Cwmnïau parseli yn cyfaddef eu bod wedi torri'r gyfraith cystadleuaeth drwy gytundeb gwrth-gystadleuol

19 Medi 2019

Mae’r Post Brenhinol ac un o ailwerthwyr ei wasanaethau danfon parseli busnes – y SaleGroup, sy’n masnachu fel Despatch Bay – wedi cyfaddef bod yn rhan o gytundeb gwrth-gystadleuol anghyfreithlon.

Ym mis Mai 2018, dywedodd y Post Brenhinol wrth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) fod ei adran Parcelforce wedi llunio cytundeb gydag un o’i ailwerthwyr – Despatch Bay – a oedd yn golygu na fyddai’r naill gwmni na’r llall yn cynnig gwasanaethau danfon parseli i gwsmeriaid busnes ei gilydd.

Cafodd y mater ei drosglwyddo gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i Ofcom, fel rheoleiddiwr y gwasanaethau post, ac rydym wedi ymchwilio i’r cytundeb rhwng y ddau gwmni.

Rydym wedi canfod yn amodol bod y cytundeb yn torri cyfraith cystadleuaeth oherwydd ei fod yn ceisio cyfyngu ar gystadleuaeth drwy rannu cwsmeriaid.[1]

Sut roedd y cytundeb yn gweithio

Mae’r SaleGroup, sy’n masnachu fel Despatch Bay, yn gwmni ar-lein sy’n ailwerthu gwasanaethau danfon parseli. Mae’n trefnu danfon nwyddau i gwsmeriaid busnesau bach a chanolig drwy brynu gwasanaethau nifer o weithredwyr parseli, yn hytrach na danfon y parseli ei hun. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig un pwynt cyswllt i gwsmeriaid ar gyfer gwasanaethau gweinyddol fel biliau ac anfonebau.

Casglodd Ofcom ohebiaeth a fu rhwng y Post Brenhinol a’r SaleGroup, a oedd yn ymwneud ag o leiaf 90 o gwsmeriaid. Roedd yr ohebiaeth hon yn dangos bod y ddau gwmni wedi gweithredu, monitro a gorfodi cytundeb i rannu cwsmeriaid, a bod hyn wedi para rhwng mis Awst 2013 a mis Mai 2018. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod hyn yn berthnasol i gwsmeriaid uniongyrchol ac anuniongyrchol.

Roedd y ddau gwmni wedi gorfodi’r cytundeb drwy ohebiaeth e-bost reolaidd, gydag un fel rheol yn gofyn i’r llall dynnu dyfynbris yn ôl ar ôl ei ddarparu i rai cwsmeriaid. Roedd rhai o’r cynigion hyn yn rhatach na’r pris roedd cwsmer yn ei dalu ar y pryd. Felly pan roedd y dyfynbrisiau’n cael eu tynnu’n ôl, roedd hyn yn atal y cwsmeriaid rhag talu’r prisiau is am yr un gwasanaethau danfon parseli.

Roedd y SaleGroup hefyd wedi rhannu ei restr o gwsmeriaid â ParcelForce, gyda’r nod o sicrhau y gallai pob cwmni osgoi cynnig gwasanaethau i gwsmeriaid ei gilydd.

Dywedodd Gaucho Rasmussen, Cyfarwyddwr Ymchwiliadau a Gorfodi Ofcom: “Mae cytundebau gwrth-gystadleuol fel yr un rhwng y Post Brenhinol a’r SaleGroup wedi cael eu dylunio i gyfyngu ar gystadleuaeth, ac maent yn aml yn golygu bod cwsmeriaid yn talu pris uwch o ganlyniad i hynny.

“Mae’r math yma o ymddygiad yn torri cyfraith cystadleuaeth mewn ffordd ddifrifol ac mae’n annerbyniol.”

Cosb ariannol

O dan bolisi trugaredd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, mae’n bosibl i’r cwmni cyntaf sy’n rhan o fathau penodol o gytundeb gwrth-gystadleuol sy’n dod ymlaen a rhoi gwybod amdano gael imiwnedd rhag dirwyon, ar yr amod nad oes ymchwiliad i’r ymddygiad eisoes ar waith.

Mae’r Post Brenhinol wedi cael imiwnedd o dan y polisi hwn, sy’n golygu na fydd yn cael dirwy, ar yr amod ei fod yn parhau i gydweithredu’n llawn ag ymchwiliad Ofcom.

Mae’r SaleGroup wedi derbyn dirwy o £40,000. Mae hon yn ddirwy fawr i’r SaleGroup, wrth ystyried maint bach y cwmni.

Y camau nesaf

Mae Ofcom wedi cyhoeddi ei benderfyniad dros dro i'r Post Brenhinol a’r SaleGroup. Mae'r naill gwmni a’r llall wedi cyfaddef eu bod wedi torri cyfraith cystadleuaeth, ac mae'r SaleGroup wedi cytuno i setlo’r achos. Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad terfynol cyn bo hir.

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae cytundebau gwrth-gystadleuol wedi cael eu gwahardd gan Adran 2, Pennod I o Ddeddf Cystadleuaeth 1998 ac Erthygl 101 o’r Cytuniad ar Weithredu’r Undeb Ewropeaidd.