydd y gwasanaeth dan sylw; lefel y niwed posibl; a pha gwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio – er enghraifft, cwsmeriaid a allai fod mewn amgylchiadau bregus.
Sicrhau Tegwch i Gwsmeriaid
Y Fframwaith yw'r cam diweddaraf yn rhaglen Tegwch i Gwsmeriaid Ofcom. Yn ddiweddar, mae pob un o ddarparwyr mwyaf y DU wedi ymrwymo i roi tegwch yn gyntaf a sicrhau bod eu cwsmeriaid yn cael bargen deg.
Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi diweddariad i'r gwaith hwn. Mae’r cynnydd hyd yma yn cynnwys:
- lansio adolygiad i sicrhau bargeinion sy’n gliriach ac yn decach i bobl sy’n talu am wasanaethau symudol a ffonau gyda’i gilydd. Mae hyn yn flaenoriaeth i Ofcom, ac rydyn ni’n disgwyl ymgynghori ar gynigion terfynol yn yr wythnosau nesaf;
- Adolygu arferion prisio band eang i weld pam fod rhai pobl yn talu mwy nag eraill – yn enwedig y rheini mewn amgylchiadau bregus. Byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau yn yr hydref;
- mae cynllun iawndal newydd i roi arian yn ôl i gwsmeriaid llinell sefydlog a band eang pan fydd pethau'n mynd o’i le;
- gwybodaeth glir a gonest i siopwyr band eang – cyn iddynt ymrwymo i gontract – am y cyflymder y byddant yn ei gael;
- ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau roi gwybod i gwsmeriaid pan fo eu contract cychwynnol yn dod i ben, ac yn egluro’r fargen orau sydd ganddynt i'w chynnig;
- galluogi cwsmeriaid ffôn symudol newid eu darparwr gyda neges destun o 1 Gorffennaf ymlaen.
Mynd i'r afael â chost dryswch
Mae Ofcom wedi edrych ar filiynau o dariffau band eang a ffonau symudol i asesu pa arferion prisio sy'n annheg.
Mae canfyddiadau’r ymchwil yn dangos bod y farchnad gymhleth, gydag amrywiaeth eang o sut mae cwsmeriaid hirdymor yn cael eu trin. Er enghraifft, mae rhai darparwyr band eang yn codi mwy ar gwsmeriaid hirdymor nag ar gwsmeriaid newydd, tra bod darparwyr eraill yn cynnig eu cynigion gorau i’w cwsmeriaid hirdymor – gan gynnig arbedion sylweddol hefyd ar gael os yw pobl yn ymrwymo i gytundebau newydd gyda'r un darparwr. O ran gwasanaeth ffonau symudol, byddai mwy na chwarter y bobl sy’n tanysgrifio’n fisol yn hirdymor yn talu mwy petaent yn newid i gynllun tebyg SIM-yn-unig.
Mae'r amrywiadau hyn yn golygu bod costau uchel o ddryswch ymysg llawer o gwsmeriaid. Rydyn ni’n mynd i'r afael â hyn drwy fynnu bod darparwyr band eang, llinell sefydlog, ffonau symudol a theledu drwy dalu yn cysylltu â'u cwsmeriaid pan fo eu contract cychwynnol yn dod i ben – a bob blwyddyn ar ôl hynny – gan esbonio pa ddewisiadau sydd ar gael iddynt, a gan amlinellu’r fargen orau sydd ganddynt i'w chynnig.
Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fesurau sydd wedi'u targedu ar gyfer tegwch, ar sail ein tystiolaeth, yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae ein rhaglen tegwch yn sicrhau manteisio go iawn i gwsmeriaid – gan roi arian yn ôl yn eu pocedi a helpu mwy o bobl i gael bargeinion sy’n decach.
“Dylai pawb ddisgwyl cael eu trin yn deg gan eu darparwr, ond nid yw hynny bob amser yn digwydd. Nawr, mae gennym gyfle go iawn i newid hynny.
“Mae'n hanfodol nad ydyn ni'n ceisio mynd i'r afael ag atebion anghywir i broblemau cymhleth, a fyddai'n gwneud y sefyllfa’n waeth i lawer o gwsmeriaid. Felly, mae’n rhaid i'r Llywodraeth, rheoleiddwyr, a chyrff defnyddwyr weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael bargen deg”.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
- Rydyn ni'n gwahodd sylwadau ar y drafft Fframwaith Tegwch. Cyflwynwch y sylwadau hyn erbyn 12 Awst 2019.