Rheolau newydd Ofcom i hybu band eang ffibr llawn
- Disgwylir y bydd y costau ymlaen llaw sy’n gysylltiedig ag adeiladu rhwydweithiau band eang gwibgyswllt yn haneru
- Penderfyniadau ynghylch prisio i annog buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffibr llawn
- Mesurau newydd i orfodi Openreach i osod a thrwsio’n gynt
Mae disgwyl y bydd mwy o gartrefi yn y DU yn mwynhau cyflymderau rhyngrwyd gwibgyswllt ar ôl i Ofcom wneud penderfyniad drafft heddiw i haneru’r gost ymlaen llaw sy’n gysylltiedig ag adeiladu rhwydweithiau band eang 'ffibr-llawn'.
Mae band eang ffibr llawn sawl gwaith yn fwy cyflym – ac oddeutu pum gwaith yn fwy dibynadwy – na gwasanaethau rhyngrwyd gwibgyswllt heddiw. Ond dim ond i 3% o gartrefi a swyddfeydd y DU y mae ar gael.
Felly heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi [1] pecyn o fesurau i wella buddsoddiad yn y ffurf band eang yma sy’n addas ar gyfer y dyfodol, yn dilyn amrywiaeth o ymrwymiadau diweddar gan gwmnïau band eang allai weld hyd at chwe miliwn o adeiladau â ffibr llawn erbyn 2020.
Rhwydweithiau rhatach, gwell a chyflymach
Rhaid i BT roi mynediad i ddarparwyr eraill at ei bolion telegraff a’i dwneli tanddaearol, a fydd yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws iddynt adeiladu eu rhwydweithiau ffibr llawn eu hunain a fydd yn cysylltu’n uniongyrchol â chartrefi ledled y DU.
Bydd y mesur hwn, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr fel Virgin Media a CityFibre, yn newid yr achos busnes dros adeiladu rhwydweithiau newydd yn sylweddol. Gallai sicrhau gostyngiad o 50% [2] yn y costau ymlaen llaw sy’n gysylltiedig â gosod ceblau ffibr – o £500 y cartref, i £250. Gallai hefyd leihau’r amser sydd ei angen ar gyfer gwaith palu, yn galluogi ffibr i gael ei osod mewn oriau ar rai strydoedd, lle byddai wedi cymryd dyddiau o’r blaen.
Bydd rhaid i Openreach, adran rhwydwaith BT, drwsio seilwaith diffygiol a chlirio twneli sydd wedi’u rhwystro pan fydd angen er mwyn i ddarparwyr allu eu defnyddio.
Rhaid i Openreach sicrhau bod lle ar gael ar ei bolion telegraff i geblau ffibr ychwanegol sy’n cysylltu cartrefi â rhwydwaith cystadleuwyr. A bydd rhaid iddo ddarparu ‘map digidol’ o'i rwydwaith o bibellau a pholion er mwyn i gystadleuwyr allu cynllunio lle maent am osod ffibr.
Hybu cyfleoedd i fuddsoddi
Ni fydd darparwyr sy'n cystadlu â’i gilydd ond yn buddsoddi yn y gwaith o adeiladu eu rhwydweithiau eu hunain os yw hyn yn fwy deniadol na phrynu gwasanaethau cyfanwerthol gan BT.
Mae hefyd angen sicrwydd ar y cwmnïau hyn y byddant, yn gyfnewid am fuddsoddi mewn ffibr llawn, yn gallu adfer rhai o’r costau drwy brisiau eu rhwydwaith yn y dyfodol.
Mae ein penderfyniad i beidio â rheoleiddio prisiau cynnyrch band eang gwibgyswllt cyfanwerthol, Openreach sy’n cynnwys ei wasanaethau ffibr-llawn, yn cefnogi’r cymhellion sydd gan weithredwyr i rhwydweithiau ffibr llawn [3].
I atal BT rhag rhwystro buddsoddiad newydd gan gystadleuwyr wrth i gystadleuaeth rhwng rhwydweithiau ddatblygu, ni fydd gan BT hawl i wneud gostyngiadau prisiau cyfanwerthol sydd wedi eu targedu mewn ardaloedd lle mae cystadleuwyr yn dechrau adeiladu rhwydweithiau newydd.
Amddiffyn defnyddwyr, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig
Ar yr un pryd, mae dyletswydd ar Ofcom i sicrhau mynediad fforddiadwy at fand eang cyflym iawn i bobl a busnesau. Rydym yn dymuno amddiffyn pobl rhag prisiau uchel, yn enwedig mewn llefydd nad ydynt yn debygol o allu manteisio ar fuddsoddi cystadleuol, fel ardaloedd gwledig.
Byddwn yn gwneud hyn drwy leihau’r pris cyfanwerthol y gall Openreach ei godi ar gwmnïau telegyfathrebiadau am ei wasanaeth band eang cyflym iawn sylfaenol, sydd â chyflymder llwytho i lawr o 40Mbit yr eiliad, a chyflymder llwytho i fyny o 10Mbit yr eiliad. [4]
Bydd rheoleiddio'r pris hwn hefyd yn helpu cystadleuwyr BT i gystadlu am gwsmeriaid, tra bydd nifer ohonynt yn adeiladu eu rhwydweithiau ffibr llawn eu hunain, yn ogystal ag amddiffyn cwsmeriaid rhag prisiau uchel yn ystod y cyfnod hwn. Ym mis Mawrth 2017, fe wnaethom gynnig gosod pris misol ar gyfer pecyn band eang Openreach o ‘40/10’ Mbit yr eiliad erbyn 2021 am £11.23. Yn dilyn ein hymgynghoriad, byddwn yn newid hwn i £11.92.
Codi stêm
Mae’r penderfyniadau drafft heddiw’n cadarnhau mesurau o blaid buddsoddiad a bennwyd gan Ofcom yn 2017. Ers i ni gyflwyno’r rhain, mae'r momentwm y tu ôl i fand eang ffibr llawn yn y DU wedi codi stêm yn sylweddol. Mae ystod o gwmnïau band eang wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi, gan gynnwys y canlynol:
- Mae Virgin Media wedi gwneud cynnydd ar ei ymrwymiad blaenorol i gyrraedd pedair miliwn yn rhagor o adeiladau, a hanner y rheini gan ddefnyddio ffibr llawn.
- Nod Gigaclear yw cyrraedd 150,000 o gartrefi gwledig erbyn 2020.
- Nod Hyperoptic yw darparu ffibr llawn i bum miliwn o adeiladau erbyn 2025.
- Nod KCOM yw sicrhau darpariaeth ffibr llawn ledled ei rwydwaith erbyn mis Mawrth 2019, gan gyrraedd 200,000 o adeiladau yn ardal Hull.
- Nod CityFibre, mewn partneriaeth â Vodafone, yw cyflwyno ffibr llawn i bum miliwn o gartrefi erbyn 2025.
- Nod Openreach yw cysylltu tair miliwn o gartrefi a busnesau â ffibr llawn erbyn 2020.
- Nod TalkTalk yw darparu ffibr llawn i dair miliwn o adeiladau.
Byddai’r cynlluniau hyn yn cynyddu darpariaeth ffibr llawn yn y DU o 3% heddiw i hyd at 20% erbyn 2020. Mae’r mesurau heddiw wedi’u dylunio er mwyn helpu i ddarparu hyn ac i hybu rhagor o fuddsoddiad y tu hwnt i’r uchelgeisiau hyn.
Dywedodd Jonathan Oxley, Cyfarwyddwr Grŵp Cystadleuaeth Ofcom: “Mae ffibr llawn yn diwallu anghenion band eang y wlad yn y dyfodol, wrth i’r galw am ddata saethu i fyny.
“Bydd cyflymderau gwibgyswllt yn caniatáu i bobl lwytho ffilmiau cyfan i lawr, neu i fusnesau rannu ffeiliau anferth, bron ar unwaith. Bydd ffibr llawn hefyd yn sail i dechnoleg gyffrous, fel diagnosteg gofal iechyd o bell, dyfeisiau wedi’u cysylltu â dyfeisiau symudol 5G.
“Bydd y mesurau rydym wedi’u pennu heddiw yn cefnogi’r nifer cynyddol o gwmnïau sydd eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu rhwydweithiau ffibr llawn, ac i fraenaru'r tir ar gyfer hyd yn oed mwy o fuddsoddiadau uchelgeisiol ledled y DU.”
Gwella gwaith gosod a thrwsio
Bydd symud cwsmeriaid i fand eang ffibr llawn yn broses raddol. Yn y cyfamser, mae Ofcom eisiau sicrhau bod Openreach yn gosod llinellau newydd ar ei rwydwaith presennol, ac yn trwsio namau yn gynt.
Felly, rydym wedi penderfynu y bydd rhaid i Openreach wneud y canlynol yn y dyfodol:
- trwsio o leiaf 88% o namau cyn pen un neu ddau ddiwrnod gwaith o gael gwybod amdanynt, sy’n uwch na 80% heddiw;
- trwsio o leiaf 97% o namau cyn pen 7 diwrnod gwaith;
- darparu apwyntiad ar gyfer 90% o'r achosion o osod llinell newydd cyn pen 10 diwrnod gwaith o gael gwybod, o’i gymharu â 80% cyn pen 12 diwrnod ar hyn o bryd; a
- gosod 95% o gysylltiadau ar y dyddiad y cytunir arno rhwng Openreach a’r darparwr telegyfathrebiadau, i fyny o 90% heddiw.
Rhaid bodloni’r gofynion newydd hyn erbyn 2020/21. Mae Ofcom hefyd wedi pennu targedau dros dro i sicrhau gwelliannau graddol yn ei wasanaeth cyn hynny. Byddwn yn monitro perfformiad Openreach yn agos ac yn camu i mewn os na chaiff y safonau gorfodol eu diwallu. [5]
Mae’r rheolau hyn yn rhan o ystod o fesurau i sicrhau bod pob cwmni telegyfathrebiadau yn darparu gwasanaethau o’r ansawdd mae cwsmeriaid yn ei ddisgwyl. Er enghraifft, mae Ofcom eisoes wedi cyhoeddi y bydd defnyddwyr band eang a llinell dir sefydlog yn cael iawndal yn awtomatig pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le.
Rydym hefyd yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU i roi hawl i gartrefi a busnesau ledled y wlad ofyn am gysylltiad band eang boddhaol, gan gynnwys rhai mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.
Y camau nesaf
Mae'r penderfyniadau drafft heddiw yn dilyn adolygiad Ofcom o'r farchnad ‘Mynediad Lleol Cyfanwerthol’, sy’n nodi faint o arian y gall Openreach ei godi ar ddarparwyr telegyfathrebiadau am werthu gwasanaethau band eang cyflym iawn dros ei rwydwaith heddiw. Byddant yn berthnasol o fis Ebrill 2018 tan fis Mawrth 2021.
Mae ein mesurau wedi cael eu cyflwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd er mwyn iddo gael cyfle i roi sylwadau arnynt; ar ôl hynny byddwn yn cyhoeddi ein datganiad terfynol fis nesaf.
NODIADAU I OLYGYDDION
1. O dan Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith mae’n rhaid i ni roi gwybod i’r Comisiwn Ewropeaidd, BEREC ac awdurdodau rheoleiddio cenedlaethol eraill am ein cynigion terfynol ar ôl cwblhau proses ymgynghori ddomestig. Mae gan y sefydliadau hyn fis i gyflwyno eu sylwadau i ni.
2. Mae Ofcom yn amcangyfrif bod ailddefnyddio isadeiledd presennol yn galluogi arbedion costau sylweddol, gan leihau’r gost ar gyfartaledd fesul cartref mewn rhai achosion i hyd at 50%. O ystyried costau rheolaidd, yn cynnwys costau rhentu polion a phibellau, mae’r gostyngiad mewn costau oes gyfan yn is, er yn sylweddol.
3. Mae mynediad polion a phibelli yn lleihau’r costau ar gyfer ffibr-llawn tra bod hyblygrwydd prisio am wasanaethau lled band uwch, ynghyd â’r galw cynyddol am y gwasanaethau hyn, yn debygol o arwain at gostau ‘prynu’ uwch dros amser fe; a ddengys yn y darlun isod:
4. Hyd yma, mae parodrwydd pobl i ystyried band eang ‘copr’ safonol, rhatach fel dewis amgen wedi cyfyngu ar allu BT i godi prisiau cyfanwerthol am fand eang cyflym iawn. Fodd bynnag, mae'r cyfyngiad hwn yn gwanhau wrth i’r anghenion pobl o ran cysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy gynyddu. Mae prisiau cyfanwerthol y band eang safonol sy’n cael ei ddarparu drwy rwydwaith copr presennol Openreach wedi bod yn cael eu rheoli ers peth amser, a bydd hyn yn parhau yn ystod y blynyddoedd nesaf, gyda’r pris yn aros yn gymharol sefydlog. Dyma’r ‘llwybrau disgyn’ ar gyfer rheoli prisiau blynyddol ‘40/10’ Mbit yr eiliad a mynediad copr:
| Pris blynyddol cyfredol | Prisiau blynyddol yn y dyfodol | ||
---|---|---|---|---|
2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | ||
Rhentu 40/10 Mbit yr eiliad | £88.80 | £68.69 | £59.98 | £59.04 |
Mynediad copr | £84.38 | £84.85 | £84.09 | £84.03 |
Pris cyfun | £173.18 | £153.54 | £144.07 | £143.07 |
Mae’r gwasanaeth ‘hyd at 40 Mbit/yr eiliad, a’r gwasanaeth mynediad copr yn angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau band eang gwibgyswllt manwerthol.
5. Bydd targedau ansawdd gwasanaeth yn cymryd i ystyriaeth ffactorau allanol y tu hwnt i reolaeth rhesymol Openreach, fel tywydd eithafol. Bydd y targedau yn caniatáu bod hyd at 3% o waith trwsio ac 1% o waith gosod, mewn blwyddyn arferol, yn cael eu gohirio gan ffactorau o’r fath.