Mae Ofcom wedi canfod bod dros chwarter miliwn o gartrefi yng Nghymru nawr yn gallu cael mynediad at fand eang ffeibr llawn – cysylltiadau cyflym a dibynadwy sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Daw’r canfyddiad hwn o adroddiad blynyddol Cysylltu'r Gwledydd Ofcom sy’n dadansoddi’r gwasanaethau band eang a symudol sydd ar gael ledled y DU a’i gwledydd.
Daw adroddiad eleni wrth i filiynau o bobl barhau i weithio gartref o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, sydd wedi gweld newid sylweddol o ran pryd, ble a sut mae pobl yn mynd ar-lein ac yn gwneud galwadau.
Mae band eang ffeibr llawn yn gallu rhedeg ar gyflymder o hyd at 1 Gbit yr eiliad, sawl gwaith yn gyflymach na chyflymder band eang cyfartalog y DU heddiw. Gall y cysylltiad cyflymach hwn gefnogi aelwydydd sydd eisiau ffrydio, gweithio ac astudio ar-lein yn well – i gyd ar yr un pryd. Gallwch lwytho pennod o’ch hoff sioe i lawr mewn ychydig eiliadau, a gall chwaraewyr gemau fwynhau profiad gwell gydag ymatebion bron yn syth ar y sgrin.
Band eang ffeibr llawn, sy’n defnyddio cysylltiadau ffeibr optig yr holl ffordd i’ch cartref – gan ddisodli’r gwifrau copr degawdau oed a osodwyd ar gyfer y rhwydwaith ffôn yn wreiddiol ac sy’n fwy tebygol o gael eu heffeithio yn ystod cyfnodau brig a thywydd garw.
Mae adroddiad heddiw yn dangos bod band eang ffeibr llawn bellach ar gael i 265,400 o gartrefi yng Nghymru (19%) sy’n gynnydd o 7 pwynt canran ers y llynedd ac 1% yn uwch na chyfartaledd y DU. Mae argaeledd yn y DU ar ei uchaf yng Ngogledd Iwerddon (56%).
Ers cwblhau prosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru a BT, a oedd yn defnyddio technoleg ffeibr i’r cabinet yn bennaf i gartrefi a busnesau, mae Openreach wedi dechrau cyflwyno gwasanaethau ffeibr i’r cartref i rai o’r ardaloedd anoddaf eu cyrraedd yng Nghymru. Ymhlith y datblygiadau diweddar mae pentref Llanymawddwy yng Ngwynedd, Paradwys yn Ynys Môn a Llancarfan ym Mro Morgannwg.
Un o brif fanteision ffeibr llawn dros dechnolegau hŷn yw ei ddibynadwyedd uwch. Mae hyn yn bwysig, gan fod cartrefi sy’n chwilio am ddata yn y DU yn defnyddio 429 gigabeit (GB) o ddata ar gyfartaledd bob mis yn 2020 – cynnydd o 36% ers y llynedd (315GB), a 225% o bedair blynedd yn ôl (132GB yn 2016).
Mae buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau ffeibr yn hanfodol i sicrhau bod rhwydweithiau Cymru yn gallu ymdopi â’r galw cynyddol hwn. Mae Ofcom wedi cyflwyno cynigion i hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad ychwanegol mewn ffeibr llawn, a byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol ym mis Mawrth.
Dywedodd Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: “Mae’r cyfnod clo wedi dangos i bawb pa mor hanfodol bwysig yw band eang cyflym a dibynadwy i deuluoedd a busnesau ledled Cymru. Mae’n galonogol bod argaeledd ffeibr llawn yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU, ond yr her fydd cynnal momentwm wrth i fand eang ffeibr llawn gynyddu ledled y DU.”
“Byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraethau, diwydiant ac eraill ledled Cymru a’r DU i gefnogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau a helpu i ddod â gwell gwasanaethau i bobl ac i fusnesau yng Nghymru.”
Mae'r mwyafrif helaeth (94%) o gartrefi yng Nghymru bellach yn gallu cael band eang cyflym iawn, sy'n darparu cyflymder llwytho i lawr o 30Mbit yr eiliad o leiaf ac sy'n diwallu anghenion presennol y rhan fwyaf o gartrefi. Ond mewn ardaloedd gwledig, mae hyn yn gostwng i 78%.
Ac mae 1.2% o eiddo yng Nghymru (tua 18,000) yn dal yn methu cael band eang ‘digonol’ – sy’n cael ei ddiffinio fel cynnig cyflymder llwytho i lawr o 10 Mbit yr eiliad a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr eiliad. Ers yn gynharach eleni, mae rhai pobl yn gallu cael help i gysylltu o dan wasanaeth band eang cyffredinol Llywodraeth y DU. Gwneir ceisiadau am y cysylltiadau hyn i BT a KCOM, a fydd yn asesu cymhwysedd eiddo ar gyfer y cynllun.
Mae adroddiad eleni hefyd yn tynnu sylw at y rôl bwysig a chwaraeir gan gwmnïau sy’n defnyddio technoleg Mynediad Di-wifr Sefydlog i ddarparu band eang yng Nghymru. Mae hyn yn caniatáu i eiddo sydd o fewn golwg mast gael gwasanaethau band eang drwy ddysgl microdon. Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi darparu’r gwasanaethau hyn ers blynyddoedd lawer, ond maent bellach yn cael eu cynnig gan dri o’r pedwar cwmni rhwydwaith symudol.
Mae holl weithredwyr rhwydweithiau symudol y DU wedi parhau i gyflwyno darpariaeth 5G newydd eleni, gyda thua 3,000 o drosglwyddyddion 5G bellach mewn lleoliadau ar draws y pedair gwlad – deg gwaith cymaint â’r llynedd.
Rydym yn amcangyfrif bod gwasanaethau 4G ar gael gan y pedwar rhwydwaith ar draws 60% o dirfas Cymru a dan do mewn 73% o eiddo. Yng Nghymru wledig, mae’r ffigurau’n gostwng i 57% a 43% yn y drefn honno ar gyfer 97.5% o eiddo’r DU. Ac er bod pobl yn gallu cael signal 4G gan o leiaf un rhwydwaith ar draws y rhan fwyaf o Gymru, mae ardaloedd sy’n cynnwys 10% o dirfas Cymru yn dal yn ‘fannau di-gyswllt’, heb unrhyw rwydwaith symudol ar gael.
Yn gynharach eleni, cytunodd y diwydiant symudol a Llywodraeth y DU i ddatblygu’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir, sy’n ceisio gwella darpariaeth 4G a helpu i fynd i’r afael â mannau di-gyswllt symudol. Bydd Ofcom yn monitro ac yn adrodd ar gynnydd y rhaglen ar y cyd yn adroddiadau Cysylltu’r Gwledydd y dyfodol.
Mae llawer o alw wedi bod am rwydweithiau band eang a symudol drwy gydol y flwyddyn, gyda’r coronafeirws yn arwain at newidiadau mawr ym mhatrymau defnyddio pobl.
Roedd traffig yn ystod y dydd ar fand eang yn y cartref wedi cynyddu’n sylweddol wrth i lawer o bobl weithio gartref. Er bod rhwydweithiau symudol wedi gweld lefelau uwch nag erioed o draffig llais yn ystod y cyfnod clo cyntaf ledled y DU.
Mae gwasanaethau band eang a symudol wedi aros yn gadarn wrth i rwydweithiau roi mesurau ar waith i gynyddu capasiti a rheoli’r galw ychwanegol hwn. Mae ein data’n dangos bod nifer y problemau diogelwch a chadernid rhwydweithiau – gan gynnwys cyfnodau segur – y rhoddwyd gwybod i ni eu bod yn weddol debyg i’r blynyddoedd diwethaf, sy’n awgrymu bod y rhwydweithiau wedi ymdopi’n dda ar y cyfan yn ystod cyfnodau clo’r coronafeirws.
Ochr yn ochr â’r adroddiad Cysylltu’r Gwledydd ledled y DU, rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar sut mae gwasanaethau symudol a band eang yn cymharu ym mhob un o wledydd y DU.