Helpu defnyddwyr band eang a ffonau symudol i gadw’r cysylltiad

25 Mawrth 2020

  • Wrth i deuluoedd weithio a dysgu gartref, mae Ofcom yn cyflwyno awgrymiadau ymarferol i gael y gorau o’ch cysylltiadau
  • Ewch i ofcom.in/cadwr-cysylltiad

Mae Ofcom yn lansio ymgyrch wybodaeth genedlaethol, a gefnogwyd gan Lywodraeth y DU a diwydiant, i helpu defnyddwyr band eang a ffonau symudol i gael y gorau o’u cysylltiadau, wrth i filoedd o deuluoedd ddechrau gweithio a dysgu gartref.

Mae’r ymgyrch, Cadw’r Cysylltiad, yn esbonio amrywiaeth o awgrymiadau difyr a chyngor ymarferol i helpu pobl i gael y cyflymder a’r derbyniad sydd eu hangen arnyn nhw, mewn cyfnod pan fo band eang a ffonau symudol yn bwysicach nag erioed o ran helpu pawb i gyfathrebu.

Mae’r rhwydweithiau band eang a ffonau symudol yn gweld newid yn y galw o ganlyniad i’r ymateb i goronafeirws (Covid-19), wrth i lawer o deuluoedd fod ar-lein gyda’i gilydd yn ystod y dydd wrth weithio a dysgu gartref.  Mae cwmnïau telegyfathrebiadau yn monitro traffig ar eu rhwydweithiau’n gyson ac yn cymryd camau i sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n effeithiol.

Mae’r cwmnïau rhwydwaith yn hyderus y byddan nhw’n gallu ateb y galw cynyddol; a gallwn ni i gyd chwarae ein rhan drwy helpu i reoli sut rydym yn defnyddio ein band eang, ein ffonau cartref a’n ffonau symudol.

Cadw'r Cysylltiad

Cyngor syml ar gyfer cadw'r cysylltiad

Wrth i fwy o bobl yn y cartref ddefnyddio'r un cysylltiad, gall ddeiliaid tai gymryd camau eu hunain i reoli eu defnydd o ddata fel bod pawb yn y cartref yn cael y lled band sydd ei angen arnyn nhw-boed hynny ar gyfer ffrydio fideos, rhith-gyfarfodydd neu alwadau llais.

Mae Ofcom wedi nodi amrywiaeth o fesurau syml, ac rydyn ni’n annog pobl i’w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol i helpu eraill i gadw mewn cysylltiad hefyd.

Dywedodd Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae teuluoedd ar draws y DU yn mynd ar-lein gyda’i gilydd yr wythnos hon, ac yn aml maen nhw’n jyglo gwaith a chadw’r plant yn brysur ar yr un pryd. Felly rydyn ni’n annog pobl i ddarllen ein cyngor ar gael y gorau o’u band eang, eu ffonau cartref a’u ffonau symudol - a’i rannu gyda ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr, i’w helpu i gadw mewn cysylltiad hefyd.”

Dywedodd Oliver Dowden, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: "Ar hyn o bryd mae angen i bobl aros gartref i amddiffyn y GIG ac achub bywydau. Bydd cyflymderau rhyngrwyd dibynadwy yn hanfodol er mwyn i ni allu gweithio o gartref lle y bo'n bosibl, cadw mewn cysylltiad â'n teuluoedd a chael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd.

“Rwy'n annog pawb i ddarllen awgrymiadau a chyngor defnyddiol Ofcom er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gorau o'u cysylltiadau band eang a rhyngrwyd symudol yn ystod y cyfnod eithriadol hwn."

Saith awgrym ar gyfer cadw’r cysylltiad

Rydyn ni’n dechrau heddiw gyda saith awgrym y gall pobl eu dilyn. Mae’n bosib dilyn y rhan fwyaf ohonyn nhw ar unwaith, am ddim.

1. Defnyddiwch eich llinell sefydlog neu wi-fi os gallwch chi

Bydd mwy o bobl yn gwneud galwadau ar eu rhwydwaith ffôn symudol yn ystod y dydd. Oherwydd y galw mawr, efallai y cewch chi gysylltiad mwy dibynadwy yn defnyddio eich llinell sefydlog. Os oes angen i chi ddefnyddio’ch ffôn symudol, ceisiwch ddefnyddio’ch gosodiadau i alluogi ‘ffonio drwy wi-fi’. Mae rhai pecynnau ffonau clyfar a ffonau symudol yn gadael i’ch ffôn wneud galwadau dros eich rhwydwaith band eang, sydd yn aml yn darparu’r ansawdd sŵn gorau ac mae hefyd yn helpu i leihau’r galw ar y rhwydwaith ffonau symudol. Yn yr un modd, gallwch chi wneud galwadau llais dros y rhyngrwyd drwy ddefnyddio apiau fel Facetime, Skype neu WhatsApp.

2. Symudwch eich llwybrydd fel nad yw ar bwys unrhyw ddyfeisiau eraill

Cadwch eich llwybrydd cyn belled â phosib oddi wrth ddyfeisiau eraill, a'r rheini sy'n gweithredu'n ddi-wifr. Mae ffonau di-wifr, monitorau babi, lampau halogen, switshis pylu, seinyddion stereo neu gyfrifiadur, setiau teledu a monitorau i gyd yn gallu effeithio ar eich wi-fi os ydyn nhw’n rhy agos at eich llwybrydd. Oeddech chi’n gwybod bod poptai microdon yn gallu lleihau signalau wi-fi hefyd? Felly peidiwch â defnyddio’r microdon os ydych chi’n gwneud galwadau fideo, yn gwylio fideos HD neu’n gwneud rhywbeth pwysig ar-lein. Hefyd, ceisiwch roi eich llwybrydd ar fwrdd neu ar silff yn hytrach nag ar y llawr, a pheidiwch â’i ddiffodd.

3. Lleihau’r galw ar eich cysylltiad

Po fwyaf o ddyfeisiau sydd ynghlwm wrth eich wi-fi, yr arafaf fydd y cyflymder a gewch chi. Mae dyfeisiau fel tabledi a ffonau clyfar yn aml yn gweithio yn y cefndir, felly ceisiwch ddiffodd derbyniad wi-fi y rhain pan nad ydych chi’n eu defnyddio. Os ydych chi’n cynnal galwadau fideo neu gyfarfodydd, bydd diffodd y fideo a defnyddio sain yn rhoi llawer llai o bwysau ar eich cysylltiad â’r rhyngrwyd; neu defnyddiwch nhw ar adegau llai cyffredin, yn lle ar yr awr neu hanner awr. Efallai y byddwch chi eisiau rheoli gweithgarwch ar-lein eich teulu, fel nad yw gwahanol bobl yn gwneud gormod o bethau (fel ffrydio HD, chwarae gemau neu alwadau fideo) ar yr un pryd. Mae llwytho fideo i lawr o flaen llaw, yn hytrach na’i ffrydio, yn gallu helpu hefyd.

4. Rhowch gynnig ar gysylltiad gyda chebl yn hytrach na di-wifr

I gael y cyflymder band eang gorau, defnyddiwch gebl Ethernet i gysylltu eich cyfrifiadur â’ch llwybrydd yn syth yn hytrach na defnyddio wi-fi. Cebl rhwydweithio cyfrifiadurol yw hon a ddylai roi cysylltiad cyflymach a mwy dibynadwy i chi. Mae nhw ar gael am gyn lleied â £3.

5. Plygiwch eich llwybrydd yn syth i’ch prif soced ffôn

Lle’n bosibl, ceisiwch beidio â defnyddio ceblau estyniad ffôn, oherwydd mae’r rhain yn gallu achosi ymyriant a allai arafu eich cyflymderau.   Os oes yn rhaid i chi ddefnyddio cebl estyniad, defnyddiwch gebl newydd o ansawdd uchel sydd cyn fyrred â phosib. Mae ceblau sydd mewn coil neu mewn clymau hefyd yn gallu effeithio ar gyflymder. Gallai ymyriant ar eich llinell ffôn arafu eich band eang hefyd. Felly, ceisiwch blygio ‘microhidlyddion’ ym mhob soced ffôn yn eich cartref. Maen nhw’n edrych fel blychau bach gwyn ac maen nhw’n hollti’r signalau ffôn a band eang fel nad ydyn nhw’n effeithio ar ei gilydd. Mae gan wahanol ddarparwyr wahanol systemau yn y cartref, felly cofiwch wirio eu gwefannau cyn datgysylltu unrhyw geblau.

6. Profwch y cyflymder ar eich llinell band eang

Profwch pa gyflymder rydych chi’n ei gael mewn gwirionedd. Gallwch chi redeg prawf cyflymder gan ddefnyddio gwiriwr band eang a ffonau symudol swyddogol Ofcom sydd ar gael yn Gymraeg. Os yw’n bosibl, cynhaliwch y profion dros ychydig ddyddiau ac ar wahanol adegau o’r dydd.  Gall nifer o ffactorau yn y cartref effeithio ar gyflymderau wifi, felly mynnwch gip ar wefan eich darparwr am gyfarwyddid ynghylch gwella eich signal o gwmpas y cartref. Gallwch chi lwytho’r gwiriwr i lawr fel ap ffôn clyfar (chwiliwch am Ofcom yn siop apiau Apple neu yn Google Play) neu ei ddefnyddio drwy eich porwr rhyngrwyd.

7. Mynnwch gyngor wrth eich darparwr band eang

Os ydych chi’n meddwl nad yw eich cysylltiad yn gweithio’n ddigon da, galwch ddod o hyd i gyngor ar wefan eich darparwr band eang -sydd hefyd ar gael ar gyfer ffonau symudol. Os oes angen i chi gysylltu â nhw am gyngor, byddwch yn ymwybodol, oherwydd y coronafeirws, mae gan rai cwmnïau lai o bobl i helpu gyda’ch ymholiadau. Mae’r rhan fwyaf yn blaenoriaethu cwsmeriaid bregus a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, felly cofiwch ystyried hyn.

Gallwch chi gael rhagor o gyngor manwl ar wella eich cysylltiadau band eang a ffonau symudol ar ofcom.in/cadwr-cysylltiad. Byddwn yn cynnig awgrymiadau newydd bob dydd, felly dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

DIWEDD