Ofcom yn cymeradwyo chwech o gwmnïau i gymryd rhan mewn arwerthiant sbectrwm
Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw pa gwmnïau sydd wedi cymhwyso i gymryd rhan yn yr arwerthiant sbectrwm sydd ar ddod.
Mae Ofcom yn rhyddhau rhagor o donnau awyr - neu sbectrwm - i wella band eang i ddefnyddwyr symudol heddiw, ac i baratoi ar gyfer cyflwyno gwasanaethau 5G yn y dyfodol. Bydd sbectrwm mewn dau "fand" ar gael drwy'r broses arwerthiant, y mae Ofcom yn disgwyl dechrau ei chynnal ddiwedd mis Mawrth. Dyma'r sbectrwm sydd ar gael yn yr arwerthiant:
- Bydd 40 MHz o sbectrwm yn cael ei arwerthu yn y band 2.3 GHz, sydd eisoes yn gydnaws â dyfeisiau symudol cyfredol, ac y gellid ei ddefnyddio ar unwaith ar ôl ei ryddhau.
- Bydd 150 MHz o sbectrwm yn cael ei arwerthu yn y band 3.4 GHz. Nid yw'r tonnau awyr hyn yn gydnaws â'r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol cyfredol, ond maent yn ganolog i gyflwyno 5G symudol ar draws Ewrop.
Bu cynlluniau’r arwerthiant[1], a gyhoeddwyd y llynedd, yn destun her gyfreithiol gan gwmnïau Three a BT/EE. Gwrthododd yr Uchel Lys yr hawliadau hyn ym mis Rhagfyr 2017, ac yn gynharach yn y mis hwn, gwrthododd y Llys Apêl roi caniatâd i gwmni Three apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Mae Ofcom bellach yn bwrw ymlaen â chynlluniau i gynnal yr arwerthiant mor fuan â phosibl.
Ymgeiswyr cymwys
Roedd yn ofynnol i gwmnïau gyflwyno ceisiadau i gymryd rhan yn yr arwerthiant erbyn 8 Chwefror. Mae Ofcom wedi asesu pob un o'r ceisiadau a ddaeth i law, a heddiw mae'n cyhoeddi manylion am y cwmnïau sydd wedi cymhwyso i gymryd rhan yn yr arwerthiant. Y rhain yw:
- Airspan Spectrum Holdings Limited
- EE Limited
- Connexin Limited
- Hutchison 3G UK Limited
- Telefónica UK Limited
- Vodafone Limited
Bellach mae gan bob ymgeisydd cymwys dri diwrnod i gadarnhau a ydynt am gymryd rhan, neu dynnu'n ôl o'r broses. Byddwn yn cyhoeddi'r rhestr derfynol o gynigwyr a fydd yn cymryd rhan, unwaith y bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben.
Dywedodd Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm Ofcom: "Rydyn ni'n bwrw ymlaen â'r arwerthiant i sicrhau bod y tonnau awyr hyn ar gael cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn cynnig ffordd o bori’r rhyngrwyd yn gyflymach i ddefnyddwyr symudol heddiw, gan hefyd baratoi'r ffordd ar gyfer 5G - y genhedlaeth nesaf o dechnoleg symudol.”
-DIWEDD-
NODIADAU I OLYGYDDION
Cynlluniau arwerthiant Ofcom
- Wrth arwerthu’r sbectrwm, byddwn yn gosod dau gyfyngiad gwahanol ar gynigwyr.
- Cap o 255 MHz ar y sbectrwm "y gellir ei ddefnyddio ar unwaith" y gall unrhyw weithredwr ei ddal o ganlyniad i'r arwerthiant. Mae’r cap hwn yn golygu na fydd BT/EE yn gallu cynnig am sbectrwm yn y band 2.3GHz.
- Cap o 340 MHz ar gyfanswm cyffredinol y sbectrwm symudol y mae modd i un gweithredwr ei ddal o ganlyniad i’r arwerthiant. Mae’r cap hwn yn 37% o’r holl sbectrwm symudol y mae disgwyl y bydd modd ei ddefnyddio yn 2020, sy'n cynnwys nid yn unig y sbectrwm sydd ar gael yn yr arwerthiant hwn ond hefyd y band 700MHz.